Mae Cynllun Lesio Cymru yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan awdurdodau lleol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i berchnogion eiddo lesio eu fflat neu eu tŷ i'w hawdurdod lleol am incwm rhent misol gwarantedig didrafferth.
Fe’i cynlluniwyd i wneud rhentu preifat yng Nghymru yn fwy hygyrch a fforddiadwy, gan gynnig cyfle i berchnogion eiddo fanteisio ar grantiau a chael incwm gwarantedig wrth ddarparu tai diogel, hirdymor a fforddiadwy i denantiaid.
Manteision i berchnogion eiddo
- Incwm rhent gwarantedig didrafferth am hyd y les (ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol) – sy’n golygu na fydd unrhyw ôl-ddyledion rhent na chyfnodau pan fydd yr eiddo’n wag.
- Grant o hyd at £25,000 i ddod â’r eiddo i safon rhentu.*
- Grant o hyd at £5,000 i gynyddu sgôr ynni eich eiddo.*
- Lesoedd rhwng 5 ac 20 mlynedd.
- Archwiliadau eiddo, atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw (ar gyfer traul rhesymol i’r eiddo).
- Rheolaeth lawn o’r eiddo a’r tenant am oes y les.
*Yn amodol ar delerau ac amodau.
Yn dod yn fuan i Sir y Fflint
Ar gyfer ymholiadau ac i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â landlord.support@siryfflint.gov.uk / 01352 703811