Alert Section

Fframwaith Rheoli Risg

I gael gwybod mwy am y Fframwaith Rheoli Risg.

Cyflwyniad

Rheoli risg yw’r broses o nodi risgiau, gwerthuso’r effaith bosibl, a’u lliniaru nhw. Y nod yw lleihau difrifoldeb eu heffaith a pha mor debygol ydyn nhw o ddigwydd pan fo modd. Mae rheoli risg yn amhrisiadwy i'r Cyngor a dylai fod yn rhan o'r gwaith o reoli gwasanaethau o ddydd i ddydd.

Mae rheoli risg yn effeithiol yn hanfodol er mwyn i sefydliad a'i bartneriaid gyflawni amcanion strategol a gwella canlyniadau i bobl leol. Mae'r Cyngor yn hyrwyddo egwyddorion rheoli risg yn effeithiol ar draws y sefydliad a chyda'i sefydliadau partner. Mae wedi ymrwymo i reoli risgiau allanol a mewnol allweddol yn rhagweithiol. Mae rheoli risg yn effeithiol wrth weithio mewn partneriaeth yn galluogi i'r Cyngor ddangos diwylliant cadarnhaol o ran risg a chanlyniadau gwell, gan wella ei allu i gyflawni prosiectau arloesol a heriol.

Mae Fframwaith Rheoli Risg y Cyngor yn ceisio defnyddio arferion gorau wrth nodi, asesu a rheoli risgiau allweddol, drwy:

  • Fabwysiadu dull corfforaethol effeithiol a thryloyw o Reoli Risg yn rhagweithiol gan y Cyngor a gwaith partneriaid allanol allweddol;
  • Integreiddio rheoli risg i arferion a gweithdrefnau gweithredol a rheoli'r Cyngor i hyrwyddo diwylliant o ymwybyddiaeth risg; a
  • Darparu gwybodaeth i gefnogi Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor, yn ymwneud ag effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer rheoli risg a’r mecanweithiau rheoli mewnol sydd ar waith.
Fframwaith Rheoli Risg

Lawrlwythwch y Fframwaith Rheoli Risg

Gallwch lawrlwytho’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023 isod.

Lawrlwythwch y Fframwaith Rheoli Risg 2023