Eiddo Masnachol
P’un ai ydych yn chwilio am eiddo diwydiannol neu fasnachol, uned i fusnes newydd, gofod swyddfa neu siop, gall Cyngor Sir y Fflint gynnig:
- Rhenti cystadleuol
- Cyfnodau di-rent*
- Tîm o weithwyr proffesiynol sy’n arbenigo mewn eiddo er mwyn eich cefnogi chi drwy’r broses ymgeisio a rheoli o ddydd i ddydd.
- Staff Canolfan Fusnes dynodedig
- Gofod swyddfa rhith ac o bell**
- Gofod cyfarfod a llogi ystafell**
- Cyfleusterau ystafell gynadledda**
Wedi’u lleoli ar draws Sir y Fflint, yn agos at gysylltiadau ffordd a rheilffordd, efallai y bydd ein heiddo masnachol i’r dim i chi.
GWEITHDAI BYCHAIN
Cyfeirir at yr unedau hyn fel unedau â chytundebau ‘a ellir mynd i mewn iddynt a dod allan ohonynt yn hawdd’ ac maent yn cael eu gosod ar Gytundeb Tenantiaeth Safonol sydd yn cynnig y fantais o gyfnod terfynu byr (3 mis) i denantiaid.
Mae’n bosibl bod unedau gweithdy bach ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Wedi’u lleoli ar ystâd ddiwydiannol sefydledig hanner ffordd rhwng Bwcle a’r A494, mae gweithdai Pinfold mewn lleoliad delfrydol er mwyn cyrraedd Gwibffordd yr A55 yn hawdd ac yn gyflym.
Mae’r unedau i gyd yn hunangynhwysol gyda chyfleusterau toiled eu hunain ac, ar wahân i’r uned leiaf, mae pob un yn cynnwys mynedfa i gerbydau.
Mae’r ystâd yn cynnwys cyflenwad trydan tri cham. Mae pob ymgeisydd yn gyfrifol am wirio bod y cyflenwad trydan i’r uned y mae’n ei ffafrio yn ddigonol i ddiwallu anghenion ei fusnes.
Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu caniatáu: Ni chaniateir gwneud atgyweiriadau i geir ar yr ystâd hon.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd
Wedi’u lleoli ar ystâd ddiwydiannol sefydledig, mae’r unedau hyn yn agos at Bont Sir y Fflint a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Mae’r unedau hyn yn addas er dibenion diwydiannol a storio yn amodol ar gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol.
Yn daladwy: Rhent (yn cynnwys tâl gwasanaeth), cyfraddau, trydan (mesuryddion ategol), blaendal a ffioedd.
Dyma ystâd ddeniadol, sefydledig, sydd wedi’i lleoli’n gyfleus o fewn cyrraedd yr A55 a’r A548 yn gwasanaethu ardaloedd Gogledd Cymru, Cilgwri a Chaer.
Mae’r gweithdai i gyd yn hunangynhwysol gyda chyfleusterau toiled ac mae pob un yn cynnwys mynedfa bersonol ac i gerbydau.
Mae rhai unedau yn cynnwys cyflenwad trydan tri cham. Mae pob ymgeisydd yn gyfrifol am wirio bod y cyflenwad trydan i’r uned y mae’n ei ffafrio yn ddigonol i ddiwallu anghenion ei fusnes.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.
Wedi’u lleoli mewn ardal breswyl yn bennaf, mae’r gweithdai hyn yn agos at brif ffordd Brychdyn i Gaer (A5104).
Bu’r adeilad hwn unwaith yn ysgol yn ystod Oes Fictoria ond erbyn heddiw mae’r adeilad unllawr, sydd wedi’i wneud o frics ac iddo do llechi, yn cynnwys chwech o unedau hunangynhwysol sy’n darparu gofod syml.
Er nad oes gan yr unedau unigol fynedfeydd i gerbydau’n uniongyrchol, mae maes parcio wedi'i amgáu ar gael ar hen fuarth yr ysgol.
Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu caniatáu: Ni chaniateir storio agored, er mae’n bosib y caniateir gosod cynwysyddion yn amodol ar gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol a chytundeb ymlaen llaw.
Yn daladwy: Rhent (yn cynnwys tâl gwasanaeth), cyfraddau, blaendal a ffioedd.
UNEDAU MASNACHOL MWY
Mae’r unedau masnachol mwy hyn, sydd ar brydles am gyfnodau hirach, ar gael i’w gosod am gyfnodau penodol, er enghraifft 2 flynedd, 5 mlynedd neu fwy). Ar delerau atgyweirio ac yswirio llawn, tenantiaid sydd yn gyfrifol am dalu’r ffioedd cyfreithiol rhesymol sydd yn gysylltiedig â’r paratoadau.
