Trwydded Petroliwm
Crynodeb o’r Drwydded
Mae angen trwydded gan eich awdurdod trwyddedu petroliwm lleol arnoch chi ar gyfer cynnal busnes lle mae petrol yn cael ei storio i’w gyflenwi’n uniongyrchol i danc petrol injan tanio mewnol – neu lle bo swm mawr o betrol yn cael ei storio at ddefnydd preifat.
Bydd rhaid talu ffi am drwydded o’r fath – manylion isod.
Rhoir amodau ar y drwydded.
Meini Prawf Cymhwysedd
Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
Crynodeb o’r Rheoliadau
Gweld crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon (ffenestr newydd)
Proses Gwerthuso Cais
Os hoffech gael rhagor o fanylion ffoniwch y Tîm Diogelwch ar 01352 703181
A Fydd Cydsyniad Mud yn Berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded. Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol. Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Ffioedd
Trwydded i gadw petroliwm, yn ôl cyfaint:
- heb fod yn fwy na 2,500 litr. £42.00
- dros 2,500 litr ond heb fod yn fwy na 50,000 litr. £58.00
- dros 50,000 litr. £120.00
Trosglwyddo trwydded. £8.00
Gwneud Cais Ar-lein
Cais am drwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)
Cais i newid trwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)
Cais i drosglwyddo trwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)
Cais i adnewyddu trwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)
Gwneud Iawn am Gais a Fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Os gwrthodir cais gall yr ymgeisydd gyflwyno apêl i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Manylion Cyswllt
Rhif ffôn: 01352 703181
E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk
Post:
Gwasanaeth Safonau Masnach, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF
Cymdeithasau / Mudiadau’r Diwydiant
Petrol Retailers Association (PRA) (ffenestr newydd)
Mewn partneriaeth â EUGO