Adolygiad o Ysgolion Uwchradd John Summers
I newid ystod oedran Ysgol Uwchradd John Summers o 11-18 i 11-16 (o 31 Awst 2016) a chau Ysgol Uwchradd John Summers 11-16 (o 31 Awst 2017)
Mae'r Awdurdod Lleol wedi derbyn y llythyr penderfyniad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol Ysgol Uwchradd John Summers.
Ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori, adroddiad ymgynghori, gwrthwynebiadau statudol, adroddiad gwrthwynebiad a'r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani, mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cynnig statudol i newid ystod oedran yr ysgol o 11-18 i 11-16 o 31 Awst 2016, gyda darpariaeth ôl-16 yn trosglwyddo i'r ganolfan ôl-16 newydd yng Nglannau Dyfrdwy o fis Medi 2016. Bydd yr ysgol 11-16 yn cau ar 31 Awst 2017 o dan y cynnig.
Mae cynlluniau pontio wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth ag ysgolion lleol i gefnogi pob dysgwr, ond yn enwedig dysgwyr a myfyrwyr sy’n arbennig o ddiamddiffyn yn ystod y blynyddoedd arholiadau. Mae trefniadau ar y gweill i swyddogion awdurdodau lleol gefnogi aelodau o gymuned yr ysgol wrth weithredu'r penderfyniad.
Bydd yr Awdurdod Lleol nawr yn cyfathrebu â rhieni, gofalwyr a phartïon eraill â diddordeb. Bydd swyddogion yr Awdurdod Lleol hefyd yn cwrdd â staff wrth iddynt ddychwelyd a Llywodraethwyr.
Yn bwysicaf oll, bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i annog a chadarnhau gwaith arweinyddiaeth yr ysgol yn eu cefnogaeth ddyddiol i ddysgwyr.Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â'r Tîm Moderneiddio Ysgolion drwy e-bostio: 21stCenturySchools@flintshire.gov.uk
CYNNIG I WNEUD NEWIDIADAU A REOLEIDDIR I YSGOL UWCHRADD JOHN SUMMERS, Queensferry.
Adroddia Gwrthwynebu
Hysbysiad Statudol - Mae'r cyfnod gwrthwynebu wedi dod i ben.
Adroddiad Ymgynghori
Gohebiaeth bellach gan Aelod o'r Cynulliad
Cyflwyniad gan Rieni / Cyfarfod Ymgynghori Gofalwyr - Dydd Iau 25 Mehefin, 2016
Amserlen Cyfarfodydd Ymgynghori Ysgol Uwchradd John Summers
Dogfen Ymgynghori Ffurfiol
Dogfen Plant a Phobl Ifanc
Gwybodaeth atodol ar gyfer Ymgynghoriad John Summers
Cynnig Ysgol Uwchradd John Summers - Cwestiynau ac Atebion
Gallwch weld sut byddai’r newidiadau arfaethedig yn effeithio ar Gydraddoldeb a'r iaith Gymraeg yn yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ac Iaith.