Tystysgrif safle clwb
Crynodeb o’r drwydded
Mae’n rhaid i chi gael trwydded safle clwb gan eich awdurdod lleol i awdurdodi cyflenwi alcohol a darparu adloniant rheoledig mewn clwb cymwys. Mewn clwb cymwys, yn dechnegol nid yw alcohol yn cael ei adwerthu (ac eithrio i westeion) oherwydd bod yr aelodau yn berchen ar gyfran o’r stoc alcohol ac mae’r arian sy’n cael ei gyfnewid ar draws y bar yn fecanwaith i gadw cydraddoldeb rhwng aelodau lle gallai un yfed mwy na’r llall. Er mwyn cael eich cyfrif fel clwb cymwys mae’n rhaid bodloni’r gofynion amrywiol a nodir yn Neddf Trwyddedu 2003 hefyd.
Meini prawf cymhwysedd
Mae’n rhaid i’r clybiau fod yn clybiau cymwys. Mae’n rhaid i clwb cymwys fodloni amodau cyffredinol, sef:
- Ni chaiff unrhyw unigolyn dderbyn unrhyw freintiau aelodaeth fel ymgeisydd am aelodaeth neu fel aelod heb fwlch o ddeuddydd o leiaf rhwng cyflwyno cais am aelodaeth neu eu henwebu a chaniatáu aelodaeth
- Bod rheolau’r clwb yn datgan bod y rhai sy’n dod yn aelodau heb enwebiad na chais ymaelodi yn cael breintiau aelodaeth am o leiaf deuddydd rhwng dod yn aelod a chael mynediad i’r clwb
- Bod y clwb wedi’i sefydlu ac yn cael ei gynnal mewn ffydd
- Bod gan y clwb o leiaf 25 o aelodau
- Bod alcohol yn cael ei gyflenwi i aelodau ar y safle neu ar ran y clwb
Rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol o ran cyflenwi alcohol, sef:
- Bod alcohol a brynir ar gyfer ac a gyflenwir gan y clwb yn cael ei drin gan aelodau’r clwb sy’n 18 oed neu’n hŷn ac wedi eu hethol i wneud hynny gan yr aelodau
- Nad ydy unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig â’r clwb yn derbyn unrhyw gomisiwn, canran neu daliad arall tebyg yng nghyswllt prynu alcohol gan y clwb
- Nad oes unrhyw drefniadau i unrhyw dderbyn budd ariannol o ddarparu alcohol, ar wahân i unrhyw fudd i’r clwb neu i unrhyw unigolyn yn annuniongyrchol o gyflenwi sy’n rhoi budd i gynnal y clwb
Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus a chymdeithasau llesiant yn gymwys os ydy’r alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb a’i gyflenwi gan y clwb yn cael ei wneud dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o aelodau.
Gellir ystyried sefydliad lles glowyr perthnasol hefyd. Sefydliad perthnasol ydy un a reolir gan bwyllgor neu fwrdd sy’n cynnwys o leiaf dau draean o bobl wedi’u penodi neu eu dyrchafu gan un neu fwy o weithredwyr trwyddedig dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994, a chan un neu fwy o sefydliadau sy’n cynrychioli cyflogeion pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu’r bwrdd lle nad ydy’r bwrdd wedi’i lunio fel a nodir uchod ond yn cynnwys o leiaf dau draean o aelodau a oedd yn cael eu cyflogi neu sy’n gyflogedig mewn ac o gwmpas pyllau glo a hefyd gan bobl a benodwyd i’r Sefydliad Lles Diwydiant Glo neu gan gorff â swyddogaethau tebyg dan Ddeddf Lles Glowyr 1952. Mewn unrhyw achos rhaid i safle’r sefydliad gael ei ddal mewn ymddiriedolaeth fel sy’n ofynnol dan y Ddeddf Elusennau Hamdden 1958.
Crynodeb o’r rheoliadau
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Trwyddedau mangre a thystysgrifau safle clwb) 2005)
Proses gwerthuso cais
Gall clwb wneud cais am dystysgrif safle clwb ar gyfer unrhyw fangre a ddefnyddir yn rheolaidd at ddibenion clwb.
Dylid cyflwyno cais i’r awdurdod trwyddedu lleol, sef yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal y lleolir y fangre.
Dylid cyflwyno cynllun o’r clwb, mewn fformat penodol, ynghyd â chopi o reolau’r clwb ac amserlen gweithredu’r clwb â’r cais.
