Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru
Published: 11/06/2014
Mae’r adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd ddydd Llun 9 Mehefin yn amlygu’r
gwelliannau y mae Cyngor Sir y Fflint wedi eu gwneud, a dyma’r adroddiad mwyaf
cadarnhaol hyd yma gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae’r adroddiad yn adolygiad gan SAC, sef corff annibynnol sy’n monitro holl
gynghorau Cymru i sicrhau eu bod yn cyrraedd targedau ac yn darparu a gwerthuso
eu gwasanaethau i breswylwyr. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar welliannau a
gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r strategaeth ar gyfer gwelliannau
parhaus.
Mae’r cyhoeddiad eleni’n cadarnhau’r cynnydd parhaus y mae Sir y Fflint wedi’i
wneud fel Cyngor sydd wedi’i lywodraethu’n dda ac sy’n perfformio ar lefel
uchel ac mae’r ffaith nad oes unrhyw argymhellion newydd yn dangos fod gan y
corff rheoleiddio ffydd yn y Cyngor a’i allu.
Mae manylion yn dangos fod y Cyngor yn gwneud cynnydd da o ran gweithredu
mentrau i wella mynediad at wasanaethau; mae’n gwneud cynnydd yn erbyn ei
dargedau tai fforddiadwy pum mlynedd i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn
2020; mae’r gwasanaethau cymdeithasol wedi parhau i wella; mae ysgolion Sir y
Fflint yn parhau i ddarparu gwerth am arian ac mae’r Cyngor wedi cryfhau ei
ddulliau o werthuso ei berfformiad ei hun a’i gynlluniau ariannol ac mae’n
ymroddedig i wella.
I wneud hyn mae Cynllun Gwella’r Cyngor yn helpu i ganolbwyntio ar
flaenoriaethau gan gadw at safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a bydd
adolygiad parhaus o gynlluniau ariannol yn atgyfnerthu gallu’r Cyngor i wneud
penderfyniadau ariannol a fydd yn bwysig wrth ddod i benderfyniadau allweddol
yn defnyddio llai o adnoddau ariannol.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod o’r Cabinet dros Reoli Corfforaethol:
“Y llythyr a gafodd Cyngor Sir y Fflint gan SAC oedd y dangosydd mwyaf positif
eto fod y corff rheoleiddio yn teimlo fod y Cyngor yn gwneud gwelliannau
sylweddol.
“Mae’n arwydd o gyngor cyflawn a gan nad ydynt wedi gosod unrhyw argymhellion
newydd mae’r Archwilwyr yn fodlon i ni barhau i ganolbwyntio ar ein
blaenoriaethau gwreiddiol. Wrth i’r Cyngor wella’r ffordd y mae’n gwerthuso a
gwella ei strategaethau cynllunio, bydd y gwasanaethau a gynigwn i’n preswylwyr
heb os yn gwella.”
Meddai Colin Everett, Y Prif Weithredwr: “Mae Sir y Fflint yn datblygu ei allu
fel Cyngor bob blwyddyn ac mae ein dulliau gwaith arloesol i gyflawni, yn
ogystal â’r sylw newydd yr ydym yn ei roi i’n blaenoriaethau, yn cael effaith
fawr ble mae’n cyfrif fwyaf; mewn addysg, yr economi leol a thai.”