Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
1 Rhagfyr 2022
Dyma beth mae angen i landlordiaid ei wneud...
---------------------
Trosi tenantiaethau presennol
Gall contractau meddiannu ddechrau ar lafar, ond mae’n rhaid cyfwyno datganiad ysgrifenedig o’r contract i’r holl ddeiliaid contract (mae hyn yn disodli’r cytundeb tenantiaeth neu drwydded presennol).
Bod yn ymwybodol o gyfnodau rhybudd newydd ar gyfer adfeddu
Rhybudd heb fai (contractau safonol cyfnodol yn unig) – o leiaf chwe mis ar gyfer contractau meddiannu newydd, ac ni ellir ei gyfwyno o fewn chwe mis cyntaf y meddiannu.
Toriadau: Dim cyfnod rhybudd ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol (gallwch wneud cais i’r llys ar unwaith ar ôl cyfwyno’r rhybudd); 14 diwrnod ar gyfer ôl-ddyledion rhent difrifol (ôl-ddyledion o 8 wythnos/2 fs); rhybudd o un mis os bydd toriadau eraill.
Sicrhau bod eiddo yn Fft i Fod yn Gartref
Gan gynnwys profon diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau tân yn gweithio a bod synwyryddion carbon monocsid yn cael eu darparu.
Adfeddu eiddo gwag
Heb fod angen gorchymyn llys, ar ôl cyfwyno rhybudd o bedair wythnos
Gellir ychwanegu neu ddileu deiliaid contract
Heb fod angen diweddu’r contract presennol a dechrau un arall
Gwell hawliau olynu sy’n golygu bod hawl gan ddeiliad contract drosglwyddo ei gartref
(hyd at ddwywaith) i bobl eraill sy’n byw gyda nhw (gan gynnwys priod, plant sy’n oedolion neu ofalwr) os bydd yn marw.
Y Ddeddf yw’r newid mwyaf i Ddeddf Tai mewn degawdau ac mae wedi effeithio ar y Sector Tai Preifat a Chymdeithasol. Pwrpas y Ddeddf yw gwneud cyfreithiau tai yn fwy syml ac yn haws i bawb, yn ogystal â chynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i ddeiliaid contract a Landlordiaid.
Pa newidiadau y mae’r Ddeddf wedi’i gwneud?
Trosolwg
- Bellach cyfeirir at Gytundeb Tenantiaeth fel ‘Contract Meddiannaeth’ a gelwir Tenantiaid bellach yn ‘Ddeiliaid Contract’.
- Mae cyfnodau rhybudd wedi cael eu hymestyn - Mae’n rhaid i Landlordiaid roi 6 mis o rybudd i adael eiddo, cyn belled nad yw’r contract wedi cael ei dorri. Ni ellir rhoi rhybudd o fewn 6 mis cyntaf y contract.
- Newidiadau contract - Gall deiliad contract gael eu hychwanegu neu eu dileu heb fod gorfod dod â thenantiaeth i ben. Gellir diweddaru contract yn hawdd bellach gan alluogi i ddeiliaid contract aros yn yr eiddo.
- Hawliau olynu - Mae gan ddeiliaid contract fwy o hawliau olynu i basio eu cartref ymlaen i rywun arall
- Adfeddiannu - Gall landlordiaid bellach adfeddiannu eiddo a adawyd heb orchymyn llys, ar yr amod bod ymchwiliadau addas o eiddo a adawyd wedi'u cynnal.
Contractau meddiannaeth
Cyfeirir at bob tenant bellach fel ‘Deiliaid Contract Meddiannaeth’ a gelwir pob cytundeb tenantiaeth bellach yn ‘Contract Meddiannaeth’. Mae yna ddau fath o Gontract Meddiannaeth:
Mathau o Gontract Galwedigaeth
Contract Diogel | Contract Safonol |
Y contract difoyn a roddir gan “landlordiaid cymunedol” (y term a ddefnyddir ar gyfer awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig). |
Y contract difoyn i’w ddefnyddio gan “landlordiaid preifat” (pob landlord heblaw landlordiaid cymunedol). |
Yn ôl y Ddeddf mae’n rhad i Landlordiaid roi ‘datganiad ysgrifenedig’ o’r contractau meddiannaeth hyn. Mae’r rhestr o gytundebau o’r contract wedi’u categoreiddio a’u safoni mewn i ‘delerau’ penodol i’w gwneud nhw’n haws i bawb eu deall.
