Alert Section

Ardrethi Busnes


Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Mae’r Cyngor wrthi’n rhoi £2.3m o gymorth i dros 600 o fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Sir y Fflint drwy ostyngiad yn eu bil ardrethi busnes. 

Mae gostyngiad y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer busnesau cymwys yng Nghymru ar gyfer 2024-25 wedi’i osod ar 40%, wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru.

Mae hyn yn ychwanegol at gynlluniau Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol. I ymgeisio am ryddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch, llenwch y ffurflen gais fer: 

Cliciwch yma

 
Am ragor o wybodaeth, ac i wirio a ydych chi’n gymwys, cliciwch yma

Am ragor o gefnogaeth a chyngor busnes, www.businesscymru.gov.wales

Ble y gallaf dalu?

Debyd Uniongyrchol

Debyd uniongyrchol yw’r ffordd fwyaf hwylus o dalu ac mae mwyafrif o’n cwsmeriaid yn dewis talu yn y dull hwn.

Rydym yn cynnig dewis o ddyddiadau talu, sef:

  • Bob mis ar y 1af, 8fed, 18fed neu’r 25ain,
  • Yn wythnosol ar ddydd Llun.

Mae sefydlu Debyd Uniongyrchol yn hawdd ac mae newid i’r dull hwn o dalu yn syml, trwy gyflwyno ein.

Cliciwch yma i sefydlu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill o ran sefydlu Debyd Uniongyrchol, ffoniwch y tîm Cyfraddau busnes ar 01352 704848.

Ar-lein

Gallwch dalu ar-lein gyda'r rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd, 24 awr y diwrnod

Cliciwch yma i dalu

Bancio ar y rhyngrwyd / dros y ffôn

Gallwch dalu dros y ffôn, bancio rhyngrwyd neu PayPal. Nodwch fanylion banc y Cyngor - Cod Didoli: 54 10 10, Rhif Cyfrif: 72521775, a dyfynnu rhif cyfeirnod Ardrethi Busnes fel y dangosir ar eich bil.

Taliadau Cerdyn Credyd / Debyd dros y ffôn

Gallwch dalu 24 awr y diwrnod gyda'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd drwy ffonio ein gwasanaeth talu dros y ffôn awtomataidd ar 08453 722724 a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir.

Banc

You can make payment by cash at any bank, but you may be charged for this service. It is important that you quote the council’s bank details, Sort Code 54 10 10, Account Number 72521775, ynghyd â'ch cyfeirnod Ardrethi Busnes

Swyddfeydd y Cyngor / Cysylltu – oriau agor fel yr hysbysebir

Rydym yn croesawu taliadau drwy arian parod a'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd. Dewch â’ch bil gyda chi wrth dalu a chewch dderbynneb.

I gael gwybodaeth o ran oriau agor a chyfeiriadau, dilynwch y ddolen

Sir y Fflint yn Cysylltu

Sut allaf gofrestru neu roi gwybod am newidiadau?

Os hoffech gofrestru i dalu ardrethi busnes neu os ydych am roi gwybod i ni eich bod wedi symud, gallwch lawrlwytho ein ffurflen Symud Eiddo neu gysylltuâ'r Tîm Ardrethi Busnes.

Byddwn yn anfon bil atoch gyda rhif cyfrif personol.  Bydd angen rhif y cyfrif arnoch wrth gysylltu â ni neu wrth wneud taliad.

Os byddwch yn newid eich eiddo busnes, er enghraifft, os byddwch yn adeiladu estyniad neu droi siop yn weithdy, efallai y bydd y gwerth ardrethol yn newid.  Bydd angen i chi ein hysbysu o unrhyw newidiadau.  Yna, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn penderfynu ar y gwerth ardrethol newydd.  Byddant yn rhoi gwybod i ni beth yw eu penderfyniad a byddwn yn anfon bil newydd atoch.

Rhaid i chi dalu'r bil yr ydych eisoes wedi'i gael nes bo hyn yn digwydd.  Ni allwn newid y gost nes i'r Swyddfa Brisio newid y gwerth ardrethol.  Os nad ydych yn cytuno â'r gwerth ardrethol newydd, rhaid i chi ddweud wrth y Swyddog Prisio.

Os hoffech fwy o wybodaeth neu os ydych yn meddwl y dylid newid eich gwerth ardrethol, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio:

e-bost:  northwalesgroup.vo@voa.gsi.gov.uk

Gwefan:  http://www.voa.gov.uk 

Eich Bil Trethi Busnes

Mae’r adrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a bwrdeistrefi sirol ac awdurdodau’r heddlu. Mae eich cyngor a’ch awdurdod heddlu yn defnyddio’u cyfran o incwm ardrethi wedi’u hailddosbarthu, ynghyd ag incwm gan rai sy’n talu ardrethi annomestig, y grant cynnal refeniw a roddir gan y Llywodraeth Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu.

Am wybodaeth bellach am eich bil, ffyrdd i dalu, gostyngiadau ac eithriadau na'r cynlluniau gwario ar gyfer y Cyngor os gwelwch yn dda cliciwch ar y ddolen hon i weld y Canllawiau i’r Ardrethi Annomsetig.

Cliciwch ar y ddolen hon am ragor o wybodaeth am y cynlluniau gwario ar gyfer y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Sut maent yn cael eu cyfrifo?

Mae pob eiddo busnes yn cael gwerth adrethol.  Caiff hwn ei asesu'n annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (agorir mewn ffenestr newydd) ac mae'n cynrychioli gwerth rhent yr eiddo ar y farchnad agored ar y dyddiad prisio.  Ar gyfer Rhestr Ardrethi 2023, 1 Ebrill 2021 oedd y dyddiad hwnnw.  Gan fod cost rhentu adeilad yn codi gan amlaf, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn edrych ar y gwerthoedd ardrethol bob pum mlynedd i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.

Caiff biliau ardrethi eu cyfrifo trwy luosi'r gwerth ardrethol â'r lluosydd.  Caiff y lluosydd ei osod gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei adolygu'n flynyddol

Enghraifft

2024/25

Gwerth Ardrethol £20,000 x Lluosydd 0.562 = Bil Ardrethi £11,240.00

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch ein is-adran ardrethi busnes.

Lluosyddion Ardrethi Busnes 

Y lluosydd annomestig cenedlaethol yw'r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol ag ef i gynhyrchu bil adrethi blynyddol yr eiddo.  Caiff ei osod gan Lywodraeth Cymru ac ni all godi, yn unol â'r gyfraith, mwy na chyfanswm y cynnydd yn y mynegai prisiau adwerthu, ac eithrio mewn blwyddyn ailbrisio.

Dangosir y lluosydd safonol ar gyfer bob blwyddyn ariannol isod:

Blwyddyn AriannolLluosydd (ceiniog yn y bunt)  
2024 - 25 56.2
2023 - 24 53.5
2022 - 23 53.5
2021 - 22 53.5
2020 - 21 53.5
2019 - 20 52.6
2018 - 19 51.4

Gwasanaeth e-filio'r

Beth yw e-filio?

E-filio yw'r hawsaf i dderbyn eich bil Treth Busnes. Yn hytrach nag anfon bil papur traddodiadol byddwn yn anfon eich bil atoch drwy e-bost.

Beth yw manteision e-filiau?

Mae e-filio yn ffordd gyflymach, mwy effeithlon a chyfleus o dderbyn a gwirio’ch biliau. Dyma rai manteision:

• Gallwch weld eich bil cyn gynted ag y bydd ar gael a chadw copi ohono ar ffeil.

• Gallwch ddewis lawrlwytho a phrintio’ch bil os dymunwch.

• Gallwch ailddosbarthu copïau o filiau’n gyflym ac yn electronig.

• Gall bob un a enwir ar y bil dderbyn copi eu hunain i’r cyfeiriad e-bost a roddir ar gyfer pob unigolyn.

• Rhoddir y biliau’n uniongyrchol i’r derbynnydd dan sylw ac nid oes unrhyw oedi yn y post.

• Mae’n helpu’r Cyngor i ostwng costau printio a phostio.

• Mae’n helpu i ddiogelu’ch amgylchedd drwy arbed papur.

Sut ddylwn i gofrestru ar gyfer e-filio?

I gofrestru i dderbyn e-filiau, llenwch y ffurflen gais fer.

Ffurflen gais e-filio

Canllawiau pwysig ynghylch defnyddio gwasanaeth e-filio i’r cyngor isod.

Canllawiau pwysig ynghylch e-filio.

Gweld eich cyfrif ar-lein

Gwasanaeth ar-lein yw 'Fy Nghyfrifon i' sy’n caniatáu i chi weld manylion Ardrethi Busnes eich.

Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael dros dro, derbyniwch ein hymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Ydi’r system yn ddiogel?

Ydi, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’ch preifatrwydd ar-lein. I sicrhau na all neb ddarllen y wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom, rydym wedi cymryd y camau a ganlyn:  

Technoleg amgryptio

Mae ein meddalwedd gweinydd diogel yn amgryptio’ch holl wybodaeth bersonol. Mae amgryptio’n golygu cymryd y data gwreiddiol (e.e. eich enw defnyddiwr, rhif eich cyfrif a manylion eich cyfrif) ac yn eu troi’n data mewn cod fel nad oes modd ei adnabod wrth iddo deithio drwy’r rhyngrwyd.  

Pan fyddwch yn agor tudalennau diogel ein gwefan, fe welwch lun clo yn eich ffenestr  pori. Gallwch glicio ar y clo hwn i sicrhau mai at Gyngor Sir y Fflint rydych yn anfon  gwybodaeth.

Diogelu data

Rydym yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 sy’n sicrhau y byddwn yn diogelu ac yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol. 

Gallwch ddatgelu gwybodaeth yn gyfreithlon i asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus i atal neu i gael hyd i dwyll budd-daliadau, troseddau eraill ac i ddiogelu arian cyhoeddus. 

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi i’ch helpu i fanteisio ar ein gwasanaethau, i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon neu i’n helpu i adennill arian sy’n ddyledus i ni.

Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data

Pam mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair arna’ i?

Mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch chi i wneud yn siŵr bod eich cyfrif ar-lein yn ddiogel. Mae ‘Fy Nghyfrifon i’ yn cyfuno cyfeirnod a chyfrinair ar wahân, a byddwch yn gallu newid y ddau.  

Beth os byddaf yn anghofio fy nghyfrinair?

Dilynwch y ddolen o’r dudalen mewngofnodi a byddwn yn anfon neges i’ch cyfeiriad i’ch atgoffa.  

A all sesiwn ddod i ben ar ôl cyfnod penodol?

Am resymau diogelwch, daw pob sesiwn ‘Fy Nghyfrifon I’ i ben os bydd y tudalennau’n segur am 20 munud. Bydd angen i chi roi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair eto i fynd yn ôl i’ch cyfrif.    

Pryd alla’ i ddefnyddio’r system?

Mae’r system ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos.

Beth yw gwerth ardrethol fy eiddo?

Mae gan bob eiddo annomestig Werth Ardrethol a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Yn fras, mae Gwerth Ardrethol yn cynrychioli'r rhent blynyddol y gellid disgwyl i'r eiddo ei gyflawni ar y farchnad agored ar ddyddiad y prisiad.

Mae'r gwerthoedd ardrethol cyfredol ar gyfer pob eiddo yn seiliedig ar brisiau rhent masnachol mis Ebrill 2021 a gellir eu cyrchu yn Rhestr Ardrethu 2023 sy’n rhestru pob eiddo busnes, cyfeiriad llawn, disgrifiad a gwerth ardrethol.

Gallwch gael mynediad at VOA Rating List (ffenestr newydd) i ganfod Gwerth Ardrethol cyfredol eich eiddo.

Gallwch gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gov.uk/cysylltu-voa

Sut allaf apelio yn erbyn fy ngwerth ardrethol?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio pob eiddo busnes ar gyfer ardrethi busnes. Mae’r prisiad yn seiliedig ar wybodaeth sydd gan y VOA am eich eiddo. Gallwch weld a diweddaru’r wybodaeth hon yn gov.uk/voa/valuation.

Gallwch gysylltu â’r VOA yn gov.uk/cysylltu-voa

Cyflogi Syrfëwr Ardrethi

Os ydych yn ystyried gwneud cais i newid eich gwerth trethadwy efallai y byddwch am gysylltu ag ymgynghorydd ardrethi.  Mae aelodau o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (ffenestr newydd) (RICS) a’r Sefydliad Refeniw a Phrisio (IRRV) yn cael eu rheoleiddio gan reolau ymddygiad proffesiynol er mwyn diogelu’r cyhoedd rhag camymddygiad.  Gallwch weld manylion y sefydliadau hyn a’u haelodau ar eu gwefannau.

Cyn cyflogi ymgynghorydd ardrethi, yn arbennig un sydd heb ymaelodi ag un o’r cyrff hyn, dylech sicrhau fod ganddo/ganddi wybodaeth ac arbenigaeth angenrheidiol, yn ogystal ag yswiriant indemniad priodol.

Dylech fod yn wyliadwrus o honiadau ffug neu gamarweiniol

Byddwch yn ofalus cyn arwyddo unrhyw gontract ac, os oes angen, gofynnwch am gyngor cyn gwneud.  Cofiwch na all unrhyw un warantu gostyngiadau mewn gwerthoedd trethadwy, waeth pa mor ddarbwyllol ydynt.  Mae’r rhain bob amser yn amodol ar gytundeb Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu benderfyniadau Tribiwnlys Prisio neu uchel lys.

Os byddaf yn apelio yn erbyn fy ngwerth ardrethol, a fyddaf yn gorfod talu beth bynnag?

Byddwch.  Mae'r ardrethi'n daladwy ar sail y gwerth ardrethol a ddangosir yn y Rhestr Ardrethi gyfredol ac os na fyddwch yn talu'r swm a ddangosir ar eich bil, cymerir camau i adfer tâl, hyd yn oed os ydych yn aros i gael canlyniadau apêl.  Os bydd eich apêl yn llwyddianus a bod eich ardrethi'n gostwng, fel arfer mae llog yn daladwy ar unrhyw ordaliadau, cyn belled a nad oes unrhyw gamau adfer pellach wedi'u cymryd.

Lleihau Ardrethi Busnes

Manwerthu, Hamdden a rhyddhad ardrethi lletygarwch

Mae gostyngiad y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer busnesau cymwys yng Nghymru ar gyfer 2024-25 wedi’i osod ar 40%, wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru.

Mae hyn yn ychwanegol at y cynlluniau rhyddhad ardrethi busnesau bach sy'n bodoli eisoes.

I wneud cais am ryddhad manwerthu, cliciwch yma

I gael rhagor o fanylion ac i weld a allech fod yn gymwys, cliciwch yma

I gael rhagor o gymorth a chyngor i fusnesau, www.businesscymru.gov.wales

Gostyngiadau Busnesau Bach

Bydd eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ryddhad a bydd eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad o rhwng 100% a dim.

Gwerth ardrethol% y rhyddhad
0 - 6000   100
7000   83.4
8000   66.6
9000   50
10,000   33.3
11,000   16.6
12,000   Dim

 

Darparwyr Gofal Plant Cofrestredig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd darparwyr gofal plant yn derbyn lefel uwch o ryddhad ardrethi o dan Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach Cymru.

Bydd pob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100%.

Mae'r lefel uwch o ryddhad ardrethi wedi'i gynllunio i helpu'r sector i gyflawni'r cynnig gofal plant yng Nghymru o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant, gan helpu rhieni i blant rhwng tair a phedair oed sy'n gweithio i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth; cefnogi lles economaidd a thwf tymor hir.

Swyddfeydd Post

Mae busnesau sy'n gweithredu fel Swyddfeydd Post ac yn meddiannu eiddo gyda gwerth ardrethol o £9,000 neu lai yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100% ac mae’r rheiny sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad o 50%.

Ardrethi Busnes Bach ar gyfer busnesau lluosog

Pan fo trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig leol (“rhestr leol”), a’r eiddo hynny ond yn destun yr amodau gwerth ardrethol, bydd y trethdalwr yn derbyn rhyddhad ar gyfer dau eiddo o’r fath yn unig.

Dan Erthygl 4 y rheoliadau, pan fo trethdalwr yn atebol am ardrethi busnes mwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig leol ardal cyngor, sy’n destun yr amodau gwerth ardrethol, mae’n rhaid i’r trethdalwr roi gwybod am yr eiddo i’r Cyngor cyn gynted â phosibl.

Cyfrifoldeb y trethdalwr yw rhoi gwybod i’r Cyngor ei fod yn derbyn mwy na dau Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach mewn perthynas ag eiddo y mae’n atebol am dalu ardrethi busnes ar eu cyfer. Os yw’ch amgylchiadau yn newid dylech roi gwybod i’r Cyngor. - local.taxation@flintshire.gov.uk

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Gwelliannau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhyddhad newydd o 1 Ebrill 2024 i gefnogi trethdalwyr i fuddsoddi mewn gwelliannau i’w heiddo annomestig,   drwy roi rhyddhad rhag yr effaith y byddai cynnydd mewn gwerth ardrethol o ganlyniad i'r gwelliannau hynny yn ei chael ar eu rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig am gyfnod o 12 mis.
Mae rhagor o fanylion ar gael yma 


Gostyngiad Gorfodol neu Ddewisol ar y Dreth

Gall Elusennau Cofrestredig a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol wneud cais am Ostyngiad Gorfodol o 80% os yw’r safle y mae’r elusen neu’r clwb yn ei ddefnyddio yn cael ei ddefnyddio'n bennaf neu yn llwyr i bwrpasau elusennol.

Sefydliadau sydd fel arfer yn gymwys am Ostyngiad Gorfodol ar y Dreth yw:

  • Elusennau sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau o dan adran 3 y Ddeddf Elusennau 1983, gan gynnwys y rhai sydd wedi eu heithrio rhag cofrestru
  • Siopau elusennol, cyn belled â bod y safle yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ac yn llwyr ar gyfer gwerthu nwyddau sydd wedi eu rhoi a lle mae enillion y gwerthiant yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr elusen yn unig.
  • Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol sydd wedi cofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Mewn achosion lle mae talwyr y dreth yn Elusennau cofrestredig neu wedi cofrestru fel Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol ac yn derbyn Gostyngiad Gorfodol ar y Dreth o 80%, bydd y Cyngor fel arfer yn rhoi hyd at 20% o ostyngiad Dewisol ychwanegol i’r sefydliadau hynny ar safleoedd bach gyda gwerth trethiannol o £6,000 neu lai. Ni fydd sefydliadau sy’n defnyddio safleoedd gyda gwerth trethiannol o £6,001 neu uwch fel arfer yn cael eu hystyried ar gyfer gostyngiad dewisol ychwanegol.

Mewn achosion lle nad yw sefydliadau gwirfoddol, a sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw, wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau neu wedi cofrestru fel Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol, yna gall y Cyngor roi Gostyngiad Dewisol ar y Dreth ar lefel hyd at 100% i’r sefydliadau hynny sy’n defnyddio safleoedd bach gyda gwerth trethiannol o £6,000 neu lai. Bydd sefydliadau sy’n defnyddio safleoedd gyda gwerth trethiannol o £6,001 neu uwch fel arfer yn cael Gostyngiad Dewisol ar y Dreth ar lefel nad yw'n uwch na 80%.

Mae gwybodaeth bellach am y fframwaith sydd wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor ar gyfer Gostyngiad Gorfodol a/neu Ddewisol ar y Dreth wedi ei gynnwys yn fframwaith y polisi.

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais ar gyfer gostyngiadau Gorfodol a/neu Ddewisol.

Rhyddhad Caledi

Gall y Cyngor ystyried ceisiadau am Ryddhad Caledi lle na all Busnes gyflawni'r ymrwymiad Cyfraddau Busnes neu pe bai talu'r bil yn achosi i'r busnes gau. Rhaid i'r Cyngor ystyried a yw er budd y cyhoedd i dalwyr Treth Gyngor eraill ddyfarnu'r rhyddhad, a byddai angen tystiolaeth o'r canlynol:

  • Gall y trethdalwr fodloni'r Cyngor nad yw'n gallu bodloni ei atebolrwydd Cyfraddau Busnes llawn neu ran o'i atebolrwydd.
  • Gall y trethdalwr ddangos bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i fodloni ei atebolrwydd Cyfraddau Busnes llawn.
  • Gall y trethdalwr brofi nad yw ei amgylchiadau presennol yn debygol o wella yn ystod y 12 mis canlynol, gan ei gwneud yn amhosibl talu'r Cyfraddau Busnes.
  • Nid oes gan y trethdalwr fynediad at asedau y gellid eu gwireddu a'u defnyddio i dalu'r Cyfraddau Busnes.
  • Byddai cau’r busnes yn golled sylweddol i’r gymuned lle y’i lleolir.

Am ragor o wybodaeth, ac i wirio a ydych chi’n gymwys, cliciwch yma

Manylion Ddileu Treth Annomestig o Dan Adran 49

Rhyddhad Galwedigaeth Rhannol

Gall unrhyw fusnes wneud cais am Ryddhad Galwedigaeth Rhannol lle mae’n ymddangos i’r awdurdod bod rhan o eiddo yn wag am ‘gyfnod byr o amser’.

Wrth arfer disgresiwn rhaid i'r Cyngor ystyried y rheol gyffredinol y bernir bod unigolyn sy'n meddiannu rhan o eiddo yn meddiannu'r eiddo i gyd.

Am nad yw rhan o eiddo yn cael ei defnyddio, ni fwriedir ei dynnu allan o gyfradd.

Fodd bynnag, lle mae anawsterau ymarferol wrth feddiannu neu adael eiddo mewn un gweithrediad, neu pan fydd adeilad neu safle gweithgynhyrchu yn wag dros dro, gallai fod yn rhesymol dyfarnu rhyddhad ardrethi.

Mae Rhyddhad Galwedigaeth Rhannol bellach wedi'i gyfyngu i 3 mis i'r mwyafrif o fusnesau a 6 mis ar gyfer eiddo diwydiannol.

I wneud cais, anfonwch e-bost local.taxation@flintshire.gov.uk yn manylu ar y rhesymau pam nad yw’r rhan o’r safle’n cael ei defnyddio a hefyd yn cynnwys cynllun wrth raddfa o’r fangre yn nodi’r rhan wag.

Cymorth Pontio

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth pontio i holl dalwyr ardrethi sydd ag atebolrwydd sy’n cynyddu fwy na £300, o ganlyniad i ailbrisio.

Bydd unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd ardrethi annomestig o ganlyniad i ailbrisio yn cael ei wneud fesul cam dros ddwy flynedd. Bydd talwr ardrethi yn talu 33% o’u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd eu hatebolrwydd cyflawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26)

Bydd Cymorth Pontio yn cael ei dyfarnu a’i roi yn awtomatig i’ch bil ardrethi annomestig os yw eich busnes yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Mae manylion llawn Cynllun Rhyddhad Trosiannol yng Nghymru ar gael yma.

Ad-daliad Credyd

Os ydych chi wedi derbyn bil yn dangos credyd ar eich cyfrif Adrethi Busnes, gallwch hawlio'r credyd hwn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Cliciwch Yma I Hawlio eich Ad-daliad o Adrethi busnes

Faint a godir ar eiddo gwag?

Os yw’ch eiddo wedi’i eithrio eisoes am y cyfnod o dri mis (eiddo heb fod yn eiddo diwydiannol) neu chwe mis (eiddo diwydiannol) ac os yw’r gwerth ardrethol yn  £2,600 neu ragor, bydd yn rhaid i chi dalu Ardrethi Busnes yn ôl y gyfradd lawn os yw’r eiddo’n dal yn wag a heb ei feddiannu.

Ni fydd unrhyw eiddo sydd wedi cael eithriad am fod yn wag yn gymwys am y dyfarniad eto nes bydd yr eiddo wedi bod yn llawn yn barhaus am o leiaf 6 mis. 

Nid ydym yn codi ardrethi eiddo gwag ar eiddo yn yr achosion canlynol:

• Os yw'r eiddo wedi bod yn wag am lai na tri mis neu chwe mis yn achos ffatrïoedd a warysau.

• Eiddo sydd â gwerth ardrethol o lai na £2,600.  

• Os yw'r perchennog yn cael hawl i feddiannu'r eiddo fel cynrychiolydd personol rhywun sydd wedi marw yn unig.

• Os yw'r perchennog yn ddiddymwr neu'n ymddiriedolwr o dan gweithred gymodi neu os yw'r perchennog wedi derbyn gorchymyn methdalu, neu os yw'r cwmni wedi derbyn gorchymyn dirwyn i ben neu orchymyn gweinyddu.

• Os yw'r eiddo yn adeilad rhestredig neu os yw'n destun gorchymyn gwarchod adeilad neu os yw wedi'i restru fel heneb.

• Os yw'r eiddo yn cael ei adael yn wag oherwydd camau gweithredu a gymerir ar ran y Goron neu unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn gwahardd neu gaffael meddianaeth.

• Os gwaherddir meddianaeth gan y gyfraith.

• Eiddo gwag sy'n perthyn i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol ac sy'n debygol o gael eu defnyddio ganddynt nesaf.

Sut i wneud cais

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys am un o'r eithriadau eiddo gwag uchod, cysylltwch â'r Tîm Ardrethi Busnes:
local.taxation@flintshire.gov.uk

Ffioedd Asiantau Gorfodaeth

Gall y Cyngor gyfarwyddo Asiant Gorfodaeth i gasglu dyled Ardrethi Busnes sydd heb ei thalu gennych chi os bydd gorchymyn dyled wedi'i gyflwyno yn eich enw chi.

Byddwn yn gwneud hynny os nad ydych wedi paratoi cynllun ad-dalu, neu os nad ydych wedi cadw ato, neu os nad ydych wedi llenwi ac anfon yn ôl y ffurflen wybodaeth bersonol a anfonwyd atoch chi.

Bydd yr Asiant Gorfodaeth yn cysylltu â chi i drefnu i chi dalu’r ddyled, yn llawn neu bob yn dipyn.  Mae’n rhaid i chi ateb ei lythyrau, ebostiau a galwadau ffôn a threfnu i dalu.

 Os yw eich dyled wedi’i hanfon at Asiant Gorfodaeth bydd yn rhaid i chi dalu ffi benodol o £75 am bob gorchymyn dyled pan gewch chi lythyr gan yr Asiant drwy'r post.

Ar ôl hynny, bydd yn rhaid talu, neu gynnig talu, i’r Asiant Gorfodaeth.  

Ymweliad Gorfodaeth

Os na fyddwch yn trefnu i dalu’r Asiant Gorfodaeth, neu drefnu i dalu ac yna’n peidio â thalu, bydd yr Asiant yn ymweld â chi.  Os bydd yn ymweld, mae yna ffi sefydlog o £235 a 7.5% o unrhyw falans sy’n ddyledus dros £1500.

Fel arfer bydd yr Asiant Gorfodaeth yn gofyn i chi dalu’r ddyled yn llawn. Ond os na allwch wneud hynny, bydd yr Asiant fel arfer yn gwneud trefniadau i chi ad-dalu.  Gall yr Asiant Gorfodaeth wneud Cytundeb Nwyddau a Reolir, sy’n golygu y bydd yr Asiant yn paratoi rhestr o'r eiddo y mae eu gwerth yn cyfateb i'ch ddyled.

Os yw eich eiddo yn rhan o Gytundeb Nwyddau a Reolir chewch chi mo’u gwaredu na'u gwerthu heb ganiatâd yr Asiant Gorfodaeth.

