Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cael eich twrci’n barod ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Dadrewi Eich Twrci
Published: 22/12/2014
Er mwyn helpu pobl i aros yn ddiogel yn ystod y Nadolig, bydd Cyngor Sir y
Fflint yn cefnogir
Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) ar Ddiwrnod Cenedlaethol Dadrewi Eich Twrci ddydd
Llun 22 Rhagfyr 2014.
Bydd y diwrnod hwn yn annog cogyddion y Nadolig i ddechrau meddwl am y broses
ddadmer mewn da bryd ac
osgoi cael eu dal allan. Gall twrci mawr nodweddiadol gymryd dau ddiwrnod i
ddadmer.
Dim ond un o bob pedwar o bobl sy’n ei gael yn iawn drwy ddadmer eu twrci yn yr
oergell. Mae’r Asiantaeth
Safonau Bwyd yn pryderu bod llawer mewn perygl o gael rhodd annymunol o wenwyn
bwyd
y Nadolig hwn. Mae dadmer anghywir yn rhoi llwyfan i facteria megis
campylobacter i ledaenu, gan eich gadael
gyda chinio twrci syn edrych ac yn blasun fendigedig ond maen cynnwys risg
cudd na ellir ei weld, ei flasu
na’i arogli, ond gall ddifetha eich blwyddyn newydd.
O ddiwedd Rhagfyr 2013 at ddechrau Ionawr 2014 roedd mwy na 3,000 o achosion o
campylobacter wedi eu
cadarnhau yng Nghymru a Lloegr – arwydd bod angen cymryd mwy o ofal wrth
baratoi, storio a bwyta twrci
gartref yn ystod cyfnod y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod
y Cyhoedd a Hamdden:
“Os ydych chi am gofio eich cinio Nadolig am y rhesymau iawn, dilynwch gyngor
yr ASB ar yr
arferion diogel a argymhellir wrth baratoi, coginio a storio twrci. Cewch wybod
mwy am awgrymiadau
gwych yr Asiantaethau Safonau Bwyd yn: www.food.gov.uk/christmas2014
“Rydym i gyd yn mwynhau ein cinio twrci adeg y Nadolig ac ni ddylai eleni fod
yn eithriad. Y pethau bychain
rydych yn ei wneud sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Felly, os ydych yn
gwneud yn siwr bod eich twrci
yn cael ei ddadmer yn ddiogel ac mewn da bryd, gallwch fwynhau eich pryd bwyd
yn hapus ac yn ddiogel,
meddai Nina Purcell, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru.
Maer Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori wrth baratoi eich twrci wedi rhewi y
dylech:
• Ddilyn yr amser dadmer a argymhellir gan y manwerthwr. Bydd maint eich twrci
yn dangos faint mae ei
angen i ddadmer (gall twrci 11 cilogram mawr gymryd hyd at ddau ddiwrnod i
ddadmer).
• Dylech ddadmer y twrci yn yr oergell os yn bosibl neu rywle oer. Mae
tymheredd oer yn arafu twf
germau ar fwyd a bydd yn ei gadwn ddiogel ac yn ffres.
• Gorchuddiwch y twrci tra’n ei ddadrewi, gadewch yn y deunydd pacio neu ei roi
mewn cynhwysydd i
ddal unrhyw sudd dadmer, ai osod ar waelod yr oergell er mwyn osgoi
croeshalogi.
• Dylech ei ddadmer yn drylwyr, neu fel arall efallai na fydd eich twrci’n
coginio drwyddo a gallai bacteria
niweidiol oroesi’r broses goginio.
• Dylai twrci amrwd bob amser gael ei roi yng ngwaelod yr oergell nes bydd yn
barod iw ddefnyddio.
Gall ei adael ar yr arwyneb gwaith yn y gegin ar dymheredd ystafell gynyddu
eich risg o wenwyn bwyd.
- Peidiwch â golchi eich twrci neu unrhyw gig neu ddofednod amrwd
arall. Bydd coginio’n drwyadl yn
lladd unrhyw facteria syn bresennol, gan gynnwys campylobacter, tra gall
golchi cyw iâr ledaenu germau drwy
dasgu ar arwynebau neu offer eraill; arwynebau gwaith yn y gegin ac unrhyw beth
arall o fewn cyrraedd, gan
gynnwys chi!
· Coginiwch yn drylwyr ac edrych bob amser ar gyfarwyddiadaur manwerthwr ar
gyfer amseroedd
coginio gan y bydd yn amrywio yn ôl maint y twrci. Byddwch yn ymwybodol y
gallai ffyrnau â chymorth ffan
goginio eich twrci yn gynt. I wirio bod eich twrci yn barod gwnewch yn siwr ei
fod yn chwilboeth drwyddo –
torrwch i mewn i ran fwyaf trwchus y twrci, ni ddylai dim or cig fod yn binc
a dylai unrhyw hylif redeg yn glir.
· Coginiwch unrhyw stwffin mewn dysgl rostio ar wahân, yn hytrach nag y tu mewn
ir aderyn, gan
y bydd yn coginio’n haws a bydd y canllawiau coginio ar gyfer y twrci yn fwy
cywir.
Beth yw campylobacter?
Campylobacter ywr enw generig ar gyfer nifer o rywogaethau o facteria syn
gallu achosi gwenwyn bwyd mewn
pobl. Maent yn achosi mwy o achosion o wenwyn bwyd yn y DU na salmonela, E.
coli a listeria cyfunol.
Mae bacteria campylobacter iw cael yn gyffredin ar gig dofednod. Mae rhwng 50%
a 80% o achosion o
wenwyn bwyd campylobacter yn y DU a gwledydd eraill yr UE yn cael ei briodoli i
ffynonellau dofednod,
cig dofednod amrwd yn bennaf.
Pam bod hyn yn bwysig?
Daw 50% i 80% o achosion o wenwyn campylobacter a gadarnhawyd yn y DU o
ddofednod wedi’i halogi.
Gall gwenwyn campylobacter arwain at salwch, gan gynnwys poen yn yr abdomen,
dolur rhydd, anabledd a
hyd yn oed yn waeth. Y rhai syn wynebur risg fwyaf yw plant a phobl hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.food.gov.uk/christmas2014 .
I gael cyngor ar drin dofednod yn ddiogel, ewch i www.food.gov.uk/chicken