Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu llwyddiant
Published: 23/06/2014
Mae digwyddiad a drefnwyd gan Gymunedau’n Gyntaf yng Ngholeg Cambria i ddathlu
mentergarwch lleol wedi tynnu sylw at lwyddiant Clwb Menter Rhwydwaith
Entrepreneuriaeth Busnes (BEN) Sir y Fflint.
Sefydlwyd y Clwb 18 mis yn ôl i helpu pobl i ddechrau eu busnes eu hunain, i
roi cyngor i’r rhai sydd am ddatblygu syniad ar gyfer busnes ac i gynnig
rhaglen fentora gydag arweinwyr cwmnïau lleol drwy gyfrwng cyfarfodydd
rheolaidd. Mae Clwb BEN Sir y Fflint hefyd yn trefnu digwyddiad tebyg i
Dragon’s Den ar gyfer darpar entrepreneuriaid.
Sesiwn ar gyfer siaradwyr ysbrydoledig a gafwyd fore dydd Gwener 6 Mehefin, a
chafwyd golwg cyffredinol ar fenter ac entrepreneuriaeth. Ymunodd Aelodau’r
Cynulliad, Aelodau Seneddol, arweinwyr cymunedol a hyrwyddwyr busnes lleol i
longyfarch aelodau a staff y Clwb ar ddechrau calonogol i’r prosiect.
Dyma ambell stori lwyddiannus:
Angie Atherton Autism Support, busnes sy’n cynorthwyo teuluoedd â phlant ifanc
a phobl ifanc awtistig. Cafodd Angie ei mentora gan Christine Sheibani Comtek
ar Lannau Dyfrdwy, a lansiodd ei busnes ei hun yn gynharach eleni.
Ar ôl graddio mewn Dylunio penderfynodd Jonathan Ecroyd a James Clark sefydlu
Mr J Designs ar ôl ymddangos gerbron y Dragons’ Den cyntaf a drefnwyd erioed ym
mis Tachwedd 2012. Maent yn cael cymorth gan Paul Maddocks, cyn-berchennog
Parkway Telecom a Leyla Edwards, Prif Weithredwr KK Fine Foods.
Sefydlwyd Bluepointseo gan David James. Mae’r cwmni’n tywys pobl i wefannau er
mwyn i gleientiaid ddenu mwy o gwsmeriaid; gallant fod yn gwerthu nwyddau,
gwasanaethau neu’n gwmnïau cynhychu arweiniad. Mae David yn mynd i gyfarfodydd
y Clwb yn rheolaidd ac yn cael ei fentora gan Adam Butler o Easy Online
Recruitment.
Mae Wayne Guest yn blymar cymwysedig. Ar ôl iddo golli’i waith, lansiodd ei
fusnes ei hun, sef WD Guest Heating & Plumbing. Mae wedi bod ar gyrsiau’r tu
allan i’r clwb i ennill tystysgrifau iechyd a diogelwch ac mae’n hyrwyddo’r
rhaglen.
Mae’r pedwar busnes hefyd yn cael cymorth gan Raglen Cychwyn Busnes, Busnes
Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn
falch iawn bod Clwb Menter Sir y Fflint wedi bod mor llwyddiannus. Maer
cyfleoedd a’r gefnogaeth mentora a gynigir yn wych - lle arall fyddech chi’n
gweld arweinwyr busnes ysbrydoledig yn annog pobl leol? Mae’n rhoi hwb enfawr i
economi Sir y Fflint ac rwy’n gobeithio y bydd y Clwb yn mynd o nerth i nerth.
Askar Sheibani, Prif Weithredwr Comtek Group gafodd y syniad gwreiddiol o
ddechrau prosiect BEN. CEO. Dywedodd Sheibani, sef Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth
Cymru: “Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae BEN Sir y Fflint wedi’i gyflawni dros y
18 mis diwethaf; mae’r busnesau newydd wedi cael cyngor ac arweiniad gan yr
entrepreneuriaid mwy profiadol ac, o ganlyniad, gwelwyd eu busnesau’n mynd o
nerth i nerth. Mae Clwb Menter BEN Sir y Fflint yn destament i werth buddsoddi
yn eich cymuned leol ac rwyf wrth fy modd yn gweld bod Sir y Fflint yn gwneud
ei rhan dros economi Prydain.”
Cymunedau’n Gyntaf, sy’n rhan o Wasanaeth Adfywio Cyngor Sir y Fflint, sy’n
rhedeg Clwb Menter BEN Sir y Fflint, ac maent yn cynnig cymorth a chyngor i
entrepreneuriaid neu bobl sydd am gychwyn busnes. Does dim tâl ymaelodi ac
mae’r clwb yn cyfarfod bob yn ail ddydd Gwener am 10am ar Gampws Cymunedol John
Summers. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Beverly Moseley, Cymunedau’n
Gyntaf ar 01244 846090.
Pennawd 1: Sylfaenwyr Mr J Designs, Jonathan Ecroyd a James Clark gydag un o’u
dyluniadau.
Pennawd 2: Angie Atherton o Angie Atherton Autism Support yn siarad yn y
digwydiad.
Pennawd 3: aelodau Clwb Menter Sir y Fflint yn cael cydnabyddiaeth am eu
cyfranogiad dros y 18 diwethaf.