Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2012, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gylch arall o gyfarfodydd ymgynghori anffurfiol, ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf, ynghylch y dewis a ffefrir ar gyfer Bwcle, Mynydd Isa a’r Wyddgrug.
Dyma’r dewis a ffefrir :
Cadw’r ddarpariaeth 11-16 yn Ysgol Uwchradd Elfed. Ad-drefnu’r ysgol i gynnig lle i 600 o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac i greu cyfleusterau addysgol, diwylliannol a hamdden.
Mae gweledigaeth o blaid datblygu a gwella Ysgol Gynradd Westwood ar ei safle presennol ynghyd â pharodrwydd i ystyried symud y swyddfa o Ganolfan Westwood i gampws Elfed.
Oherwydd y cynnydd yn nifer y disgyblion yn ardal Bwcle, mae rhai o ysgolion cynradd y dref yn rhy lawn. Byddai’n bosibl gwneud gwell defnydd o Ysgol Gynradd Westwood i gynnig lle i ragor o ddisgyblion ac i fodloni’r cynnydd yn y galw am lefydd. Byddai hyn yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol sy’n argymell eu bod yn defnyddio’r lle sydd ar gael eisoes mewn ysgolion ac i beidio ag ymestyn ysgolion poblogaidd ar draul eraill. Yn ystod yr ymgynghoriad roedd yn amlwg iawn nad oedd fawr o gefnogaeth yn y gymuned i’r syniad o greu darpariaeth gynradd ar safle Ysgol Uwchradd Elfed.
Mae adeilad Ysgol Uwchradd Elfed yn parhau i fod yn rhy fawr ar gyfer nifer y disgyblion 11-16 oed a ragwelir. Mae angen ystyried ymhellach y posibiliadau ar gyfer datblygu addysg uwchradd yn ardal Bwcle ac i ddefnyddio’r safle at ddibenion eraill er mwyn diogelu’r ysgol. Gellid defnyddio’r ysgol at wahanol ddibenion a fyddai o fudd i’r sector addysg ac i’r gymuned e.e. gwasanaethau cyhoeddus, gweithgareddau hamdden a diwylliant. Yn ogystal â chreu campws mwy effeithlon, gallai hyn hefyd ddiogelu’r seilwaith pe bai unrhyw newidiadau hirdymor ym mhatrwm y galw demograffig.
Mae bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth yn her i’r ysgol a’r awdurdod.
Mae nifer sylweddol, gan gynnwys corff llywodraethu Ysgol Uwchradd Elfed, o’r farn y dylid parhau i gynnig addysg ôl-16 yn yr ysgol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod nifer y disgyblion ar gofrestr y chweched dosbarth yn is na’r hyn sydd ei angen i gynnig sicrwydd ariannol, ac i fedru parhau i gynnig cwricwlwm digon eang i fodloni gofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau. Yn ôl yr amcanestyniadau sydd ar gael ar hyn o bryd o nifer y disgyblion, go brin y bydd modd datrys y broblem hon ac, o ganlyniad, ymddengys mai’r ffordd orau ymlaen o ran darparu addysg gydnerth i fyfyrwyr yn y gymuned, fyddai cynnig addysg 11-16 yn yr ysgol, ond cynnig addysg ôl-16 ar safle arall.
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma .