Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Diogelwch Bwyd
Published: 16/06/2014
Ydych chi’n cofio seremoni agoriadol gemau Olympaidd Llundain 2012 a’r stadiwm
yn llawn dop o wylwyr? Nawr dychmygwch gêm rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a
Stadiwm y Mileniwm yn llawn i’r ymylon a’i luosi â thri. Mae hynny’n tua
chwarter miliwn o bobl. Dyna faint o bobl yn y DU a allai gael eu taro gan
campylobacter eleni.
Bydd y frwydr yn erbyn Campylobacter yn ganolbwynt i’r Wythnos Diogelwch Bwyd
eleni (16-22 Mehefin).
Campylobacter yw’r prif facteria sy’n achosi gwenwyn bwyd yn y DU. Ni allwch
ei weld, ei arogli nac hyd yn oed ei flasu yn y bwyd, ond mae’n effeithio
arnoch, byddwch yn ei gofio. Ar ei waethaf, gall eich lladd.
Mae’r Gymdeithas Diogelwch Bwyd yn arwain ymgyrch i ddod â’r gadwyn fwyd gyfan
at ei gilydd i fynd i’r afael â’r broblem. Gofynnir i ffermwyr a chynhyrchwyr
weithio’n galetach i ostwng cyfanswm y bacteria a geir yn eu dofednod amrwd.
Bydd modd i ddefnyddwyr weld y data diweddaraf a beirniadu unrhyw gynnydd, neu
ddiffyg cynnydd, a wneir.
Bydd awdurdodau lleol, y prif archfarchnadoedd a phartneriaid allweddol yn
cydweithio i sicrhau fod pobl yn gwybod sut i fod yn ddiogel. Mae cyngor ar
gael ar www.food.gov.uk/chicken.
Meddai Nina Purcell, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru:
“Mae hon yn broblem ddifrifol ac rydym yn galw ar y diwydiant cyfan i
gydweithredu er mwyn mynd i’r afael â Campylobacter. Gall trigolion Sir y
Fflint chwarae rhan drwy gymryd gofal ychwanegol wrth drin a pharatoi cyw iâr –
peidiwch â golchi cyw iâr amrwd, dylech ei goginio’n iawn a’i fwynhau’n
ddiogel.”
Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o Gabinet Cyngor Sir y Fflint dros y
Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae’n bwysig ein bod yn
gwneud ein rhan i sicrhau fod pobl yn gwybod sut i drin a choginio bwyd yn
ddiogel eu hunain ac i’w teuluoedd. Rydym yn falch o helpu i gadw pobl Sir y
Fflint yn ddiogel ac yn iach drwy fod yn rhan o’r ymgyrch hon i ledaenu’r gair
– ac nid y germau.”
Nodyn i olygyddion
· Mae gwenwyn Campylobacter fel arfer yn datblygu ychydig ddyddiau ar ôl bwyta
bwyd sydd wedi’i lygru ac mae’n arwain at symptomau megis poen yn y bol, dolur
rhydd difrifol ac, ambell waith, chwydu. Gall bara rhwng 2 a 10 diwrnod a gall
fod yn arbennig o ddifrifol ymysg plant bach a phobl hyn. Mewn rhan achosion,
gall effeithio arnoch am byth – gall sbarduno syndrom coluddyn llidus (IBS),
arthritis adweithiol ac mewn achosion prin, syndrom Guillain-Barré – sef
anhwylder difrifol sy’n gallu bod yn barhaol ac sy’n effeithio ar y system
nerfau.
· Mae tua pedwar a bob pump achos o wenwyn campylobacter yn y DU yn tarddu o
ddodfednod wedi’u llygru. Un o’r prif ffyrdd o ddal a lledaenu gwenwyn
campylobacter yw drwy gyffwrdd â chyw iâr amrwd. Mae’r Gymdeithas Diogelwch
Bwyd yn eich cynghori i beidio â golchi cyw iâr amrwd. Gall germau ledaenu ar
hyd wynebau’ch cegin, dillad ac offer.
Am fwy o wybodaeth gweler www.food.gov.uk/actnow
Am gyngor ar sut i drin dofednod yn ddiogel gweler www.food.gov.uk/chicken