Rhaid i ddogfen amserlen gweithredu’r clwb fod mewn fformat penodol, yn cynnwys gwybodaeth ynghylch:
- Gweithgareddau’r clwb
- Amseroedd cynnal y gweithgareddau
- Amseroedd agor eraill
- A ydy’r cyflenwad alcohol i’w yfed ar neu oddi ar y fangre neu’r ddau, a’r camau arfaethedig mae’r clwb yn bwriadu eu defnyddio i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
- Unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol
Os oes unrhyw newidiadau i enw neu reolau’r clwb cyn penderfynu ar y cais neu ar ôl cyflwyno tystysgrif, rhaid i ysgrifennydd y clwb gyflwyno’r manylion i’r awdurdod trwyddedu lleol. Os oes tystysgrif yn bodoli rhaid ei hanfon i’r awdurdod trwyddedu pan gaiff ei hysbysu.
Os oes tystysgrif yn bodoli a bod cyfeiriad cofrestredig y clwb yn newid rhaid i’r clwb hysbysu’r awdurdod trwyddedu lleol am y newid a darparu’r dystysgrif â’r hysbysiad.
Gall clwb gyflwyno cais i awdurdod trwyddedu lleol i amrywio trwydded. Dylid anfon y dystysgrif â’r cais.
Gall yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio’r safle cyn ystyried y cais.
Gall ffioedd fod yn daladwy ar gyfer unrhyw fath o gais yn ymwneud â thystysgrif safle clwb.
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Bydd. Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais.
Gwneud cais ar-lein
Cais am drwydded safle clwb newydd (ffenestr newydd)
Cais i amrywio tystysgrif safle clwb (ffenestr newydd)
Hysbysiad am newid manylion neu reolau’r clwb (ffenestr newydd)
Cais am fân newidiad i drwydded clwb neu drwydded mangre (ffenestr newydd)
Gwneud taliad blynyddol am drwydded clwb (ffenestr newydd)
Gwneud iawn am gais a fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Bydd ymgeisydd y methodd ei gais yn cael ei hysbysu am wrthod cais am dystysgrif neu amrywio tystysgrif gan yr awdurdod trwyddedu lleol.
Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisydd gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad.
Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o’r hysbysiad am y penderfyniad.
Gwneud iawn i’r deilydd trwydded
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Os ydy awdurdod trwyddedu lleol yn gwrthod cais i amrywio’r drwydded gall deilydd y drwydded gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad. Gall deilydd trwydded apelio yn erbyn penderfyniad i roi amodau ar dystysgrif neu i eithrio unrhyw weithgaredd y clwb. Gellir cyflwyno apêl yn erbyn amrywio unrhyw amod hefyd.
Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.
Gall clwb gyflwyno apêl yn erbyn diddymu trwydded.
Rhaid cyflwyno’r apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
Cwyn gan ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).
Gall aelod o’r clwb wneud cais am adolygu’r dystysgrif. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau am eu hymateb i’r cais mewn hysbysiad.
Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.
Rhaid cyflwyno’r apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
Gwneud iawn mewn achosion eraill
Gall unrhyw ‘barti â diddordeb’ gyflwyno sylwadau i’r awdurdod trwyddedu lleol cyn rhoi’r dystysgrif neu cyn rhoi newidiadau i dystysgrif. Os cyflwynir sylwadau yna cynhelir gwrandawiad i ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn cyhoeddi hysbysiad yn nodi’r rhesymau am benderfyniad y gwrandawiad.
Bydd partïon â diddordeb a gyflwynwydd sylwadau yn cael eu hysbysu am gais a fethodd.
Diffinnir ‘parti â diddordeb’ fel:
- Unigolyn yn byw ger y safle neu gorff yn cynrychioli unigolyn o’r fath
- Unigolyn sy’n ymwneud â busnes ger y safle neu gorff yn cynrychioli unigolyn o’r fath
Gall parti â diddordeb wneud cais am adolygu tystysgrif safle clwb. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau am ei ymateb i’r cais mewn hysbysiad.
Gall parti â diddordeb gyflwyno apêl os ydyn nhw’n dadlau na ddylid bod wedi rhoi tystysgrif neu y dylid bod wedi gwneud cyfyngiadau neu roi amodau ychwanegol gwahanol ar y gweithgareddau. Gall apelio yn erbyn amrywio unrhyw amod hefyd.
Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.
Rhaid cyflwyno’r apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
Manylion cyswllt
Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF
Rhif ffôn: 01352 703030
E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk
Cymdeithasau / mudiadau’r diwydiant
Federation of Licensed Victuallers Associations (FLVA) (ffenestr newydd)
Mewn partneriaeth â EUGO