Tyllu'r croen
Trwydded Triniaethau Arbennig (Ymarferwyr) a Chymeradwyaeth Triniaethau Arbennig ar gyfer Eiddo (Eiddo Busnes neu Gerbyd)
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017
Mae Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 a Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024 bellach mewn grym.
Yn unol â’r gyfraith, mae’n rhaid i ymarferwyr triniaethau arbennig h.y. y rheiny sy’n gwneud triniaethau aciwbigo (yn cynnwys defnyddio nodwyddau sych), electrolysis, tyllu’r croen (yn cynnwys tyllu’r clustiau neu’r corff) neu datŵio (yn cynnwys colur lled-barhaol), ddal trwydded ddilys i weithredu. Hefyd, mae’n rhaid i bob eiddo a cherbyd busnes lle gwneir triniaethau arbennig ynddynt gael Tystysgrif Gymeradwyo.
Os ydych chi a/neu’ch eiddo busnes wedi cofrestru â Chyngor Sir y Fflint dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ar gyfer tyllu’r croen (aciwbigo, electrolysis, tyllu’r croen neu datŵio), gallwch fanteisio ar y trefniant dros dro fel yr amlinellir yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a’r gorchymyn perthnasol. Mae hyn yn eich caniatáu chi i barhau i weithio gyda thrwydded dros dro a gyhoeddir gan Gyngor Sir y Fflint am hyd at dri mis o’r dyddiad y daw’r cynllun trwyddedu newydd i rym h.y. 28 Chwefror 2025.
O fewn y tri mis a roddir i chi dan y drwydded dros dro, mae’n rhaid i chi gyflwyno cais dan y cynllun trwyddedu newydd.
Os nad ydych chi wedi cael trwydded dros dro yn y post fel gweithredwr a/neu fel eiddo busnes, cysylltwch â thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ar unwaith.
E-bostiwch health.safety@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 703440
Gwneud cais am Drwydded Triniaeth Arbennig a/neu Dystysgrif Cymeradwyo Eiddo
Cyn i chi ddechrau gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig fel ymarferwr neu gymeradwyaeth ar gyfer eich eiddo busnes neu’ch cerbyd, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych chi a’ch bod chi’n gallu cyflwyno tystiolaeth o’r dogfennau canlynol.
Ar gyfer Trwydded Triniaeth Arbennig (trwydded ymarferwr) a Thystysgrif Gymeradwyo eiddo/cerbyd busnes, mae’n rhaid i chi ddarparu’r dogfennau canlynol neu gopi dilys o’r dogfennau canlynol (mae’n rhaid i’r dogfennau gwreiddiol fod ar gael i’w harchwilio yn ystod ymweliad y swyddog) a’r ffi –
- 1. Dogfen hunaniaeth i brofi’ch enw llawn a’ch dyddiad geni (mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn). Dogfennau derbyniol:
- a. Pasbort neu drwydded yrru ddilys.
- b. Cerdyn ID gyda llun: trwydded preswylio biometrig, cerdyn ID Lluoedd Arfog EF, Cerdyn ID gwladolyn AEE; Cerdyn Pasbort Gwyddelig, Visa neu drwydded waith.7
- c. Dyfarniad lefel 2 rheoledig mewn Atal a Rheoli Haint ar gyfer Triniaethau Arbennig (dyfarniad a gaiff ei reoleiddio gan Gymwysterau Cymru).
- 2. Llun lliw diweddar o’r ymgeisydd
- 3. Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol dilys (wedi’i chael o fewn 3 mis i’r dyddiad ymgeisio): LLYW - Cais am Gofnod Troseddol
- 4. Ffi gwneud cais am Drwydded Triniaeth Arbennig (ar gyfer ymarferwyr unigol) o £159
- 1. Dogfen hunaniaeth i brofi enw llawn a dyddiad geni (mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn). Dogfennau derbyniol:
- a. Pasbort neu drwydded yrru ddilys.
- b. Cerdyn ID gyda llun: trwydded preswylio biometrig, cerdyn ID Lluoedd Arfog EF, Cerdyn ID gwladolyn AEE; Cerdyn Pasbort Gwyddelig, Visa neu drwydded waith.
