Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad
Published: 02/06/2014
Mae sefydliadau ar draws Gogledd Cymru a Sir Gaer yn apelio am wirfoddolwyr i
helpu i gael gwared ar rywogaethau anfrodorol ymledol o Afon Dyfrdwy a’i
hisafonydd.
Mae digwyddiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad yn ei ail flwyddyn ac
mae’n mynd i’r afael â phlanhigion ac anifeiliaid anfrodorol ymledol, megis
clymog Japan, jac y neidiwr a’r cranc manegog Chineaidd.
Bydd y rhaglen gydgysylltiedig yn dechrau gyda lansiad cyhoeddus ar ddydd
Sadwrn 28 Mehefin ym Mharc Gwledig Ty Mawr yng Nghefn Mawr, Wrecsam gydag
amrywiol ddigwyddiadau’n cael eu cynnal, o darddiad yr afon ym Mharc
Cenedlaethol Eryri yr holl ffordd drwodd i’w haber, tan 31 Gorffennaf.
Mae’r digwyddiad yn agored i bawb ar draws y rhanbarth i helpu i gael gwared â
phlanhigion anfrodorol ymledol o Afon Dyfrdwy a’i hisafonydd ac i gofnodi
ardaloedd ble maen nhw’n bla. Mae’r rhywogaethau y byddir yn mynd i’r afael â
nhw yn rhywogaethau estron, y daethpwyd â nhw i’r Deyrnas Unedig naill ai’n
ddamweiniol neu’n fwriadol, sy’n gallu achosi problemau mawr i fywyd gwyllt
brodorol, yn ogystal â chael effeithiau eraill megis gwneud glannau afonydd yn
fwy tueddol i gael eu herydu, sy’n gallu arwain at lifogydd.
Mae partneriaeth o sefydliadau o Gymru a Lloegr, yn cynnwys Gwasanaethau Cefn
Gwlad pum awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prosiect DINNS,
Cadwch Gymru’n Daclus, Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, AHNE Dyffryn Dyfrdwy
a Bryniau Clwyd, Sw Gaer, Record, Cofnod a Cyfoeth Naturiol Cymru â rhan mewn
trefnu’r digwyddiad.
Meddai Lyn Byrne, Swyddog Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol y Ddyfrdwy:
“Mae digwyddiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad yn fenter gyffrous a
welodd lawer iawn o gyfranogiad gan gymunedau lleol yn 2013. Eleni rydym yn
anelu at wneud y digwyddiad yn hyd yn oed yn fwy a gwell na chynt trwy gynnwys
mwy o bobl mewn mwy o ardaloedd.”
Meddair Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o Gabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd: “Mae hwn yn gyfle gwych inni i gyd gael effaith wirioneddol
gadarnhaol ar Afon Dyfrdwy a’n hamgylchedd lleol. Byddwn yn annog unrhyw un
sydd â diddordeb i gymryd rhan a chael gwybod a mynd draw i’w digwyddiad agosaf
a helpu.”
Os hoffech chi neu’ch grwp fwrw iddi o ddifrif gyda ffustio jac y neidiwr neu
golbio’r clymog, neu os ydych yn ffansïo ysbïo ar y tresmaswyr estron a
chofnodi eu lleoliadau, cysylltwch â Sarah Slater yng Nghyngor Sir y Fflint ar
01352 703263 neu sarah.slater@flintshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Meryl Norris, swyddog
prosiect DINNS yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar 01352 755472 neu
e-bostiwch merylnorris@wildlifetrustswales.org