Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun grant y dreth gyngor i bobl hyn
Published: 16/06/2014
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth (17 Mehefin), mae disgwyl i’r Cabinet gymeradwyo
cynllun i helpu pobl hyn sydd ar incwm isel i dalu’r dreth gyngor.
Bwriad y cynllun arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yw helpu deiliaid tai sydd
wedi’u hasesu fel rhai sydd angen cymorth ariannol ac sydd eisoes wedi derbyn
rhywfaint o help i dalu eu treth gyngor. Mae ychydig dros £200,000 ar gael i
Gyngor Sir y Fflint i helpu trigolion lleol yn ôl eu disgresiwn.
Rhaid i unrhyw un sy’n hawlio fod yn 60 oed neu’n hyn a bod yn atebol i dalu’r
dreth gyngor mewn eiddo sy’n cael ei ddosbarthu fel ‘unig a phrif’ breswylfa.
Dylent hefyd fod yn gymwys i dderbyn cymorth rhannol a’r uchafswm sydd ar gael
i bob cartref yw £95.
Bydd grantiau’n cael eu credydu’n awtomatig i gyfrifon treth cyngor deiliaid
tai sy’n gymwys yn ystod mis Gorffennaf 2014.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod o’r Cabinet dros Reoli Corfforaethol:
“Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru a roddir drwy gynllun y Cyngor yn
galluogi pobl hyn i gael help ychwanegol gyda’u biliau treth gyngor. Mae’n
bwysig ein bod yn cynnig cymorth ariannol i ddeiliaid tai sydd wir ei angen yn
yr ardal.”
Am fwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwyso, cysylltwch â’r Cyngor.