Alert Section

Eiddo / Tir'r Cyngor ar Werth


Mae’r adran Prisio ac Ystadau yn delio â gwerthiant a phrydlesu eiddo dros ben, a gall gynnwys swyddfeydd, tir datblygu, eiddo masnachol, amwynder neu dir gardd, daliadau amaethyddol a  phorfa.  Pan fydd y Cyngor yn adolygu ei asedau, efallai bydd rhai ohonynt yn cael eu hystyried fel rhai dros ben ac yn cael eu rhyddhau i’w gwaredu drwy werthiant rhydd-ddaliad (Ar werth)

Nid yw’r Awdurdod yn cynnal rhestr bostio o ymgeiswyr sydd yn ceisio prynu eiddo’r cyngor ac yn argymell bod y rheiny sydd yn dymuno cael tir ac adeiladau i adolygu beth sydd ar gael drwy edrych ar wefan Cyngor Sir y Fflint yn rheolaidd. Ar adegau byddwn yn cael gwasanaethau proffesiynol Asiantwyr i reoli gwarediad.  Drwy weithredu ar ein rhan byddant yn rheoli pob agwedd o’r gwarediad

Rhestri Cyfredol

  • Nid oes gennym unrhyw restri ar werth ar hyn o bryd.

Manylion cyswllt
Gwasanaeth Prisio ac Ystâd 01352 703100 neu e-bost: valuationandestates@flintshire.gov.uk