Dodrefn stryd
'Dodrefn stryd' yw'r term cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer eitemau megis:
- Biniau sbwriel
- Meinciau
- Llochesau bws
- Y rhan fwyaf o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo a heb fod wedi'u goleuo
- Lampau stryd
- Signalau traffig ac arwyddion sy'n dangos negeseuon newidiol
- Ffensys priffyrdd
- Rhwystrau diogelwch
- Waliau (nid waliau preifat)
- Rhwystrau
- Biniau halen
- Blychau cyfrif traffig
- Standiau beiciau
- Hysbysfyrddau
- Platiau enwau ffyrdd
- Yn ogystal, mae'n gallu cyfeirio at eitemau addurnol gan gynnwys goleuadau stryd addurnol, basgedi hongian a chafnau blodau.
Mae hawl gan gyflenwyr statudol (cwmnïau dŵr, nwy, trydan a ffôn) osod eitemau ar briffyrdd, er enghraifft:
- Polion a blychau ffôn/trydan
- Mastiau ffonau symudol
- Hydrantau tân
- Marcwyr falf-atal
Rhoi gwybod am broblem
Mae eitemau fel bolardiau a biniau halen wedi'u rhifo. Gofynnwn i chi rhoi gwybod i ni rhif yr eitem os yw hynny'n bosibl ynghyd â'r union leoliad, er enghraifft tirnod, cyffordd lôn neu rif tŷ, y math o ddodrefn stryd, a'r broblem.
Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.
Rhoi gwybod am broblem
Beth sy’n digwydd nesaf?
Caiff eich adroddiad ei anfon at ein tîm Gwasanaethau Stryd. Byddwn yn archwilio unrhyw ddifrod i ddodrefn stryd ac os yw'r Cyngor yn berchen ar y darn penodol o ddodrefn stryd byddwn yn ei drwsio os yw hynny'n bosibl. Os mai trydydd parti sydd berchen ar y dodrefn stryd, byddwn yn eu hysbysu nhw o'r difrod.
Os yw'r celfi sydd wedi'u difrodi yn beryglus, byddant yn cael eu gwneud yn ddiogel cyn gynted ag sy'n bosibl, cyn pen 2 awr fel arfer. Byddwn yn trefnu i'r dodrefn stryd gael ei drwsio yn gyflym ond gall hynny gymryd ychydig yn hirach na'r disgwyl os oes rhaid i'r dodrefn stryd newydd gael ei gynhyrchu'n arbennig.