Alert Section

Trwydded amgylcheddol


Crynodeb o’r drwydded 

Mae’n rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol os ydych chi’n gweithredu cyfleuster wedi’i reolaidd yng Nghymru neu Loegr. 

Mae cyfleuster wedi’i reoleiddio yn cynnwys:

  • Gosodiadau neu beiriannau symudol sy’n cyflawni gweithgareddau rhestredig
  • Gweithgareddau gwastraff  
  • Peiriannau gwastraff symudol  
  • Gweithgareddau gwastraff mwyngloddio  

Mae’r gweithgareddau rhestredig yn cynnwys:

  • Ynni – gweithgareddau llosgi tanwydd neu weithgareddau troi eitemau’n nwy neu’n hylif neu weithgareddau puro
  • Metelau – gweithgynhyrchu a phrosesu metelau  
  • Mwynau – gweithgynhyrchu calch, sment, serameg neu wydr 
  • Cemegion – gweithgynhyrchu cemegion, cemegion fferyllol neu ffrwydron, swmp storio cemegion
  • Gwastraff – llosgi gwastraff, gweithredu safle tirlenwi, adfer  gwastraff
  • Hydoddyddion – defnyddio hydoddyddion
  • Arall – gweithgynhyrchu papur, mwydion a bwrdd pren, trin nwyddau pren, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod mewn modd dwys 

Mae’r gweithgareddau rhestredig wedi’u rhannu’n dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.

Mae Rhan A yn caniatáu gweithgareddau wedi’u rheoli sydd ag amrediad o effeithiau amgylcheddol, yn cynnwys:

  • Allyriadau i’r aer, tir a dŵr  
  • Effeithlonrwydd ynni  
  • Lleihau gwastraff  
  • Defnyddio deunyddiau crai  
  • Sŵn, dirgrynu a gwres  
  • Atal damweiniau  

Mae Rhan B yn caniatáu gweithgareddau wedi’u rheoli sy’n achosi allyriadau i’r aer. 

Mae’r drwydded sy’n ofynnol i’ch busnes chi yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a’r allyriadau’n deillio o hynny. 

Gellir cael trwydded gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu eich awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) yn dibynnu ar ba gategori sy’n berthnasol i’ch busnes chi: 

  • Mae gosodiadau neu beiriannau symudol Rhan A(1) yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd 
  • Mae gosodiadau neu beiriannau symudol Rhan A(2) a Rhan B yn cael eu rheoli gan yr awdurdod lleol, ac eithrio gweithgareddau gwastraff sy’n cael eu  cyflawni mewn gosodiadau Rhan B sy’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd 
  • Mae gweithgareddau gwastraff neu beiriannau gwastraff symudol a ddefnyddir mewn man arall ac eithrio gosodiad, neu gan beiriannau symudol Rhan A neu B yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd  
  • Mae gweithgareddau gwastraff mwyngloddio yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd

Meini prawf cymhwysedd 

Rhaid cyflwyno cais ar y ffurflen a ddarperir gan y rheoleiddiwr, neu ar-lein, a rhaid nodi gwybodaeth benodol a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y gweithgareddau. 

Efallai y bydd yn ofynnol talu ffi.  

Os oes angen rhagor o wybodaeth bydd y rheoleiddiwr yn hysbysu’r ymgeisydd am hyn a rhaid darparu’r wybodaeth neu tybir bod y cais wedi’i dynnu yn ôl. 

Rhaid i weithredydd y cyfleuster rheoledig gyflwyno’r cais. 

Yn achos gweithgareddau gwastraff ni roir trwydded nes bo unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ofynnol wedi’i roi yn gyntaf. 

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)

Proses gwerthuso cais

Bydd y rheoleiddiwr yn ystyried diogelu’r amgylchedd yn ei gyfanrwydd trwy atal neu, lle nad ydy hynny’n ymarferol, leihau allyriadau i’r aer, dŵr a’r tir. 

Gall y rheoleiddiwr hysbysu’r cyhoedd am y cais, a rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau a dderbynnir. 

Rhaid i weithredydd y cyfleuster rheoledig gyflwyno’r cais, a rhaid i’r rheoleiddiwr gael ei fodloni eu bod yn gweithredu’r cyfleuster yn unol â’r drwydded amgylcheddol.    

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Na fydd.  Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded.  Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol.  Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes (ffenestr newydd) neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod. 

Gwneud cais ar-lein 

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan A2 (ffenestr newydd)

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan B (ffenestr newydd)

Cais i newid trwydded amgylcheddol (ffenestr newydd)

Tâl blynyddol parhau oes trwydded (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall ymgeisydd y gwrthodir trwydded amgylcheddol iddo gyflwyno apêl i’r awdurdod priodol.  Yng Nghymru yr awdurdod priodol ydy’r Gweinidogion Cymreig ac yn Lloegr yr awdurdod priodol ydy’r Ysgrifennydd Gwladol.  Rhaid cyflwyno apêl heb fod yn hwyrach na chwe mis o ddyddiad y penderfyniad. 

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Os gwrthodwyd cais i amrywio, trosglwyddo neu ildio trwydded amgylcheddol, neu os ydy’r ymgeisydd yn gwrthwynebu’r amodau yn gysylltiedig â’r drwydded amgylcheddol gellir cyflwyno apêl i’r awdurdod priodol. 

Rhaid i apêl yn gysylltiedig ag amrywiad a awgrymwyd gan y rheoleiddiwr, hysbysiad atal neu hysbysiad gorfodi gael ei chyflwyno cyn pen deufis o ddyddiad yr amrywiad neu’r hysbysiad, ac yn unrhyw achos arall heb fod mwy na chwe mis o ddyddiad y penderfyniad. 

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Gwneud iawn mewn achosion eraill 

Gall iawndawl fod yn daladwy yng nghyswllt amodau’n effeithio ar fudd penodol mewn tir. 

Manylion cyswllt

Rheoli Llygredd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703330

E-bost: rheoli.llygredd@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant

Federation of Environmental Trade Association (FETA) (ffenestr newydd)

Environmental Industries Commission (EIC) (ffenestr newydd)

Environmental Services Associations (ESA) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO