Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prynhawn o hanes lleol
Published: 02/07/2014
Mae’r ganolfan @tebion yn Llyfrgell ac Oriel yr Wyddgrug yn cynnal cyfarfod ar
gyfer haneswyr brwdfrydig lleol ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf rhwng 2pm a 5pm.
Bydd yr hanesydd a’r athro Paul Brighton yn cadeirio cyfarfod sy’n cynnwys
sgyrsiau am hanes diwydiant a gwaith yn Sir y Fflint a bydd sesiwn holi ac ateb
yn dilyn.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn boblogaidd ymhlith nifer sydd â diddordeb yn
eu hardal leol ac mae croeso i bawb.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Simon Gotts, Llyfrgellydd Gwybodaeth,
Llyfrgell ac Oriel yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, yr Wyddgrug ar 01352 754791.