Ymgynghoriad 20MPH Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru
Diweddaru - Hydref 2021
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o’ch darparu â diweddariad ar y cynnig i weithredu terfyn cyflymder 20mya ar draws ardaloedd preswyl Bwcle, New Brighton a Mynydd Isa, sydd bellach yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu proses a fydd yn sicrhau cyfreithlondeb o wneud gorchmynion rheoleiddio traffig ar gyfer Sir y Fflint.
Efallai eich bod yn ymwybodol, bod y prosiect 20mya arfaethedig ym Mwcle, New Brighton a Mynydd Isaf wedi’i dargedu ar gyfer cefnogi datblygiad cyflwyno terfynau cyflymder 20mya cenedlaethol ar draws Cymru. Yn dilyn proses ymgynghori manwl, cynigir y bydd holl ffyrdd di-ddosbarth (30mya) o fewn ffiniau’r cynllun yn cael eu lleihau i 20mya ag eithrio’r A549 Cylchfan Wylfa a Dirty Mile, Dobshill. Fodd bynnag, os fydd y cyflwyniad cenedlaethol yn dechrau yn 2023 fel y cynigir, bydd deddfwriaeth a’r broses gysylltiedig yn golygu y bydd yr ardal hon hefyd yn dod yn 20mya.
Y camau nesaf fydd gosod cyfarpar monitro mewn lleoliadau amrywiol o amgylch yr ardal a fydd yn ein galluogi i gasglu data yn ogystal â datblygu’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig gofynnol a’r ymgynghoriad statudol. Bydd y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu hysbysebu am gyfnod ymgynghori statudol o 4 wythnos o ddydd Gwener. Bydd hysbysiad yn ymddangos yn Flintshire Leader a gallwch archwilio’r dogfennau yn ymwneud â’r cynllun yng Nghanolfan Bwcle yn Cysylltu neu gallwch eu gweld ar y wefan ar Gorchmynion rheoliadau traffig:
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Traffic-regulation-orders.aspx
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i gadarnhau’r cynlluniau ar gyfer gweithgarwch gorfodi a fydd yn digwydd yn unol â strategaeth gorfodi’r prosiect. Yn ôl y drefn arferol, bydd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal gyda holl wasanaethau brys i rannu’r mapiau a’r cynigion.
Hoffem ddiolch i bawb am eu cymorth parhaus dros y flwyddyn gan fod cydweithrediad ac ymrwymiad trigolion lleol yn hanfodol i lwyddiant y prosiect 20mya. Hefyd hoffem gymryd y cyfle i ofyn am eich cymorth i helpu hyrwyddo’r cynllun ac i godi ymwybyddiaeth o fewn eich cymunedau lleol.
Diolch eto am eich cymorth ac edrychwn ymlaen at fynd yn fyw gyda’r prosiect 20mya yn y misoedd nesaf.