Mae unedau masnachol mwy ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Wedi’i lleoli ger canol tref Y Fflint, mae’r ystâd hon o 14 o unedau yn agos at ffyrdd ac yn hawdd i’w chyrraedd- i’r gorllewin i Gaergybi / Gogledd Cymru ac i’r dwyrain dros Bont Sir y Fflint at yr M56 a’r rhwydwaith traffordd i Fanceinion, Lerpwl a Chilgwri, yn ogystal â Gwibffordd Gogledd Cymru'r A55.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.
Wedi’i lleoli ger yr A548 Ffordd Treffynnon, mae ystâd ddiwydiannol Parc y Castell yn agos at ffyrdd ac yn hawdd i’w chyrraedd- i’r gorllewin i Gaergybi / Gogledd Cymru ac i’r dwyrain dros Bont Sir y Fflint at yr M56 a’r rhwydwaith traffordd i Fanceinion, Lerpwl a Chilgwri, yn ogystal â Gwibffordd Gogledd Cymru'r A55.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.
Mae’r Parc Busnes mewn lleoliad delfrydol gyda mynediad uniongyrchol at yr A550 – dechrau Gwibffordd Gogledd Cymru – mae’r unedau hefyd o fewn cyrraedd gweddill Cymru, Caer a Chilgwri, yn ogystal â’r rhwydwaith traffordd cenedlaethol, ar hyd yr M56 Manceinion a’r M53 Lerpwl.
Mae depo'r Post Brenhinol hefyd wedi’i leoli’n agos at y Parc sydd yn golygu ei fod yn lleoliad ardderchog ar gyfer dosbarthu.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.
Mae’r Ystâd Ddiwydiannol wedi’i lleoli ger Gorllewin Ffordd Caer (ffordd arfordir Gogledd Cymru) ger y gyffordd â Gwibffordd yr A55, mae’n rhan o ardal sy’n datblygu’n gyflym a sydd erbyn hyn yn cynnwys The Range, Pizza Hut, Lidl ac amrywiaeth o gwmnïau gwasanaeth diwydiannol. Mae’r ardal o fewn cyrraedd Cymru, Caer a Chilgwri, yn ogystal â’r rhwydwaith traffordd cenedlaethol, ar hyd yr M56 Manceinion, yr M53 Lerpwl a Chilgwri.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.
SIOPAU
Gall Sir y Fflint gynnig nifer o siopau ar brydles, o fewn neu ar gyrion 3 lleoliad trefol.
Mae yma res o siopau bychain wedi’u lleoli yng nghanol y dref ar dop Stryd yr Eglwys yn agos at fasnachwyr cenedlaethol megis Boots, Specsavers a Sayers a nifer o fasnachwyr annibynnol.
Mae gan y siopau system ffordd ‘un ffordd’ gyda digonedd o leoedd parcio o fewn pellter cerdded ac ar hyd Stryd Yr Eglwys.
Cynigir yr eiddo am isafswm o 2 flynedd a'r tenantiaid sydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith atgyweirio ac addurno i du mewn a blaen y siop. Y Landlord sydd yn gyfrifol am ofalu am y tu allan ac mae mannau cymunedol yn destun tâl gwasanaeth.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.
Wedi’u lleol ger blaengwrt i gerddwyr gyda lleoedd parcio cyhoeddus cyfagos, mae gan y siopau hyn ardal gymunedol i’r cefn a fflatiau ar wahân uwchben.
Cyfrifoldeb y tenantiaid yw gwneud atgyweiriadau mewnol ac addurno allanol a thalu tâl gwasanaeth er mwyn cyfrannu at waith cynnal a chadw’r prif adeilad a’r ardal o’i amgylch a’r premiwm yswiriant adeiladu blynyddol.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.
Mae’r siop a fflat, sydd wedi’u cyfuno a’u lleoli gyda rhes o siopau bychain sydd yn gwasanaethu’r gymuned breswyl leol, yn cael eu gosod ar brydles atgyweirio ac yswirio llawn ar gyfer eiddo masnachol am isafswm o 2 flynedd.
Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu caniatáu: NI chaniateir isosod y fflat.
Yn daladwy: Rhent, cyfraddau, treth y cyngor, blaendal a ffioedd.
CANOLFANNAU BUSNES SIR Y FFLINT
Mae Canolfannau Busnes Maes Glas a Glannau Dyfrdwy yn cynnwys swyddfeydd a gweithdai gwarchodol sy’n amrywio o ran maint o unedau bach i ofodau gwaith diwydiannol mawr. Mae’r Canolfannau wedi’u dylunio i annog pobl i ddechrau busnesau newydd, datblygu twf a chynaliadwyedd drwy gymorth cyfrinachol sydd wedi’i deilwra gan y Gwasanaeth Datblygu Busnes.
Rydym yn cynnig eiddo arloesol, di-drafferth gan ddarparu swyddfeydd bychain, gweithdai a swyddfeydd a wasanaethir yn llawn i’w gosod gyda thelerau hyblyg. Gellir terfynu contract drwy gyflwyno 1 mis o rybudd.
