Alert Section

Chwiliadau Tir ac Eiddo (Trawsgludo)


 

Oherwydd adleoli staff nid ydym ar hyn o bryd yn gallu cynnig Ymholiad Dewisol Rhif 21 fel rhan o'n proses chwilio.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir. Os ydych yn prynu eiddo yn ardal Sir y Fflint, fel rhan o'r broses drawsgludo, fel arfer caiff cais ei wneud i'r swyddfa Pridiannau Tir Lleol i ddarparu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall yn ymwneud â chostau, hysbysiadau a materion yn gysylltiedig â'r awdurdod lleol sy'n effeithio ar yr adeilad(au) neu'r llain o dir.

Gall Awdurdodau Lleol, cwmnïau chwilio preifat ac aelodau o'r cyhoedd gynnal chwiliadau tir ac eiddo.

Hysbysiad o gynnydd mewn ffioedd yn weithredol o 1 Hydref, 2022 Cynnydd mewn Ffioedd (PDF)

Sut i gael gwybodaeth CON29 ‘ymholiadau i’r awdurdod lleol (2007)' (PDF 19KB ffenestr newydd) dan reoliadau gwybodaeth amgylcheddol 2004.

Defnyddiwch ein Ffurflen Cais am Chwiliad Lleol (PDF 95KB ffenestr newydd) i wneud cais am eich chwiliad. Gellir argraffu a'i llenwi’r ffurflen ac yna ei phostio neu ei sganio a'i e-bostio i'r cyfeiriad a roddir.

Ffurflen Gais Chwilio Adnewyddu (PDF ffenestr newydd)