Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfle i noddi Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2014
Published: 01/07/2014
Ymunwch â llwyddiant Wythnos Fusnes Sir y Fflint drwy noddi Gwobrau Busnes Sir
y Fflint 2014.
Cynhelir y gwobrau am yr wythfed flwyddyn eleni i gydnabod y cwmnïau mwyaf
llwyddiannus a’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yn y sir a’r entrepreneuriaid sydd
y tu ôl iddynt. Bydd y gwobrau’n digwydd eleni ar nos Wener 17 Hydref yn
Soughton Hall.
Mae uned fusnes Cyngor Sir y Fflint yn chwilio am sefydliadau i noddi Gwobrau
Busnes Sir y Fflint 2014. Mae hwn yn gyfle eithriadol i gefnogi digwyddiad
cyffrous sy’n ennyn diddordeb cymuned fusnes ddeinamig Sir y Fflint. Mae deg o
gategorïau ar gael i’w noddi yn ogystal â phrif le noddi.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kate Catherall, Ymgynghorydd Busnes ar 01352
703221 neu anfonwch e-bost at kate.catherall@flintshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw dydd Gwener 11 Gorffennaf 2014.