Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dyn o Shotton yn cael ei erlyn am werthu pecyn sigarét electronig anniogel
Published: 01/12/2014
Mae dyn a werthodd teclynnau gwefru e-sigaréts anniogel yn ei siop yn Sir y
Fflint wedi ei erlyn gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint.
Plediodd Mr Anthony Bowman, Rheolwr Gyfarwyddwr Crystal Clear Vape Limited yn
euog i droseddau o gyflenwi pecyn sigarét electronig anniogel nad oedd yn
bodloni gofynion Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005. Roedd y pecyn
yn cynnwys teclyn gwefru nad oedd wedi ei inswleiddio na’i weirio’n iawn na
chwaith wedi ei labelun ddigonol. Roedd yn peri risg o sioc drydanol ir
defnyddiwr ac, o bosibl, yn berygl tân petai’n gorboethi.
Cafodd Mr Bowman a Crystal Clear Vape Limited ddirwy o £500 yr un a’u gorchymyn
i dalu £50 o ordal dioddefwr ynghyd âr costau erlyn.
Cynhaliodd swyddogion Safonau Masnach brawf ar un pecyn sigarét yn gynharach
eleni ar ôl derbyn cwyn bod pecyn a brynwyd o siop Vapours Clear Crystal yn
Shotton wedi gorboethi a mynd ar dân wrth iddo gael ei wefru gydag uned pwer.
Yn yr achos hwn nid oedd yr uned pwer wedi ei brynu o siop Crystal Clear. Fodd
bynnag, dywedodd tyst arbenigol, a gynhaliodd archwiliad dilynol or pecyn
e-sigarennau a’r eitem dan sylw nad oedd y teclyn gwefru yn y pecyn yn
cydymffurfio âr rheoliadau.
Dywedodd Mr Bowman ei fod wedi mewnforio’r eitemau o Tsieina ac nad oedd wedi
deall yn llawn y cyfrifoldebau a oedd arno i sicrhau bod y cynnyrch yn bodloni
gofynion diogelwch. Dywedodd wrth y llys nad oedd yn dod o gefndir technegol,
ond ei fod bellach yn prynu cynnyrch wedi eu profin llawn gan fewnforiwr ag
enw da a’i fod yn hyderus eu bod yn ddiogel. Dywedodd ei fod hefyd wedi lleihau
maint ei fusnes e-sigarennau.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff,
Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden:
“Rydym wedi dod yn gynyddol bryderus o declynnau gwefru rhad a fewnforir,
llawer ohonynt yn cael eu mewnforio yn uniongyrchol or Dwyrain Pell gan
fusnesau bach neu unigolion syn masnachu ar y rhyngrwyd. Dylai unrhyw un sy’n
mewnforio nwyddau trydanol sicrhau bod y nwyddau yn ddiogel neu, fel arall,
byddant yn rhoi defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig mewn perygl.
“Mae ein swyddogion Safonau Masnach mewn cysylltiad rheolaidd â mewnforwyr yn
Sir y Fflint ac yn rhoi cyngor i fusnesau lleol iw helpu i gydymffurfio â
gofynion diogelwch. Ond, pan roddir diogelwch defnyddwyr mewn perygl, bydd
camau ffurfiol yn cael eu hystyried bob tro. Rydym yn annog cyflenwyr lleol
sy’n ansicr ou gofynion cyfreithiol i gysylltu â Safonau Masnach am gyngor ac
arweiniad ar 01352 703181.”