Canolfannau Busnes Sir Fflint
Mae Canolfannau Busnes Dyfrdwy a Maes Glas yn cynnwys 140 o swyddfeydd a gweithdai gwarchodol yn amrywio mewn maint o unedau bach i weithfeydd diwydiannol mawr. Mae’r Canolfannau wedi'u cynllunio i annog pobl i ddechrau busnesau newydd, datblygu twf a chynaliadwyedd trwy gefnogaeth hollol addas a chyfrinachol gan y gwasanaethau Datblygu Busnes ar y safle.
Mae Canolfannau Busnes Sir Fflint yn darparu cefnogaeth i’r Sir drwy Siop-Un-Stop sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor ynglŷn â chefnogaeth arbenigol a TG i fusnesau sy’n bodoli eisoes a mentrau newydd sy’n dechrau. Rydym hefyd yn eu cyfeirio at wasanaethau'r Cyngor a phartneriaid priodol gan gynnwys ffynonellau cymorth ariannol, adrannau Diogelu’r Cyhoedd, Cynllunio, Caffael ac Iechyd yr Amgylchedd.
Mae gwasanaethau a chyfleusterau eraill y Canolfannau Busnes yn cynnwys:
- Gwasanaeth busnes siop-un-stop
- Swyddfeydd a gweithdai wedi eu rheoli
- Telerau cytundeb i mewn-yn-hawdd allan-yn-hawdd
- Costau a gwasanaeth rhentu cystadleuol
- Gweithle o ansawdd o £50 y mis gyda chefnogaeth busnes llawn ar y safle
- Gwasanaethau gweinyddiaeth a derbynfa
- Amgylcheddau proffesiynol
- Ystafell gyfarfodydd, hyfforddiant a chynadleddau bwrpasol
- Cyfleusterau arlwyo ar y safle
- Lleoliadau canolog
- Digonedd o leoedd parcio gyda rhwydweithiau trafnidiaeth cyhoeddus yn ymyl
- Cyfleusterau Swyddfa Pell
- Cyfleusterau swyddfa rhithwir
Am wybodaeth bellach:
Ffôn: 01352 703055
E-bost: ValuationandEstates@siryfflint.gov.uk