Alert Section

Safle hapchwarae trwydded


Deddf Hapchwarae 2005

Ar y 7fed o Ebrill 2005 cafodd Deddf Hapchwarae 2005 Gydsyniad Brenhinol sy’n golygu bod cynigion y Llywodraeth ar gyfer diwygio’r gyfraith ar hapchwarae wedi dod i rym. Crëwyd y Comisiwn Hapchwarae o dan y Ddeddf, a chyflwynwyd cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer hapchwarae masnachol. Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Hapchwarae 2005 ar gael ar wefan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Y Comisiwn yn gyfrifol am ganiatáu trwyddedau gweithredu a thrwyddedau personol ar gyfer gweithredwyr hapchwarae masnachol a gweithwyr sy’n gweithio yn y diwydiant. Yng Nghymru a Lloegr, bydd awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am nifer o swyddogaethau rheoleiddio o ran hapchwarae.  

Ymhlith y swyddogaethau hyn mae'r canlynol:

  • trwyddedu adeiladau ar gyfer gweithgareddau hapchwarae;
  • ystyried hysbysiadau a roddwyd i ddefnyddio adeiladau, a hynny dros-dro, ar gyfer hapchwarae;
  • rhoi hawlenni ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn clybiau a sefydliadau lles glowyr;
  • rheoleiddio hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn adeiladau a drwyddedwyd i werthu alcohol;
  • caniatáu hawlenni i ganolfannau adloniant teulu ddefnyddio rhai peiriannau hapchwarae graddfa is;
  • caniatáu hawlenni ar gyfer hapchwarae i ennill rhodd;
  • ystyried hysbysiadau hapchwarae yn achlysurol ar draciau; a
  • chofrestru loterïau cymdeithasau bach.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys tri o amcanion trwyddedu sy’n sail i’r swyddogaethau y bydd y Comisiwn a’r awdurdodau trwyddedu yn eu cyflawni. Mae’r amcanion hyn yn ganolog i’r gyfundrefn newydd o reoleiddio a grëwyd gan y Ddeddf. Yr amcanion hyn yw:

  • atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell troseddu neu anrhefn, rhag cael ei gysylltu â throseddu ac anrhefn, a rhag cael ei ddefnyddio i gynorthwyo troseddu;
  • sicrhau bod hapchwarae’n digwydd mewn modd teg ac agored; a
  • diogelu plant ac eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu gael eu cam-fanteisio gan hapchwarae.

Datganiad o Bolisi Trwyddedu

Mae’n ofynnol i’r awdurdod trwyddedu baratoi ‘Datganiad o Bolisi Trwyddedu’ bob tair blynedd sydd â’r tri o amcanion trwyddedu yn ganolog iddo.

Deddf Hapchwarae – Datganiad Polisi Trwyddedu (2023)


Gwneud cais

Ffioedd y Ddeddf Hapchwarae 2005

I gael gwybod sut i wneud cais, cysylltwch â:I gael gwybod sut i wneud cais, cysylltwch â:

Yr Adain Drwyddedu, 
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NH

Ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

(Byddai o gymorth i ni pe baech yn cynnwys eich enw, cyfeiriad a'ch rhif ffôn ar unrhyw ohebiaeth.)