Mathau o Dermau
Materion Allweddol |
Mae’n rhaid i’r materion allweddol canlynol gael eu cynnwys ym mhob contract meddiannaeth:
- Cyfeiriad yr annedd
- Dyddiad meddiannaeth (y dyddiad y mae’r deiliaid contract yn gallu meddiannu’r annedd)
- Swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall
- Y cyfnodau rhentu (er enghraifft wythnosol neu fisol)
- P’un a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi’i wneud am gyfnod penodol
- Os yw’n cael ei wneud am gyfnod penodol, am faint mae wedi’i wneud (am faint mae’r contract yn weithredol, pryd mae o’n cychwyn a phryd mae o’n gorffen)
- Unrhyw gyfnodau lle nad oes gan ddeiliaid y contract hawl i feddiannu annedd fel cartref (er enghraifft, i alluogi landlordiaid prifysgol ddefnyddio eu llety myfyrwyr at ddibenion eraill y tu allan i’r tymor).
|
Termau Sylfaenol ac Atodol |
Termau Sylfaenol wedi’u nodi yn y Ddeddf ac yn ymdrin ag agweddau pwysicaf y contract, gan gynnwys y gweithdrefnau meddiannu a rhwymedigaethau’r landlord o ran atgyweirio. |
Termau Atodol |
Mae’r termau yma’n delio â’r materion mwy ymarferol, o ddydd i ddydd sy’n berthnasol i’r contract meddiannaeth, er enghraifft, y gofyniad i dalu rhent ar amser neu ofalu am eiddo. |
Mae’r Llywodraeth wedi creu contractau enghreifftiol y gellir eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim o wefan Llywodraeth Cymru. Fe ellir eu haddasu i fod yn benodol i’ch sefyllfa chi.
Cyfnodau Rhybudd
O dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi newydd, ni ellir troi tenant allan o dan Adran 21 ‘heb fai’ bellach ers 1 Rhagfyr 2022.
Yn disodli rhybudd Adran 21 y mae elfen troi allan heb fai Adran 173 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Landlord roi 6 mis o rybudd ac ni ellir ei roi o fewn 6 mis cyntaf y denantiaeth.
Ni all Adran 173 gael ei roi yn ystod contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol. Mae’n rhaid i landlord aros nes bod y contract cyfnod penodol yn gyfnodol ar ddiwedd y tymor cyntaf cyn iddynt allu rhoi’r rhybudd.
Bydd y cyfnod chwe mis ond yn berthnasol i gontractau meddiannaeth sy’n dechrau ar neu ar ôl 01 Rhagfyr 2022.
Ar gyfer tenantiaeth cyfnodol presennol a ddechreuodd cyn 01 Rhagfyr 2022, dim ond deufis o rybudd y mae angen i landlordiaid ei roi o dan adran 173, ond ni ddylai hysbysiad o’r fath gael ei gyflwyno o fewn pedwar mis cyntaf meddiannaeth y deiliad contract.
Ar gyfer tenantiaeth cyfnod penodol presennol a ddechreuodd cyn 01 Rhagfyr 2022, gall landlordiaid gyflwyno hysbysiad adran 186 i ddod â’r contract i ben ar ddiwedd y cyfnod. Dim ond deufis o rybudd y mae’n rhaid i landlordiaid ei roi o, ond ni ddylai hysbysiad o’r fath gael ei gyflwyno o fewn pedwar mis cyntaf meddiannaeth y deiliad contract.
Petai’r deiliaid contract eisiau dod â’u contract meddiannaeth i ben bydd angen iddynt adolygu amodau’r contract.
Yn ystod rhybudd cyfnod penodol, ni all deiliaid contract ddod â chontract meddiannaeth i ben oni bai bod y Landlord yn cytuno. Bydd y contract yn dod i ben yn naturiol ar ddiwedd y cyfnod penodol.
Y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw’r newid mwyaf i’r gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau a bydd yn effeithio ar yr holl landlordiaid, asiantau a thenantiaid.
Am ragor o wybodaeth, gwyliwch y fideo hwn neu ewch i llyw.cymru/rhentu-cartrefi
Gallwch ddilyn ein sianeli Facebook a Twitter drwy ddilyn y dolenni isod: