Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau Llwybr yr Arfordir
Published: 30/05/2014
Mae disgyblion ysgol wedi ymuno yn y dathliadau i nodi ail ben-blwydd agor
Llwybr Arfordir Cymru.
Aeth ceidwad yr arfordir, Karen Rippin a’r hanesydd lleol, Vicky Perfect, sydd
newydd ei hethol yn Gynghorydd Sir, â disgyblion o Ysgol Uwchradd Cei Connah
trwy hanes Castell Y Fflint, sy’n dirnod amlwg ar hyd rhan Sir y Fflint o’r
llwybr.
Buont yn cerdded ar hyd y llwybr hefyd i fwynhau’r hanes, y dreftadaeth a’r
bywyd gwyllt yn yr aber a chael gwybod am hanes Doc Y Fflint.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae
rhan Sir y Fflint o lwybr yr arfordir yn gyfoethog ei threftadaeth ac mae’n
wych fod ein plant lleol yn dysgu am eu hamgylchoedd, yr amgylchedd ac o ble y
dônt. Mae creu’r llwybr wedi bod yn gyfrifol am ddod â mwy o ymwelwyr i’r ardal
ac ar ben hynny, gan fod i bob rhan o’r llwybr ei hanes ei hun, mae’n adrodd
stori wych am y rhanbarth.”
Cynhaliwyd y digwyddiad ar ddydd Gwener 16 Mai ac mae’n dathlu Llwybr Arfordir
Cymru Gyfan - llwybr 870 o filltiroedd o amgylch arfordir cyfan Cymru a agorwyd
yn swyddogol ym mis Mai 2012. Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi’i ddatblygu gan
Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), un deg
chwech o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol.
Capsiwn y llun: Disgyblion o Ysgol Uwchradd Cei Connah gyda’u hathrawes Mary
Daniels yng Nghastell Y Fflint.