O 5pm nos Wener, 28 Chwefror 2025, ni fydd gan Gyngor Sir y Fflint wasanaethau yn seiliedig yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Mae'r trefniadau amgen o ddydd Llun 3 Mawrth 2025 i'w gweld ar y dudalen hon.
Derbynfa
Bydd y dderbynfa yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug ar agor tan 5pm ddydd Gwener 28 Chwefror 2025.
O ddydd Llun 3 Mawrth 2025, bydd gwasanaethau derbynfa a oedd ar gael yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, ar gael yn:
Tŷ Dewi Sant
Parc Dewi Sant
Ewlo
CH5 3FF
Mae maes parcio talu ac arddangos ar gael o flaen yr adeilad.
Fel arall:
- Mae’n bosibl bod y wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani ar gael ar ein gwefan ac mae mynediad at amrywiaeth o wasanaethau digidol yno hefyd
- Os na allwch chi fynd ar-lein neu os na allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, mae tîm ein Canolfan Gyswllt ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener 01352 702030
- Os nad yw gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn yn addas, mae ein Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn cynnig cymorth wyneb i wyneb. Mae’r oriau agor a lleoliadau ar gael ar ein gwefan.
Post swyddfa bost ganolog
O ddydd Llun 3 Mawrth 2025, y prif gyfeiriad post ar gyfer Cyngor Sir y Fflint fydd:
Tŷ Dewi Sant
Parc Dewi Sant
Ewlo
CH5 3FF
Er y bydd gwasanaeth ailgyfeirio o Neuadd y Sir, yr Wyddgrug i Tŷ Dewi Sant yn weithredol am 12 mis (tan ddiwedd Ionawr 2026) gofynnwn i bobl ddiweddaru eu cofnodion a pharhau i ddefnyddio amlenni a rag argraffwyd tra bod ailgyfeirio’r gwasanaeth post yn weithredol.
Cyfarfodydd y Cyngor
O 3 Mawrth 2025, bydd Siambr y Cyngor yr Arglwydd Barry Jones yn adleoli i Dŷ Dewi Sant a chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yno yn y dyfodol.
Bydd cyfle i Gynghorwyr ymuno â chyfarfodydd ar-lein neu yn bersonol o hyd, a bydd cyfarfodydd yn parhau i gael eu ffrydio'n fyw ar wefan y Cyngor.
Bydd modd i’r cyhoedd gael mynediad at gyfarfodydd fel arfer ac mae maes parcio talu ac arddangos i ymwelwyr o flaen Tŷ Dewi Sant, Ewlo.
Mae manylion am leoliad, dyddiad ac amser cyfarfodydd y Cyngor ar ein tudalennau Y Cyngor a Democratiaeth.
Lleoliadau newydd gwasanaethau
Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF
- Rhaglen Gyfalaf ac Asedau
- Teledu Cylch Cyfyng
- Dosbarthu Canolog (post sy’n dod i mewn ac sy’n mynd allan)
- Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor
- Cronfa Bensiynau Clwyd
- Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Chyfathrebu (gan gynnwys y dderbynfa)
- Gwasanaethau Democrataidd (cyfarfodydd y Cyngor a chefnogaeth i Gynghorwyr)
- Cynllunio Rhag Argyfwng
- Cyllid
- Archwilio Mewnol
- TG
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Pobl a Datblygu Sefydliadol
- Rheoli Perfformiad a Risg
- Refeniw
- Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Sorted Sir y Fflint
- Y Gwasanaeth Ieuenctid a Datblygu Chwarae
Swyddfeydd y Sir, Stryd y Capel, Y Fflint CH6 5BD
- Ymgynghoriaeth Dylunio Adeiladu a Chost
Arlwyo a Glanhau NEWydd
I osgoi amharu ar baratoi a darparu prydau ysgol, bydd Arlwyo a Glanhau NEWydd, sy’n darparu prydau i’r rhan fwyaf o ysgolion Sir y Fflint, yn parhau i ddefnyddio’r gegin yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug tra mae lle arall yn cael ei baratoi.
Plas Llwynegrin, Yr Wyddgrug
Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar wasanaethau ym Mhlas Llwynegrin, yr Wyddgrug