Alert Section

Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

Mae’r blynyddoedd cynnar mewn bywyd, yn cynnwys beichiogrwydd a genedigaeth, yn gyfnod arwyddocaol yn nhwf unigolyn. Mae’r hyn sy’n digwydd yn y blynyddoedd cynnar yn cael effaith fawr ar eich plentyn. Twf allweddol yw iaith gynnar, sy’n helpu plant i reoli emosiynau a chyfathrebu teimladau, meithrin a chynnal perthnasoedd, a dysgu darllen ac ysgrifennu. Gall 8–10% o blant gael anawsterau gydag iaith gynnar, ac efallai na fydd pob rhiant yn gwybod sut i gefnogi eu plentyn orau. Mae’r wybodaeth yma wedi helpu llawer o rieni – gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Gemau i Annog Cyfathrebu Cynnar

Dyma ambell gêm hwyliog i annog cyfathrebu cynnar.

'Beth sydd yn y sach?'

Mae defnyddio sach deimlo’n ffordd wych o annog rhoi sylw i rywbeth. Defnyddiwch gas gobennydd neu sach a’i llenwi gyda theganau ac eitemau a gweld beth maent yn ei dynnu allan. Siaradwch am yr hyn welwch chi.

Canu rhigymau

Mae caneuon symudiadau syml yn ffordd wych o ennyn sylw eich plentyn e.e. ‘Olwynion ar y Bws’, ‘Clap, Clap, 1, 2, 3’, ‘Adeiladu Tŷ Bach’.

Gemau ‘ar eich marciau, barod, ewch’

Anogwch eich plentyn i aros nes i chi ddweud “ewch” cyn bob tro a chynyddwch yr amser mae’n rhaid i’r plentyn aros cyn dweud “ewch”. Defnyddiwch swigod, rowlio car/pêl rhyngoch chi neu adeiladu tŵr/pentyrru cwpanau a’u cnocio i lawr.

Rhannu llyfrau difyr

Rhannwch lyfrau difyr gyda’ch plentyn e.e. llyfrau gyda llabedi, pethau mae ganddynt ddiddordeb ynddynt, albymau lluniau’r teulu. Dangoswch i’r plentyn bod gennych chi ddiddordeb hefyd a siaradwch am beth welwch chi yn y lluniau. Rhowch amser i’ch plentyn gymryd rhan a mwynhau’r llyfr gyda chi – peidiwch â phoeni am ddarllen y geiriau.

Gweithgareddau cerddorol

Mae gweithgareddau cerddorol yn ffordd hwyliog o annog gwrando. Defnyddiwch offeryn cerdd e.e. drwm, tambwrîn, ac ati, gan annog y plentyn i symud a dawnsio. Gofynnwch i’r plentyn aros yn llonydd fel delw neu eistedd i lawr pan fyddwch chi’n stopio chwarae.

Rhoi cyfleoedd i wrando

Rhowch gyfleoedd i’ch plentyn wrando e.e. ewch ar daith gerdded wrando gyda’ch gilydd a gweld faint o synau all eich plentyn eu clywed e.e. ci’n cyfarth, adar yn trydar neu geir yn gyrru heibio.

BookTrust Cymru

BookTrust Cymru Logo

Gweld tudalen hafan BookTrust Cymru.

Cymerwch olwg ar y wybodaeth a’r adnoddau sydd gan BookTrust Cymru:

Dechrau Da yng Nghymru

Mae gan bob blentyn yng Nghymru hawl i ddau becyn Dechrau Da arbennig cyn maent yn 3 oed.

Mae mwy o wybodaeth a gweithgareddau, rhigymau a storïau Dechrau Da hwyliog i’w gweld yma.

Bag fy Mabi yng Nghymru

Dylai pob plentyn yng Nghymru gael Bag Babi Dechrau Da gan eu Hymwelydd Iechyd cyn maent yn 12 mis oed, ac mae llyfrgelloedd yn Sir y Fflint yn gallu cefnogi rhai sydd heb.

Gallwch ddod o hyd i lawer o bethau da i gefnogi plant sydd wedi cael y bag yma.

Bag Fy Mlynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Dylai pob plentyn yng Nghymru gael Bag Blynyddoedd Cynnar Dechrau Da gan eu Hymwelydd Iechyd cyn maent yn 3 oed, ac mae llyfrgelloedd yn Sir y Fflint yn gallu cefnogi rhai sydd heb.

Gallwch ddod o hyd i lawer o bethau da i gefnogi plant sydd wedi cael y bag yma.

Pori Drwy Stori

Mae Pori Drwy Stori yn rhaglen gyffrous ar gyfer meithrinfeydd ac ysgolion sydd wedi’i seilio ar lyfrau, storïau a rhigymau.

Gall teuluoedd ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma, ynghyd â gweithgareddau, canllawiau, storïau a fideos am rigymau yma.

Amser Gartref BookTrust Cymru

Yn cynnwys straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu, a gemau a gweithgareddau llawn hwyl gan awduron, darlunwyr a storïwyr gwych o Gymru.

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Amser Rhigwm Mawr Cymru yw ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon.

Mae’n hwyl llawn odlau i bawb, gyda llawer o fideos hwyliog ac unigryw o rigymau a chaneuon na welwch chi’n unman arall.

Fideos llawn gwybodaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cymerwch olwg ar y fideos yma sydd wedi’u creu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am lythrennedd, lleferydd, iaith a chyfathrebu plant.

Cyfathrebu Cynnar

Defnyddio Dymi