Gall Canolfannau Busnes Sir y Fflint gyfeirio at wasanaethau partner a Chyngor priodol eraill yn cynnwys y tîm Cymorth I Fusnesau.
Mae gwasanaethau a chyfleusterau eraill y Ganolfan Fusnes yn cynnwys:
- Gwasanaeth busnes ‘siop un alwad’
- Gofod swyddfa a gweithdy a reolir
- Telerau cytundeb a ellir mynd i mewn a dod allan ohonynt yn hawdd
- Gwasanaethau gweinyddol a derbynfa
- Amgylcheddau proffesiynol
- Cyfleusterau ystafell gynhadledd, hyfforddiant a chyfarfod, yn cynnwys WI-FI
- Cyfleusterau arlwyo ar y safle
- Digonedd o leoedd parcio gyda rhwydweithiau cludiant cyhoeddus gerllaw
Mae’r Ganolfan Fusnes yn darparu amrywiaeth ardderchog o ofodau swyddfa a gweithdai o feintiau amrywiol, sydd ar gael i’w gosod ar delerau hyblyg sy’n ei gwneud yn hawdd i chi ganfod y gofod delfrydol ar gyfer eich busnes. Rydym yn eich trin fel cwsmer, nid fel tenant.
Mae gan Ganolfan Fusnes Glannau Dyfrdwy amrywiaeth o ystafelloedd bach, canolig a mawr sy’n ddelfrydol ar gyfer cynnal cyfweliadau, sesiynau hyfforddiant neu gynadleddau gyda chyfleusterau arlwyo ar y safle a lleoedd parcio i ymwelwyr.
Ad-delir costau cyfleustodau mewn swyddfeydd yn seiliedig ar ddefnydd gwirioneddol, rhaid i weithdai drefnu â’u darparwr cyfleustodau.
Mae’r Ganolfan, sydd wedi’i lleoli ger Gorllewin Ffordd Caer (ffordd arfordir Gogledd Cymru) ger y gyffordd â Gwibffordd yr A55, yn rhan o ardal sy’n datblygu’n gyflym ac sydd erbyn hyn yn cynnwys The Range, Pizza Hut, Lidl ac amrywiaeth o gwmnïau gwasanaeth diwydiannol. Mae’r ardal o fewn cyrraedd Cymru, Caer a Chilgwri, yn ogystal â’r rhwydwaith priffyrdd cenedlaethol, ar hyd yr M56 Manceinion a’r M53 Lerpwl a Chilgwri.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfleustodau a blaendal.
Mae’r ganolfan yn darparu gofodau swyddfa a gweithdai o feintiau amrywiol gyda thelerau cytundeb a ellir mynd i mewn iddynt a dod allan ohonynt yn hawdd, sydd yn ddelfrydol ar gyfer busnesau newydd a phresennol.
Caiff y ganolfan ei rheoli gan dîm eiddo ar y safle sydd yn sicrhau y cynhelir amgylchedd proffesiynol i denantiaid ac ymwelwyr ar bob adeg.
Mae Canolfan Fusnes Maes Glas yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod, hyfforddiant a chynhadledd o feintiau gwahanol, sydd yn ddelfrydol ar gyfer cyfweliadau, sesiynau hyfforddiant, cyfarfodydd â chleientiaid ac ati. Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau arlwyo ar y safle a digonedd o leoedd parcio i ymwelwyr.
Mae’r swyddfeydd yn cynnwys cyfleustodau ac mae gweithdai yn cynnwys mesuryddion ategol a bydd cyfleustodau yn cael eu had-dalu yn ôl defnydd gwirioneddol.
Mae Canolfan Fusnes Maes Glas wedi’i lleoli’n strategol ger yr A548 prif ffordd Gogledd Cymru, 16 o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Gaer a gyda chysylltiad parod at yr A55. Mae Dociau Mostyn yn agos (3 milltir i ffwrdd) ac mae’r A548 hefyd yn cysylltu â Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy drwy ail Groesfan Dyfrdwy. Mae’r M56 a’r rhwydwaith traffordd cenedlaethol a meysydd awyr Lerpwl a Manceinion o fewn pellter gyrru hawdd.
Mae’r ganolfan wedi’i lleoli o fewn pellter cerdded i Abaty Dinas Basing a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ac nid yw ond taith fer yn y car i Ffynnon Santes Gwenffrewi a Thref Farchnad Treffynnon.
Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfleustodau (gweithdai yn unig) a blaendal.
CYSYLLTWCH Â NI
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am argaeledd presennol unrhyw un o’n hunedau masnachol, cysylltwch â ni:
Canolfannau Busnes
Cyffredinol: 01352 703041
Glannau Dyfrdwy: 01352 703060
Maes Glas: 01352 703055
Unedau Masnachol a Siopau
01352 703100
E-bost: ValuationandEstates@flintshire.gov.uk
*yn destun amodau mewn lleoliadau penodol
**Canolfannau Busnes Maes Glas a Glannau Dyfrdwy