Ffrwydron trwydded
Rhaid i fusnes gael trwydded neu fod wedi’i gofrestru i storio ffrwydron, gan gynnwys tân gwyllt a gedwir er mwyn eu gwerthu. Mae’n rhaid i ymgeiswyr weithredu rhagofalon diogelwch llym ac mae cyfyngiadau ar werthu tân gwyllt i’r rhai o dan oed.
At hyn, cyfyngir gwerthiant tân gwyllt i 3 wythnos o gwmpas noson tân gwyllt ac i ychydig ddyddiau cyn Calan. Rhaid i unrhyw un sydd am werthu tân gwyllt ar adegau gwahanol i’r dyddiadau penodedig wneud cais am drwydded arbennig i’r Gwasanaeth Safonau Masnach.
Cysylltwch â ni
Ffôn Ymholiadau busnes a materion eraill: 01352 703181
E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk
Ysgrifennu at neu ymweld:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Ty Dewi Sant,
Parc Dewi Sant,
Ewlo,
Sir y Fflint
CH5 3FF
Oriau agor ein swyddfa yw 8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.