Alert Section

Cwestiynau Cyffredin Ceiswyr Lloches


A fydd Cyngor Sir y Fflint yn croesawu ceiswyr lloches?

O Chwefror 2024, mae’r Cyngor yn paratoi i groesawu’r ceiswyr lloches cyntaf i gyrraedd, gan gynnwys teuluoedd, dynion a merched hŷn i’r sir. Bydd tai yn cael eu cyflenwi gan Clearsprings Ready Homes, prif ddarparydd gwasanaethau llety ar gyfer y Swyddfa Gartref.

Mae bob Cyngor lleol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr wedi cytuno i nifer benodol o ofodau gwely yn eu hardal. Ar gyfer bob eiddo sydd â ‘gofod gwely’, mae cynghorau lleol yn cael y cyfle i gynnig adborth ar y cynnig ac amlygu unrhyw beth sy’n peri pryder iddynt am leoliad yr eiddo, y math o eiddo, yn ogystal ag unrhyw elfennau iechyd a diogelwch yn yr eiddo y byddai’n rhaid mynd i’r afael â hwy.

Sut fydd plant yn derbyn cefnogaeth addysg?

Mae gan Sir y Fflint dîm arbenigol o gefnogaeth i blant gyda Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith, a byddwn yn ystyried capasiti’r tîm hwn pan fydd gennym well dealltwriaeth o anghenion unrhyw blant pan neu os cânt eu lleoli.

Beth fydd yn digwydd i bobl gyda materion diogelu?

Bydd rhai ceiswyr lloches wedi profi trawma sylweddol cyn cyrraedd y DU ac mae’n bosibl y bydd arnynt angen cymorth ychwanegol i integreiddio’n lleol.

Bydd unrhyw faterion yn cael eu codi gyda’r Swyddfa Gartref a Migrant Help, sydd â chytundeb gyda’r Swyddfa Gartref i gynnig cefnogaeth i geiswyr lloches yn unol â hynny. Yn ogystal, bydd rhai defnyddwyr gwasanaeth gydag anghenion penodol yn cael eu cyfeirio i’r tîm Awdurdod Lleol perthnasol ar gyfer asesiad gofal a chefnogaeth.

Pa gyfarfod sefydlu fydd defnyddwyr gwasanaeth yn ei dderbyn ar ôl cyrraedd?

O fewn un diwrnod calendr ar ôl cyrraedd llety gwasgaru, bydd defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn gwasanaeth briffio ‘symud i mewn’, fydd yn cynnwys:

  • gweithredu offer a chyfleusterau diogelwch
  • gwybodaeth ar y math o wasanaethau y gall pobl eu disgwyl
  • gwybodaeth am ddisgwyliadau ymddygiad
  • cyfeirio at gymorth i Fewnfudwyr
  • sut i gofrestru gyda Meddyg Teulu a deintydd
  • gwybodaeth ar yr ardal leol, gan gynnwys lleoliad siopau lleol, amwynderau a chyfleusterau.

Ar ôl saith diwrnod mae gwasanaeth briffio ‘symud i mewn’ ychwanegol yn cael ei ddarparu.

Pa gyfleusterau fydd ar gael i geiswyr lloches?

Bydd ceiswyr lloches yn cael ystafelloedd teulu a rannir, ardaloedd cymunedol i ymlacio, gwylio’r teledu a chymdeithasu gyda’i gilydd yn ogystal â Wi-Fi a chludiant bws gwennol a ddarperir gan Clearsprings, i fannau addoli ac apwyntiadau meddygol ac ati lle bo angen.

A ydy ceiswyr lloches yn gallu symud yn rhwydd o amgylch yr ardal leol?

Nid yw ceiswyr lloches yn cael eu cadw ar y safle a byddant yn rhydd i aros mewn lleoliadau eraill oni bai am eu llety cyn belled â’u bod yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Gartref a darparwr tai.

Os bydd unigolyn diamddiffyn yn gadael i fyw yn rhywle arall heb roi gwybod i’r Swyddfa Gartref neu ddarparwr ble maent yn byw, bydd cynrychiolydd diogelu yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Gartref, yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu.

Gan na chaniateir i geiswyr lloches weithio, pa weithgareddau fydd ceiswyr lloches yn gallu eugwneud yn ystod y dydd/nos?

Bydd y darparwr tai yn darparu teledu, Wi-Fi a gemau sy’n cael eu rhoi yn aml gan elusennau lleol. Caniateir i drigolion adael y safle a defnyddio’r bws gwennol i ymweld â mannau addoli lleol ac ati. 

Sut fydd teuluoedd ac unigolion yn cael eu cefnogi i integreiddio i’r gymuned leol?

Rydym yn croesawu cymorth gan grwpiau ac asiantaethau lleol i gefnogi’r ceiswyr lloches i integreiddio’n gymdeithasol.  


Iechyd

Pa fath o gefnogaeth feddygol a chyfeirio fydd ar gael?

Bydd ceiswyr lloches sydd newydd gyrraedd yn cael cynnig cofrestru gyda Meddyg Teulu lleol (bydd y GIG yn rhoi gwybod pa ganolfannau Meddyg Teulu sydd ar gael). Yn dilyn hynny, bydd yr unigolion yn cael cynnig yr un gwasanaethau GIG â thrigolion eraill y DU.  

