Alert Section

Polisi Torri Gwair


Y diweddaraf am dorri’r gwair - 2024

Mae’r tywydd cynnes a gwlyb dros gyfnod y Gwanwyn wedi gweld cynnydd enfawr yn nhyfiant glaswellt ledled y sir gan greu mwy o alw ar ein gweithwyr yn nhimau priffyrdd a chynnal tiroedd.   Fodd bynnag, oherwydd toriadau cyllideb yn ddiweddar, mae adnoddau yn fwy prin o’u cymharu â’r blynyddoedd a fu.  Fel awdurdodau lleol eraill ar draws y wlad mae Sir y Fflint wedi gorfod lleihau ei wariant eleni ar gyfer ei holl wasanaethau, ond nid oes lleihad wedi bod yn nifer y safleoedd sy’n cael eu cynnal ar gyfer torri gwair (834 safle ac 16 mynwent).

O ganlyniad mae yna lai o aelodau yn y tîm cynnal tiroedd o’i gymharu â’r gorffennol.  Mae hynny ynghyd â thymor hirach o wair yn tyfu sydd wedi cael ei achosi gan hinsawdd gynhesach yn ei gwneud yn anoddach fyth i ddarparu yr un gwasanaeth y mae preswylwyr wedi arfer ei gael a bydd adegau o’r flwyddyn lle bydd y gwair yn tyfu mor sydyn fel ein bod yn methu â chadw i fyny er gwaethaf ein hymdrechion.  Mae cydbwyso disgwyliadau cwsmeriaid gyda thywydd a’r adnoddau sydd ar gael yn dod yn fwyfwy heriol.   Mae ein timau torri gwair yn gydwybodol ac yn ymfalchïo yn eu gwaith, a byddwn yn torri gwair rhwng mis Mawrth a mis Hydref, ond tydi pob ardal laswelltog ddim angen yr un drefn o ran torri.

Cymeradwywyd newid mewn polisi gan y Cyngor ym mis Mawrth 2023 ar gyfer rheoli ymylon ffyrdd a glaswelltir amwynder sy’n cefnogi bioamrywiaeth yn well mewn ardaloedd lle nad oes pryder o ran diogelwch i breswylwyr a modurwyr.   Mae gofal mawr wedi cael ei gymryd i sicrhau fod torri gwair yn parhau mewn llefydd lle byddai’n amharu ar ddiogelwch o ran gwelededd gwael neu lle mae lled palmentydd a llwybrau beic wedi cael eu lleihau ac yn eu gwneud nhw’n llai diogel.  Mae hyn yn golygu na fydd gwair yn cael ei dorri mor aml, mewn rhai ardaloedd eraill fel ymylon priffyrdd ac mewn rhai ardaloedd ni fydd toriadau llawn fel mewn mynwentydd.

Mae’n bwysig cynnal mynwentydd a gofod hamdden fel parciau trefol ar gyfer lles defnyddwyr ac rydym yn deall a chydnabod y pryderon diweddar ynghylch torri gwair ar draws y sir.   Fodd bynnag, rydym wedi adnabod safleoedd neu ffiniau safleoedd lle gellir gadael i wair dyfu er budd natur, bioamrywiaeth ac i’n helpu ni fynd i’r afael â newid hinsawdd.  Mae cydbwyso diogelwch gyda’r angen i gefnogi bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles y gymuned a’r amgylchedd.

Os ydych yn bryderus fod ymyl ffordd, parc neu fynwent wedi gordyfu gallwch roi gwybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Yna bydd y safle yn cael ei archwilio ar gyfer unrhyw broblemau diogelwch ac unrhyw gamau i’w cymryd (os oes angen).

Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaeth torri gwair mewn nifer o leoliadau a phrif gyfleusterau o amgylch y Sir. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Ymylon ffyrdd
  • Ardaloedd Amwynder
  • Llwybrau troed cyhoeddus / Llwybrau beicio
  • Gwrychoedd
  • Arosfannau bysiau
  • Pyrth Pentrefi / Trefi
  • Tir Chwaraeon a Hamdden -  
  • Mynwentydd
  • Gerddi Tenantiaid

 Mae gan y sir gyfrifoldeb cyfreithiol i reoli’r Rhwydwaith Priffyrdd o ran sicrhau bod y llwybrau ar gael ac yn ddiogel i’r defnyddiwr priffordd. Mae’n ymgymryd â’r ddyletswydd hon yn ei rôl fel Awdurdod Priffyrdd.

Bydd gwair yn cael ei glirio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig – yn arbennig y toriad cyntaf mewn gerddi tenantiaid ac ardaloedd amwynder yn uniongyrchol o flaen llety gwarchod.

Mae’r mecanweithiau darparu ar gyfer torri gwair fel a ganlyn:

  • Ymyl Priffyrdd Gwledig – Dan gontract
  • Ymyl ffyrdd trefol – dan gontract
  • Ardaloedd Amwynder – rhannol dan gontract / rhannol fewnol
  • Mynwentydd – Mewnol            
  • Gerddi Tenantiaid – dan gontract
  • Gwrychoedd – dan gontract
  • Meysydd chwarae ysgolion – dan gontract
  • Hawliau Tramwy – dan gontract (rheolir gan wasanaethau cefn gwlad)

Os bydd gennych unrhyw bryderon neu sylwadau mewn perthynas â thorri gwair, yna cysylltwch â Strydwedd.

Cysylltwch â Strydwedd

Polisi Torri Gwair