Ynghylch trwyddedu
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am drwyddedu a monitro sawl math o weithgareddau busnes yn yr ardal. Mae'r gweithgareddau hyn yn amrywio o osod sgip adeiladwr ar briffordd i redeg sw.
Rydym yn cynnal gwiriadau ac archwiliadau yn rheolaidd yn ogystal ag archwilio adeiladau i sicrhau bod yr holl amodau sy'n gysylltiedig â'r drwydded neu'r cofrestriad yn cael eu cyflawni. Byddwn yn ymchwilio i gwynion gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig ag adeiladau sy'n gweithredu'n anghyfreithlon heb drwydded.
Defnyddiwch yr is-benawdau ar ochr chwith y dudalen hon i weld amrywiaeth o wybodaeth am drwyddedau a chofrestru.
Polisi Gorfodaeth
Mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint wedi cynhyrchu eu Polisi Gorfodaeth (PDF 110KB ffenestr newydd) diweddaraf sydd yn amlinellu eu hagwedd ar reoleiddio a gorfodaeth. Mae’r Polisi yn adlewyrchu’r canllawiau diweddaraf ac arferion da ynghylch rheoleiddio a gorfodaeth, ac fe’i mabwysiadwyd yn fras gan awdurdodau cyfagos yng ngogledd Cymru.
Cofrestr Drwyddedu
Mae Adrannau Trwyddedu Sir Y Fflint wedi rhoi cyrchiad uniongyrchol ar gael i geisiadau a thrwyddedau a roddir gan y cyngor drwy ei system Lalpac Enterprise. Gweld y gofrestr trwyddedu (ffenestr newydd)