Mae cyfarfod cychwynnol wedi cael ei gynnal gydag arweinwyr Meddygon Teulu yn Sir y Fflint, a bydd cyfarfodydd parhaus yn cael eu cynnal gyda nhw i sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar y system iechyd.  

A fydd yna unrhyw adnoddau GIG ychwanegol, er enghraifft Meddygon Teulu neu ddeintyddion?Mae’n anodd iawn cael apwyntiadau ar hyn o bryd, yn arbennig gyda’r deintydd.

Mae taliad Gwasanaeth Estynedig ar gael i feddygfeydd i’w cefnogi i ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i’r ceiswyr lloches. Mae’n ofynnol i’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ddarparu gofal i grwpiau cleifion diamddiffyn ac felly bydd gofyn iddynt weld unrhyw gleifion sydd ag unrhyw anghenion deintyddol brys. Nid yw gofal deintyddol rheolaidd yn cael ei ddarparu. 

Pa wiriadau mae’r Swyddfa Gartref yn eu cynnal i sicrhau fod ystyriaethau iechyd cyhoeddus yncael eu cymryd i ystyriaeth mewn gweithrediadau gwasgaru? A fydd gan y preswylwyr unrhywgyflyrau heintus, a sut fydd hyn yn cael ei wirio?

Dan ganllawiau newydd, ni fydd unrhyw un sydd â symptomau (gan gynnwys y rhai sydd wedi cael prawf positif) o glefyd heintus yn y ganolfan brosesu Manston ar ôl cyrraedd yn symud ymlaen i’r ystâd llety ceiswyr lloches. 

Bydd ceiswyr lloches naill ai’n aros yn y ganolfan Manston yng Nghaint i hunanynysu am gyfnod byr neu’n cael eu lleoli yn llety hunanynysu arbennig y Swyddfa Gartref yn Ne Ddwyrain Lloegr. Mae’r llwybr newydd hwn yn ategu at y gwasanaethau iechyd presennol a ddarperir ar unwaith pan fydd unigolion yn cyrraedd safle Western Jet Foil (WJF) a’r ddarpariaeth gofal iechyd 24/7 a gynigir ym Manston, sy’n cynnwys cynnig brechlyn difftheria arbennig. Mae’r Swyddfa Gartref hefyd wedi datblygu proses sgrinio a phrofi ar gyfer cyflyrau heintus gan ymgynghori â’r GIG. 

Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU i gryfhau ein gweithdrefnau profi a sgrinio ar gyfer cyflyrau heintus, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Difftheria.

Mae rheoli lledaeniad Difftheria a chyflyrau posibl eraill, a thrin unigolion sydd â symptomau, yn ymdrech ar y cyd rhwng y Swyddfa Gartref, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, gwasanaethau GIG lleol ac awdurdodau lleol. Rydym yn ymwybodol bod risg uchel o haint yn y boblogaeth o geiswyr lloches o’i gymharu â’r cyhoedd cyffredinol - mae hyn yn rhannol o ganlyniad i ddiffyg gofal iechyd a chyfraddau brechu is yn eu gwledydd gwreiddiol, ac amgylchiadau cyfyng a gorlawn ar eu siwrnai i’r DU. Mae’r difrifoldeb yn amrywio ac mae’r mwyafrif o achosion yn rhai risg isel.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnal Gwasanaeth Asesiad Iechyd Cychwynnol i sicrhau y gellir cynnig sgriniad priodol, gan gynnwys brechlynnau ac imiwneiddiadau. 


Diogelwch Cymunedol

A yw manylion adnabod bob un o’r ceiswyr lloches wedi cael eu dilysu a’u gwirio? Pa wiriadausydd wedi cael eu cynnal mewn perthynas â chofnodion troseddol a phryd?

Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i ddiogelu’r DU a’i thrigolion, a chynhelir gwiriadau diogelwch ar bob ceisiwr lloches gan ddefnyddio cronfeydd data mewnfudo a’r heddlu i nodi’r rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig â throseddau yn y DU a thu hwnt - gan gynnwys troseddau rhyfel, troseddau yn erbyn dynoliaeth a therfysgaeth. 

Pa ddogfennaeth adnabod fydd gan bobl? 

Bydd gan rai ceiswyr lloches eu pasbortau a’u dogfennau teithio eu hunain.  Fodd bynnag, mae nifer o geiswyr lloches yn cyrraedd heb ddogfennau, a chaiff gwiriadau eu cynnal ar unwaith i sefydlu eu hunaniaeth. Bydd y rhai a fydd yn aros yn Sir y Fflint yn derbyn cerdyn cofrestru lloches (ARC) unwaith y byddant wedi cyflwyno eu cais am loches. 

A yw asesiadau risg wedi eu cynnal?

Mae’r Swyddfa Gartref yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llety asesu risg yn rheolaidd fel mater o drefn wrth ddarparu ein gofynion contract. Mae hyn yn cynnwys defnyddio lleoliadau unigol, yn ogystal â risgiau mwy cyffredinol ar draws y system mewn perthynas â defnyddio llety wrth gefn, fel gwestai.


Rhagor o wybodaeth

Mae canllaw i’r contractau ar gyfer Clearsprings/Ready Homes a Migrant Help ar gael yma.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y mesurau a ddefnyddir i wella’r system ceisio lloches yma: