Iechyd a Diogelwch – beth sydd angen i chi ei wneud
Diben iechyd a diogelwch yw atal pobl rhag cael eu hanafu gan waith neu rhag fynd yn sâl drwy waith.
Yn gyffredinol, mae cyfreithiau iechyd a diogelwch yn berthnasol i bob busnes, ni waeth pa mor fach. Fel cyflogwr, neu unigolyn hunangyflogedig, chi sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich busnes. Mae angen ichi gymryd y rhagofalon cywir i reoli risg peryglon y gweithle i chi eich hunan, gweithwyr ac unrhyw un arall perthnasol ac i ddarparu amgylchedd gwaith saff.
Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn cwmpasu gweithwyr, boed yn rhan amser neu’n llawn amser; pobl ifanc ar brofiad gwaith; prentisiaethau; gweithwyr elusen; gweithwyr symudol a rhai sy’n gweithio o adref. Os ydych chi’n hurio gweithwyr dros dro neu hamddenol gan asiantaethau, rydych chi’n gyfrifol amdanynt hwythau hefyd.
Mae angen i chi:
- Penderfynu pwy a fydd yn eich helpu gyda’ch dyletswyddau
- Ysgrifennu polisi iechyd a diogelwch ar gyfer eich busnes (os oes gennych fwy na 5 gweithiwr)
- Rheoli’r risgiau yn eich busnes
- Ymgynghori â gweithwyr
- Darparu hyfforddiant a gwybodaeth
- Darparu’r cyfleusterau iawn yn y gweithle
- Gwneud trefniadau ar gyfer cymorth cyntaf, damweiniau a salwch
- Arddangos y poster cyfraith iechyd a diogelwch
- Cael yswiriant ar gyfer eich busnes
- Cadw eich busnes yn gyfredol
Lle da iawn i ddechrau edrych am ragor o wybodaeth yw gwefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch www.hse.gov.uk (ffenestr newydd).
Ymgynghorwyr
Os byddwch yn penderfynu defnyddio ymgynghorydd iechyd a diogelwch, sicrhewch eu bod wedi cofrestru (ffenestr newydd). Nid yw defnyddio ymgynghorydd yn eich esgusodi rhag bod yn gyfrifol am reoli iechyd a diogelwch, felly mae’n bwysig bod y cyngor a gewch chi gan ymgynghorydd yn synhwyrol ac yn gymesur.
Cysylltwch â ni
Adran Iechyd a Gorfodi, Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Sir Y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, CH7 6NF
Ffôn 01352 703381
Ffacs 01352 703441
health.safety@flintshire.gov.uk