Alert Section

Gwastraff ac Ailgylchu: 04-05 Ionawr


Gwastraff ac Ailgylchu

Ar hyn o bryd mae’r holl gasgliadau yn bwriadu gweithredu yn ôl yr arfer ddydd Sadwrn 4 Ionawr.

Yn sgil amodau peryglus a ragwelir ddydd Sul 5 Ionawr, ac er mwyn cadw ein gweithlu yn ddiogel, mae’r holl gasgliadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Sul wedi’u gohirio.  

Ymddiheurwn y bydd hyn yn effeithio ar drigolion sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: 
Hendre, Nannerch, Ysceifiog, Afonwen, Caerwys, Gorsedd, Lloc, Pantasaph, Babell, Rhosesmor, Milwr, Treffynnon, Pen-y-Ball, Carmel, Holway, Pentre Helygain, Trelogan, Acstyn, Llanasa, Gwaenysgor, Chwitffordd, Trelawnyd, Afonwen, Tre-Mostyn, Rhewl Mostyn, Brynford, Ffynnongroyw, Penyffordd (Treffynnon), Tan Lan, Gronant, Gwespyr, Talacre, Bagillt, Maes Glas

Dylai’r trigolion sy’n byw yn yr ardaloedd hyn fod yn ymwybodol y bydd y biniau du oedd fod i gael eu casglu ar ddydd Sul 5 Ionawr, bellach yn cael eu casglu ddydd Llun 6 Ionawr.

Yn sgil argaeledd adnoddau, bydd gwastraff bwyd ac ailgylchu oedd fod i gael eu casglu ddydd Sul 5 Ionawr, yn cael eu casglu ar y diwrnod casglu nesaf ar ddydd Sadwrn 11 Ionawr.