Alert Section

Trosolwg a Chraffu


Canllaw byr i Trosolwg a Chraffu yn Sir y Fflint

Beth yw Arolygu a Chraffu?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bod er mwyn gwasanaethu ei gymuned ac mae’r broses Arolygu a Chraffu yn bod er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud hynny’n effeithiol.

Mae Arolygu a Chraffu’n un o ofynion cyfreithiol Deddf Llywodraeth Leol 2000 acc mae’n rhan hanfodol o waith y Cynghorwyr fel cynrychiolwyr pobl Sir y Fflint. Mae’n caniatáu i’r cynghorwyr hynny nad ydynt yn aelodau o’r weithrediaeth ddwyn y Cabinet i gyfrif a dylanwadu ar bolisïau’r Cyngor a’i bartneriaid. 

Beth yw amcanion Arolygu a  Chraffu?

  • Helpu i wella perfformiad cyffredinol y Cyngor
  • Helpu i sicrhau bod y Cyngor yn darparu’r gwasanaethau priodol yn y modd priodol o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
  • Sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau’n dryloyw ac yn atebol
  • Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a’r gymuned ehangach wrth wneud penderfyniadau.

 Sut y mae Arolygu a Chraffu’n gweithio yn Sir y Fflint?

Mae pwyllgorau, grwpiau gorchwyl a gorffen a gweithdai yn rhoi cyfle i’r Aelodau archwilio gwahanol swyddogaethau’r Cyngor, gofyn cwestiynau a herio penderfyniadau, ac ystyried a oes modd gwella gwasanaethau. Maent hefyd yn gyfle i Gynghorau roi sylw i bryderon pobl leol a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau newydd. 

Dyma’r strwythur Arolygu a Chraffu yn Sir y Fflint

Mae pob pwyllgor yn cynnwys 15 o gynghorwyr, ac mae'r Pwyllgor Addysg ac Ieuenctid hefyd yn cyfethol aelodau (cynrychiolwyr y rhiant-lywodraethwyr a’r esgobaethau).

Rôl y Pwyllgorau

  • Cytuno ar bynciau y bydd y pwyllgor yn eu trafod
  • Ystyried rhai o’r penderfyniadau y mae’r Cabinet ar fin eu cymryd (craffu cyn gwneud penderfyniad) a chynnig awgrymiadau iddynt eu hystyried cyn gwneud penderfyniad.
  • Ystyried ceisiadau gan y Cabinet, y cyhoedd, Cynghorwyr eraill a swyddogion i graffu ar bynciau penodol. Gan fod amser ac adnoddau’n brin, mae’n bwysig canolbwyntio ar y pethau sy’n ‘gwneud gwahaniaeth’.  
  • Sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen
  • Cynnal ymweliadau safle
  • Cadw llygad ar berfformiad a chyllideb y Cyngor
  • Galw i mewn – ystyried penderfyniadau gan y Cabinet y bydd y Cynghorwyr yn eu galw i mewn. 

Adroddiad Blynyddol

Mae’r adroddiad blynyddol eleni yn rhoi  astudiaeth achos o arolygu a chraffu sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddinesig ddiwethaf. Mae’r pwyllgorau llawn, y gweithdai a’r tasgluoedd i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod arolygu a chraffu effeithiol yn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn.

Adroddiad Blynyddol Arolygu a Chraffu 2012-13

I gael rhagor o wybodaeth am y chwe phwyllgor, dilynwch y dolenni i dudalennau’r Cyfarfodydd Pwyllgor - Agendâu, Adroddiadau a Chofnodion.

Cynhelir ein cyfarfodydd pwyllgor yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, ac mae creoso  i’r cyhoedd ddod i wylio. Hefyd, mae gennym Bwyllgor Cydgysylltu sy’n dosbarthu pynciau i’r pwyllgorau eu trafod.

Cymryd rhan

Mae Arolygu a Chraffu’n gyfle i Gynghorwyr weithio gyda phobl leol, cyrff cymunedol, asiantaethau sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor a chwsmeriaid i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac ymatebol.

Rydym am sicrhau bod gan bobl leol lais yn y modd y caiff penderfyniadau eu gwneud a’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. 

Drwy leisio barn, gallwch helpu i wella’ch gwasanaethau. Wrth gwrs, ni all Arolygu a Chraffu addo y  bydd yn cytuno â chi, ond bydd yn cydnabod ac yn ystyried eich sylwadau.

Efallai y gallwch ddylanwadu ar yr hyn y bydd y Pwyllgorau’r eu gwneud yn y dyfodol drwy awgrymu prosiectau y gellid craffu arnynt. Rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau – cofiwch gysylltu.

Cyfranogiad y cyhoedd

Gall unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn Sir y Fflint awgrymu pynciau i’n pwyllgorau eu trafod.

Ni allwn dderbyn pynciau sy’n ymwneud â’r canlynol: materion barnwrol neu led-farnwrol neu faterion sy’n cael eu harchwilio ar hyd o bryd; ceisiadau cynllunio neu drwyddedu unigol neu geisiadau unigol am grantiau, neu achosion apêl yng nghyswllt y rhain; aelodau penodol o’r Cyngor neu aelodau penodol o staff y Cyngor; gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth sydd wedi’i heithrio (yn unol â gweithdrefnau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor) neu wybodaeth y mae angen ei datgelu; materion yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid neu ddeunyddiau difenwol.

Dylech anfon pynciau yr hoffech i’r pwyllgorau eu trafod, drwy lythyr, at:

Rheolwr Gwasanaethu Democrataidd
Cyngor Sir y Fflint
3ydd Llawr
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug CH7 6NR      

neu drwy e-bost: craffu@siryfflint.gov.uk neu drwy ffacs: 01352 702494

Cewch ragor o wybodaeth gan Steve Goodrum, Rheolwr Gwasanaethu Democrataidd, ar rif ffôn  01352 702320