Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diweddariad o adroddiad AGGCC
Published: 16/06/2014
Bydd canlyniad adolygiad o ofal cymdeithasol i oedolion yn Sir y Fflint yn cael
ei ystyried gan y Cabinet mewn cyfarfod ddydd Mawrth (17 Mehefin) ynghyd â
datblygiad cynllun gweithredu i atgyfnerthu’r gwasanaeth ymhellach.
Tynnodd yr adolygiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeiethasol Cymru
(AGGCC) sylw at y gwasanaethau positif sydd ar gael i bobl sy’n byw â dementia
yn Sir y Fflint. Canmolwyd y pwyslais y mae’r Cyngor yn ei roi ar wasanethau
ymatebol o safon, gan amlygu polisi’r Cyngor i beidio â chrynhoi ymweliadau i
gynorthwyo pobl yn eu cartrefi mewn 15 munud. Roedd yr adroddiad hefyd yn
canmol y tîm gofal cartref ‘Byw’n Dda’ sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw â dementia
ac sy’n defnyddio staff gofal mewnol a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr
Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWCIS) fel model o arfer gorau i gynorthwyo gofalwyr
a’u teuluoedd.
Mae’r adroddiad yn rhestru targedau a fydd yn creu’r cynllun gweithredu gan
gynnwys datblygu partneriaeth bellach gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwalader (BIPBC) ac mae manylion eisoes mewn lle i ddatblygu’r mentrau.
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol: “Mae’r adroddiad hwn yn cydnabod fod Sir y Fflint yn arwain y
ffordd ar ofal dementia ac rwy’n falch iawn o’n gwasanaethau megis caffis
dementia, tai gofal ychwanegol arbenigol a chymorth gofal cartref o safon. Mae
staff hyfforddedig yn cymryd eu hamser gyda phobl ac yn rhoi’r gofal y maent yn
ei haeddu i drigolion.”
“Bydd datblygu ein partneriaethau gydag asiantaethau lleol drwy’r cynllun
gweithredu newydd yn arwain at waith cydgysylltiedig a gwell gwasanaethau i’n
holl drigolion.”
Meddai Mark Jenkinson, Rheolwr Rhaglenni Iechyd Pobl Hyn yn BIPBC:
“Rydym yn parhau i groesawu gweithio mewn partneriaeth a chydgynllunio
gwasanethau Cyngor Sir y Fflint a BIPBC i bobl hyn. Bydd hyn yn cael ei wella
ymhellach yn 2014-15 drwy ddefnyddio cyllid gofal canolraddol sydd newydd ei
ryddhau i gynorthwyo pobl yn y gymuned ac i’w helpu i osgoi gorfod mynd i’r
ysbyty yn ddi-angen.”
Gwelir copi llawn o adroddiad archwilio AGGCC ar wefan www.cssiw.org.uk