- 2. Dyfarniad lefel 2 rheoledig mewn Atal a Rheoli Haint ar gyfer Triniaethau Arbennig (dyfarniad a gaiff ei reoleiddio gan Gymwysterau Cymru).
- 3. Llun lliw diweddar ohonoch
- 4. Cynlluniau o’r eiddo neu’r cerbyd
- 5. Llun lliw diweddar o’r cerbyd
- 6. Ffi gwneud cais am Dystysgrif Cymeradwyo Eiddo o £244
Ffioedd
Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys y ffi ymgeisio briodol – ni fydd ceisiadau’n cael eu hystyried heb daliad. Dyma’r ffioedd:
Dylid talu’r ffi wrth ymgeisio
- £159 i wneud cais am Drwydded Triniaeth Arbennig (ar gyfer ymarferwyr unigol)
- £244 i wneud cais am Dystysgrif Cymeradwyo Eiddo
Yn dilyn cais ac asesiad llwyddiannus i wirio eich bod chi’n cwrdd ag amodau’r Rheoliadau, byddwch yn gorfod talu ffi cydymffurfio.
Dylid talu’r ffi cydymffurfio wrth gael y Drwydded neu’r Dystysgrif Gymeradwyo
- Ffi i’w thalu wrth gael Trwydded Triniaeth Arbennig £44
- Ffi i’w thalu wrth gael Tystysgrif Cymeradwyo Eiddo £141
Yn fras, cyfanswm y ffioedd i’w talu cyn cyhoeddi’r drwydded neu’r dystysgrif gymeradwyo (ffi ymgeisio + ffi cydymffurfio = cyfanswm y ffi) yw:
- £203 ar gyfer Trwydded Triniaeth Arbennig (Ymarferwyr)
- £385 ar gyfer Tystysgrif Cymeradwyo Eiddo
Llenwi Ffurflen Gais
Mae dwy ffordd y gallwch chi lenwi ein ffurflen gais:
- Yn electronig ar-lein drwy greu ‘Fy Nghyfrif’ (os nad oes gennych chi un yn barod), a dilyn y ddolen https://publicprotection.agileapplications.co.uk/flintshire - ‘Gwneud cais am Dystysgrif Eiddo Triniaeth Arbennig Cymeradwy’
- Ar bapur gan bostio neu e-bostio’r ffurflen. Gallwch gael copi papur o’r ffurflen drwy ffonio 01352 703440 neu e-bostio PPAdmin@flintshire.gov.uk.
Dulliau talu:
- Ar-lein (Dewis y math o daliad ar gyfer ‘Triniaethau Arbennig’)
- Dros y ffôn ar 01352 703440
- Wyneb yn wyneb drwy apwyntiad yn Nhŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo CH5 3FF
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn ar gael yn y Nodiadau Canllaw (Adeiladau ac Ymarferydd) a geir gyda’r ffurflen gais.
Mae trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo yn ddilys am dair blynedd; wedi hynny bydd yn rhaid i chi eu hadnewyddu drwy wneud cais am hynny.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi ynglŷn â’r mater hwn, e-bostiwch health.safety@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 703440.
Mae’r Rheoliadau newydd i’w gweld yma:
Gellir gweld Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 trosfwaol ar wefan Deddfwriaeth LLYW yma.
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at y diben penodol o asesu eich cais am drwydded triniaethau arbennig. Mae angen prosesu eich data personol at ddibenion Rhan 4 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er lles y cyhoedd hefyd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd wedi’i roi i’r rheolydd.
Caiff eich gwybodaeth ei chadw am gyhyd ag y byddwch chi’n ddeiliad Trwydded/Tystysgrif Cymeradwyo ar gyfer tyllu’r croen yn Sir y Fflint, a 12 mis.
Mae’n bosibl y byddwn ni’n rhannu gwybodaeth â’r gwasanaethau brys gan gynnwys yr Heddlu, Awdurdodau Trwyddedu eraill a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mae mwy o fanylion ynglŷn â’ch hawliau unigol a sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu gwybodaeth bersonol ar gael ar ein gwefan.
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd y mae Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio eich data, mae gennych chi hawl i gwyno. Mae manylion ein gweithdrefn Cwynion Diogelu Data ar gael yma.