Y gofrestr tiroedd comin a meysydd pentref
Cedwir y Gofrestr Tiroedd Comin a Meysydd Trefi a Phentrefi gan y Cyngor yn unol â Deddf Cofrestru Tiroedd Comin, 1965. Mae'n cynnwys cynlluniau sy'n dangos lleoliad y tiroedd comin a'r meysydd pentref a chofrestr ysgrifenedig sy'n dangos manylion y perchnogion (os ydynt yn hysbys) ac unrhyw hawliau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y tir.
Pa wybodaeth sydd ar gael mewn chwiliad tir comin?
Mae'r Is-adran Prisiannau Tir yn cynnal chwiliadau ar y Gofrestr Tiroedd Comin a Meysydd Trefi a Phentrefi i bobl sydd am wybod a yw eu heiddo ar dir comin neu faes tref neu bentref neu gerllaw.
Sut allaf wneud cais am chwiliad?
I archwilio'r Gofrestr Tiroedd Comin, llenwch ffurflen CON29O, sydd ar gael mewn swyddfeydd cyfreithwyr neu werthwyr papurau cyfreithiol, a thiciwch gwestiwn 22. Y ffi am y cwestiwn hwn yw £15.08 a gellir ei dalu trwy wneud siec yn daladwy i 'Cyngor Sir y Fflint'. Gellir cyflwyno'r cais trwy'r post, DX (cyfleuster postio a ddefnyddir gan gyfreithwyr) neu ar-lein trwy'r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS), lle caiff taliad ei wneud trwy Bacs. Am wybodaeth bellach am NLIS neu i gyflwyno cais ar-lein, ewch i wefan NLIS (ffenestr newydd).
Beth sy'n digwydd nesaf?
Rydym yn anelu at anfon y canlyniadau atoch o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais.
A allaf edrych ar wybodaeth am dir comin fy hunan?
I wneud ymholiadau cyffredinol am diroedd comin neu i wneud apwyntiad i archwilio'r Mapiau a'r Gofrestr Tiroedd Comin a Meysydd Trefi a Phentrefi, ffoniwch Is-adran Drawsgludo'r Cyngor yn yr Is-adran Gwasanaethau Ariannol, Cyfreithiol a Democrataidd ar 01352 702312.
Gwybodaeth bellach
Am ymholiadau'n ymwneud â thiroedd comin a chwiliadau meysydd trefi a phentrefi ffoniwch yr Is-adran Prisiannau Tir ar 01352 702333/4/5. E-bost: pridiannau.tir@siryfflint.gov.uk
Ein cyfeiriad yw: Prisiannau Tir, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NR.