Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygiad gofal dementia
Published: 29/04/2014
Mae adolygiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
wedi amlygu’r cymorth cadarnhaol y mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint
yn ei ddarparu i bobl gyda dementia a’u gofalwyr.
Roedd yr adroddiad, a ryddhawyd ar 16 Ebrill yn amlygu gwasanaeth Byw’n Dda y
Cyngor fel model o arfer da.
Mae Byw’n Dda yn cefnogi pobl gyda dementia i fyw gartref trwy gynnig cymorth
teilwredig sydd wedi’i seilio ar ddealltwriaeth glir o’u bywyd yn y gorffennol,
a’u cryfderau a’u dymuniadau personol. Yn bwysig mae gan staff y disgresiwn i
amrywio’r cymorth a ddarperir yn ôl y sefyllfa ar y diwrnod.
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Wasanaethau Cymdeithasol a’r Eiriolwr dros Bobl Hyn:
“Rwyf yn falch iawn fod Cyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd ar ofal
dementia, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad hwn. Mae’n gwasanaethau megis
caffis dementia, tai gofal ychwanegol arbenigol a chymorth gofal cartref o
ansawdd, ble mae staff tra hyfforddedig yn cymryd amser gyda phobl, yn rhoi’r
gofal a haeddant i’n preswylwyr.”
Mae adroddiad AGGCC yn cydnabod y gwerth a’r ffocws y mae’r Cyngor yn ei roi ar
ansawdd a gwasanaethau ymatebol ac yn pwysleisio polisi’r Cyngor i beidio â
chywasgu ymweliadau i gefnogi pobl gartref i 15 munud.
Bydd adroddiad ar yr arolygiad yn cael ei gyflwyno i Gynghorwyr yng nghyfarfod
Trosolwg a Chraffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ar ddydd Iau 1 Mai.
Yr adroddiad fydd y cam cyntaf wrth ddatblygu cynllun gweithredu rhwng y
Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd i adeiladu ar arfer da ac i ddatblygu
gwasanaethau a gweithio ar y cyd effeithiol ymhellach. Mae copi llawn o
adroddiad arolygu AGGCC i’w gael
ar www.cssiw.org.uk