Alert Section

Gwybodaeth am brydau Ysgol, gwyliau'r ysgol a hanfodion eraill ynglŷn â'r ysgol

Mae yna sawl gohebiaeth wedi bod dros yr wythnosau diwethaf yn ymwneud â phrydau ysgol a hanfodion eraill yn ymwneud â'r ysgol, ac wrth i'r tymor dynnu tua'i derfyn fe all fod yn ddefnyddiol i gael y wybodaeth hon i gyd mewn un lle.

Taliadau i’r rhai sy’n Gymwys am Brydau Ysgol am Ddim dros y gwyliau

Caiff Prydau Ysgol am Ddim i’r rhai sy’n Gymwys eu darparu i’r holl ddisgyblion y mae eu rhieni/gofalwyr yn gymwys i’r budd-dal hwn drwy asesiad incwm ac maent yn parhau’n gymwys cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyso.

O ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ni fydd Cyngor Sir y Fflint bellach yn gwneud taliadau i’r rhai sy’n Gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim dros y gwyliau.  Dylai’r holl ymholiadau ynglŷn â pham nad yw’r ddarpariaeth bellach ar gael i’r rhai sy’n Gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau fel y gall plant fwyta’n dda yn ystod gwyliau’r haf a bydd yn cydweithio gydag Aura Cymru i ariannu pecynnau bwyd i blant sy’n mynychu eu gweithgareddau Ffitrwydd, Bwyd a Darllen.   Bydd y sesiynau’n rhedeg am bum wythnos o 24 Gorffennaf tan 25 Awst o ddydd Llun i ddydd Gwener mewn gwahanol leoliadau ar draws Sir y Fflint.  I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Josh yn josh.mcewan@aura.wales

Bwyd a Hwyl

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gaiff ei ddarparu drwy ysgolion cymwys yn ystod gwyliau’r haf.  Mae nifer o ysgolion Sir y Fflint yn cymryd rhan a bydd y disgyblion sy’n mynychu yn derbyn cinio maethlon. Mae’r rhestr o ysgolion Sir y Fflint sy’n cymryd rhan ar gael ar y wefan CLlLC. Siaradwch â’ch ysgol yn uniongyrchol os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi.  

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yr Ysgolion Cynradd

Menter Llywodraeth Cymru yw Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yr Ysgolion Cynradd a fydd yn golygu y bydd pob plentyn o oed cynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim erbyn 2024, waeth beth fo’u hincwm.  Ers 2022 mae Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yr Ysgolion Cynradd wedi ei gyflwyno i ddisgyblion y dosbarthiadau Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 yn yr holl ysgolion cynradd ar draws Sir y Fflint.   O fis Medi 2023 bydd hyn yn cael ei ehangu i gynnwys disgyblion Blwyddyn 3 a 4 ac yn dilyn hyn bydd Blynyddoedd 5 a 6 yn Ebrill 2024.    Nid oes angen ymgeisio na chofrestru. 

Grant Hanfodion Ysgol (y cyn Grant Gwisg Ysgol)

Eleni, rydym yn ceisio gwella’r drefn o wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol (y cyn Grant Gwisg Ysgol). Rydym yn gobeithio lleihau’r angen i lenwi ffurflenni a chyflymu’r broses o wneud taliadau, fel bod mwyafrif y rhieni a gwarcheidwaid yn gallu cael y grant cyn diwedd mis Gorffennaf.  
Bydd y taliadau hyn yn cael eu rhoi i blant y mae eu rhieni neu warcheidwaid yn gallu ateb YDYN/DO i BOB un o’r cwestiynau canlynol; 

  • A yw eich plant yn cael Prydau Ysgol am Ddim?
  • A yw eich plant ym Mlwyddyn 1 neu uwch?
  • Ydych chi wedi bod yn cael taliadau yn lle Prydau Ysgol am Ddim yn ystod gwyliau’r ysgol?
  • Gawsoch chi Grant Hanfodion Ysgol (y cyn Grant Gwisg Ysgol) rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023?

Os mai YDYN/DO yw’r ateb i BOB un o’r cwestiynau uchod, nid oes angen i chi ymgeisio am Grant Hanfodion Ysgol eleni, gan y bydd y taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig erbyn 30 Gorffennaf 2023. Os na fyddwch wedi cael y taliad erbyn 30 Gorffennaf 2023, anfonwch e-bost at freeschoolmeals@siryfflint.gov.uk i roi gwybod am hynny. 

Os yw eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn, yn symud o ysgol y tu allan i Sir y Fflint, neu os yw eich amgylchiadau wedi newid sy’n golygu eich bod bellach yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a Grant Hanfodion Ysgol, byddwch angen cwblhau cais. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Sir y Fflint drwy chwilio am ‘Prydau Ysgol am Ddim’ neu deipio’r URL byr https://www.siryfflint.gov.uk/PYaD

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau byw drwy ddilyn y dolenni isod:

Cael help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU

Yma i helpu gyda chostau byw | LLYW.CYMRU

Canolbwynt Costau Byw Cyngor Sir y Fflint