Alert Section

Llais Rhieni a Gwirfoddoli

Llais Rhieni Sir y Fflint

Mae arnom ni eisiau i rieni gymryd rhan yn y broses o siapio’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ac mae eich barn yn bwysig i ni.  Rydym yn clywed gan blant mewn nifer o ffyrdd gwahanol, megis mewn sgyrsiau, digwyddiadau, fforymau ac ymgynghoriadau.

Bydd y manylion yn cael eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu gallwch gysylltu â ni ar earlyyearsteam@siryfflint.gov.uk.

Cefnogwyr Rhieni Sir y Fflint 

Rhieni sy’n rhoi ychydig oriau’r wythnos i siarad gyda rhieni eraill am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt yw Cefnogwyr Rhieni. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn: 

  • siarad gyda rhieni/gofalwyr eraill am y buddion o ddefnyddio gwasanaethau; 
  • ateb cwestiynau am eich profiadau chi o ddefnyddio gwasanaethau; 
  • helpu rhieni/gofalwyr eraill i wneud penderfyniadau dros eu hunain a’u plant; ac
  • atgyfeirio rhieni/gofalwyr at wasanaethau lleol 

ac os ydych: 

  • yn rhiant neu’n ofalwr yn byw yn Sir y Fflint; 
  • wedi cael profiad cadarnhaol yn defnyddio gwasanaethau;
  • ag ychydig o oriau’r wythnos i’w rhoi; neu 
  • yn awyddus i gwrdd â phobl newydd a chael profiad gwerthfawr 

Yna, byddem yn falch o glywed gennych. I ddarganfod mwy am y Cynllun Cefnogwyr Rhieni, anfonwch e-bost atom ar earlyyearsteam@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 07879 432282 i siarad gyda Jen, neu gallwch anfon neges atom ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. 

Hyrwyddwyr Rhieni Sir y Fflint - Parent Champions Flintshire

Rwy’n mwynhau gweithio gyda rhieni eraill yn fawr, a darparu cymorth a chanllawiau a rhannu profiadau