Os na fyddwch yn llofnodi’r Cytundeb Nwyddau a Reolir, gall yr Asiant Gorfodaeth gymryd eich eiddo pan fydd yn eich cartref.  Mae yna gostau ychwanegol o £110 a 7.5% o unrhyw falans sy’n ddyledus dros £1500 os bydd eich eiddo’n cael ei symud a’i werthu.

Os na fyddwch yn talu yn ôl y cytundeb a’ch bod wedi llofnodi Cytundeb Nwyddau a Reolir, gall yr Asiant Gorfodaeth fynd i mewn i'ch cartref, drwy dorri i mewn os bydd raid, i gymryd yr eiddo a restrwyd.

Os yw’r Asiant Gorfodaeth o’r farn nad oes yna ddigon o eiddo i glirio’r ddyled, byddwn yn ystyried dulliau eraill o adfer y ddyled, megis ansolfedd.

Cyhoeddiadau ac Ystadegau Cenedlaethol

Mae’r adran hon yn cynnwys dolenni i gyhoeddiadau o ffigurau mewn perthynas â gweinyddu a chasglu Ardrethi Busnes. Cliciwch ar unrhyw eitem am fwy o fanylion.

Gwybodaeth am swm ardrethi annomestig sy'n ddyledus ac y rhyddhadau a gymhwyswyd Ebrill 2022 i Fawrth 2023.  

Casglu ardrethu annomestig drwyddi draw Cymru

Manylion Cyswllt

Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol: 

Trwy e-bost 

Anfonwch e-bost at trethiant.lleol@siryfflint.gov.uk  

Trwy ffonio 

Gallwch ein ffonio rhwng 8.30am - 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ein rhif ffôn yw 01352 704848

Yn bersonol 

Croeso i chi ymweld ag un o'n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle, Y Fflint, Cei Connah neu Dreffynnon.

I gael gwybodaeth o ran oriau agor a chyfeiriadau, dilynwch y ddolen

Sir y Fflint yn Cysylltu

Hysbysiad preifatrwydd

Beth yw dibenion prosesu eich gwybodaeth bersonol a phwy sy’n ei phrosesu?
Bydd eich data’n cael ei brosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol bilio, casglu ac adennill Ardrethi Annomestig ar ran Llywodraeth Cymru dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a’r holl reoliadau perthnasol eraill sy’n gysylltiedig ag asesu Ardrethi Annomestig.

Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu?
• Manylion am eich busnes, megis eich enw chi, enw’r busnes, cyfeiriad, manylion banc ac amgylchiadau’r busnes. 
• Rhifau cyswllt a chyfeiriadau e-bost.

Sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio?
Bydd y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn y ffurflen hon, ac unrhyw dystiolaeth ategol rydych chi’n ei darparu, yn cael eu defnyddio i asesu eich atebolrwydd i dalu Ardrethi Annomestig, gan gynnwys unrhyw ryddhad neu eithriad y mae gennych hawl iddynt.

Gyda phwy allwn ni rannu eich gwybodaeth?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, i wella safon y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, a chyflawni unrhyw rai o’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys dyletswyddau gorfodi.

Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw er mwyn:
• sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
• atal neu ganfod troseddau
• asesu neu gasglu unrhyw dreth neu dollau neu unrhyw ardrethiad o natur debyg 
• diogelu arian cyhoeddus.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich cofnodion?
Byddwn yn cadw eich data drwy gydol y cyfnod rydych yn rhwymedig i dalu Ardrethi Annomestig ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i'ch rhwymedigaeth i dalu Ardrethi Annomestig ddod i ben.

Newidiadau i’ch amgylchiadau 
Mae dyletswydd arnoch i roi gwybod i’r tîm Treth y Cyngor yng Nghyngor Sir y Fflint am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau.  E-bost: local.taxation@flintshire.gov.uk

Manylion Cyswllt y Rheolwr DataTîm Llywodraethu GwybodaethLlywodraethu 
Cyngor Sir y Fflint 
Neuadd y Sir 
Yr Wyddgrug 
Sir y Fflint 
CH7 6NR 
E-bost: dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
 
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx

Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan https://ico.org.uk neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.