Alert Section

Sir y Fflint sy'n Falch o'r Mislif


Ers 2019 mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, o’r enw ‘Grant Urddas Mislif’, i helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif ar draws Cymru.

Mae Urddas Mislif yn ymwneud â:

  • Pharch - cael gwared ar y stigma a’r cywilydd ynghylch mislif.
  • Addysg - helpu pobl i ddeall bod mislif yn normal ac yn iach.
  • Cydraddoldeb - gwneud yn siŵr bod gan bawb bopeth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu mislif, a bod neb yn wynebu tlodi mislif.

Ni ddylai unrhyw un fod dan anfantais am eu bod nhw’n cael mislifoedd trwm.  Fe ddylai pawb gael mynediad at gynnyrch mislif pan maen nhw eu hangen nhw - er yn anffodus, nid yw hyn yn digwydd bob tro.

Mae Bod yn Falch o’r Mislif yn golygu:

  • Bod pawb yng Nghymru yn cael eu trin yn gyfartal a chyda pharch. Ni ddylai unrhyw un gael eu dal yn ôl na’u hatal rhag cyflawni eu golau am eu bod nhw ar eu mislif. 

Pobl Ifanc

Yn Sir y Fflint, mae pob ysgol Gynradd ac Uwchradd yn derbyn cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi eu dysgwyr. Gall pob ysgol wario eu cyllid ychydig yn wahanol, ond mae ganddynt oll yr un amcan o ddarparu cynnyrch mislif am ddim i’w dosbarthu yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol â phosibl.

Cymunedau

Mae’r grant hefyd yn cefnogi ein cymunedau trwy ddarparu adnoddau a chymorth am ddim trwy bwyntiau allweddol o gymorth, megis banciau bwyd, canolfannau cefnogi cymunedol a lleoliadau dysgu cymunedol i oedolion. Dilynwch y dolenni isod i ganfod lleoliad sy’n agos i chi: 

Banciau Bwyd Sir y Fflint Lleoliadau | Banc Bwyd Sir y Fflint

Lleoliadau Canolfannau Cefnogi Cymunedol Hwb Costau Byw (siryfflint.gov.uk)

Dysgu Cymunedol i Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru Dysgu Cymunedol o Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru (groundworknorthwales.org.uk) / Dysgu Cymunedol i Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru | Facebook

Darpariaeth Ieuenctid Sir y Fflint Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint / Darpariaeth Ieuenctid Sir y Fflint | Yr Wyddgrug | Facebook

Canolfannau Hamdden Canolfannau Hamdden - Aura Cymru

Cynnyrch Eco-gyfeillgar

Ynghyd â Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau y mae pob math o lygredd plastig yn ei achosi.  Yn unol ag ymrwymiadau amgylcheddol presennol Llywodraeth Cymru, rydym ni’n gobeithio cynyddu’r ganran sy’n cael ei wario ar gynnyrch mislif eco-gyfeillgar bob blwyddyn. Ein nod yw sicrhau bod 90-100% o’r cynnyrch mislif sy’n cael ei brynu drwy’r grant yn eco-gyfeillgar erbyn 2025-2026. 

Mae sgôp y targed yno er mwyn cefnogi’r broses o symud i ffwrdd o ddewisiadau plastig defnydd untro y gellir eu taflu, tuag at ddewisiadau ailddefnyddadwy, di-blastig tra’n sicrhau dewis parhaus i ddefnyddwyr, hygyrchedd, ynghyd ag effaith amgylcheddol pwysig a chadarnhaol. 

Cynnyrch y gellir eu golchi yw cynnyrch mislif ailddefnyddadwy, megis dillad isaf mislif, padiau y gellir eu hailddefnyddio a chwpanau silicon ar gyfer mislif y gellir eu hailddefnyddio.  Dewisiadau eco-gyfeillgar yw’r rhain nad ydyn nhw’n cynnwys plastig. 

Cynnyrch mislif y gellir eu taflu yw cynnyrch defnydd untro megis tamponau, padiau tenau a thyweli hylendid. Gall pecyn o dyweli hylendid gynnwys hyd at 5 bag plastig. Gall cynyddu faint o gynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio helpu i leihau gwastraff a lleihau faint sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. 

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi llunio canllaw am sut y gallwch chi helpu i leihau gwastraff. Ffynhonnell ryngweithiol ddefnyddiol arall gan Cadwch Gymru’n Daclus yw Chwalu Mythau am y MISLIF.

Adroddiadau Urddas Mislif Cyngor Sir y Fflint

Isod fe welwch chi ddolenni i adroddiadau sy’n rhoi trosolwg i Aelodau Cyngor Sir y Fflint o’r sefyllfa bresennol yn genedlaethol o ran Urddas Mislif, a sut y mae arian grant o fudd i ysgolion a chymunedau Sir y Fflint. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Cyngor a Democratiaeth - Cyngor Sir y Fflint.

Adroddiad Urddas Mislif CSFf 2022

Adroddiad Urddas Mislif CSFf 2024 

Rhagor o wybodaeth

Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif

Ym mis Chwefror 2023, fe amlinellodd Lywodraeth Cymru y ffordd y bydd yn sicrhau Urddas Mislif yng Nghymru drwy gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif. Mae’r cynllun yn nodi uchelgais i gael gwared ar dlodi mislif a sicrhau Urddas Mislif i ferched, genethod a phobl sydd yn cael mislif, erbyn 2027.

Mislif Fi

Fe greodd Social Change UK ‘Mislif Fi’ ar ran GIG Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn agor y sgwrs a darparu gwybodaeth ar iechyd mislif, fel nad yw cenedlaethau o bobl ifanc yn dioddef mewn tawelwch yn sgil ofn o siarad allan neu ddiffyg dealltwriaeth o ran yr hyn sy’n normal mewn perthynas â mislif.

Hwb - ‘Chwalu’r mythau - Mislif!’

Adnodd dysgu ar-lein i helpu athrawon, a dysgwyr 11 - 16 oed, i chwalu mythau am y mislif, edrych ar y dewisiadau o ran cynnyrch sydd ar gael, yn ogystal ag effeithiau cynnyrch a gwastraff ar ein hamgylchedd.

Er ei fod wedi ei anelu’n bennaf at ysgolion uwchradd, mae’r adnoddau hefyd yn cynnwys gwybodaeth allai fod o fudd i grwpiau cymunedol am ddewisiadau cynaliadwy i gynnyrch mislif defnydd untro a’r effaith y gall y rhain eu cael ar yr amgylchedd.

The Menstrual Health Project

Maent yn darparu cefnogaeth ymarferol ar gyfer y rhai sy’n dioddef o bryderon a chyflyrau iechyd y mislif, trwy addysg, offer ac adnoddau.