Alert Section

Trwyddedau – cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat


Hur preifat - rhaid archebu teithiau o flaen llaw drwy weithredwr trwyddedig

Cerbydau hacnai - cerbydau sy'n gweithio o safleoedd tacsi a allai fod ar gael i'w hurio.


Trwydded - cerbyd hacnai - tacsi

Mae gan Gyngor Sir y Fflint y polisi canlynol ar gyfer Cerbydau Hacnai:

Dynodwyd Cyngor Sir y Fflint yn Awdurdod ‘Cyfnod Cyntaf’ o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. O ganlyniad, ystyrir pob Cerbyd Hacnai newydd a fydd yn cael ei drwyddedu mewn perthynas â darpariaeth y rheoliadau hygyrchedd tacsis, sef bydd raid i bobl ag anableddau, gan gynnwys rhai mewn cadair olwyn, fedru mynd a dod ohonynt.

Felly, bydd raid i unrhyw Gerbyd Hacnai newydd a drwyddedir gan Sir y Fflint fod wedi’i adeiladu’n bwrpasol neu fod wedi’i addasu’n arbennig a chael ei gymeradwyo’n benodol, bydd raid gallu ei wahaniaethu oddi wrth gerbyd Hurio Preifat a bod ag arwyddion Tacsi / I’w Logi ar y to, bod â phared mewnol a mesurydd tâl a bydd raid i’r anabl allu mynd a dod ohono mewn gwirionedd gan gynnwys gyda chadair olwyn.

Rhaid i bob cerbyd gael prawf MOT a phrawf Addasrwydd y Cyngor bob chwe mis yn un o’r canolfan MOT dynodedig yn Sir y Fflint cyn cael ei drwyddedu.


Mannau Aros i Gerbydau Hacnai (24 Awr)

Cei Connah

  • Stryd Fawr, Cei Connah (A548) (ochr ogleddol) - cilfan o flaen Llys Glan-y-Morfa.  Lle i 3 cerbyd.
  • Canolfan Siopa Gwepra, Cei Connah - maes parcio ger tafarn y ‘Boathouse’.  Lle i 2 gerbyd.
  • Stryd Pen-y-Llan, Cei Connah (ochr orllewinol) - cilfan - lle i 2 gerbyd.

Yr Wyddgrug

  • Ochr ogleddol A494 Ffordd Caer (safle'r hen gilfan bws)

Trwydded - cerbyd hur preifat - cabiau mini

Ni all Cerbyd Hur Preifat chwilio am fusnes na sefyll mewn safle cerbydau hacnai. Rhaid ei archebu ymlaen llaw gyda gweithredydd hur preifat ac ni all weithredu ar wahân i'r gweithredydd hwnnw.

Rhaid cael trwydded cerbyd gan y Cyngor cyn y gellir defnyddio'r cerbyd at y diben hwn.


Y Drefn i Drwyddedu Cerbyd

Cyn i'r cerbyd gael trwydded at ddibenion hur preifat, rhaid i'r cerbyd gael prawf MOT llawn a'i basio a phasio archwiliad y cyngor yn un o'r garejys cymeradwy:

  • Rhaid gwneud trefniadau ar gyfer y prawf/archwiliad hwn yn uniongyrchol gyda'r garej penodol a rhaid talu'r ffi, yr un ffi â phrawf MOT arferol, i'r garej adeg y prawf.
  • Mae gan PCM Repairs gyfleusterau dosbarth V11 ac maen nhw'n gallu profi bysiau mini mwy.
  • Adeg archebu'r prawf, bydd angen i chi roi rhif cofrestru llawn y cerbyd, y drwydded hur preifat a nodi'n llawn y math o brawf y byddwch ei angen.
  • Rhaid i'r un garej ag a wnaeth y prawf cyntaf wneud ailbrofion. Ni fydd ychwanegiad at y ffi am ail brawf ar yr amod ei fod yn cael ei wneud cyn pen saith diwrnod ar ôl y prawf cyntaf.  Ni fydd modd gwneud ail brawf ar ôl saith diwrnod a bydd angen prawf llawn a thalu ffi newydd. 
  • Cyn cael trwydded, rhaid i bob cerbyd gael prawf MOT blynyddol a phrawf addasrwydd y Cyngor bob chwe mis yn un o bedair canolfan brawf MOT a enwir yn Sir y Fflint.

Pan fydd cerbyd wedi pasio'r prawf MOT ac archwiliad y Cyngor, bydd yn cael tystysgrif o ran y ddau brawf. Rhaid dangos y ddwy dystysgrif i'w harchwilio pan fyddwch yn mynd i Neuadd y Sir i drwyddedu'r cerbyd, ynghyd â'r dogfennau eraill angenrheidiol, fel a ganlyn.

  • Dogfen gofrestru'r cerbyd
  • Tystysgrif yswiriant cyfredol neu nodyn yswiriant ar gyfer defnydd hur preifat yn dangos rhif cofrestru'r cerbyd priodol
  • Ffi'r drwydded
  • Ffurflen gais am drwydded cerbyd hur preifat wedi'i llenwi.

Plât trwydded

Pan fydd cerbyd wedi'i drwyddedu, bydd yn cael plât trwydded ôl. Rhaid gosod hwn ar gefn y cerbyd a thrwydded gyfatebol ar gyfer tu mewn y cerbyd, yn dangos y dyddiad y daw'r drwydded i ben. Rhaid iddo hefyd arddangos enw a rhif ffôn y gweithredydd preifat ar y ddau ddrws blaen.

Rhaid gosod y plât trwydded ôl yn gadarn ar gefn y cerbyd yn unol ag amodau trwyddedu cerbydau. Nid yw'n dderbyniol i arddangos y plât yn y ffenest ôl.

I helpu perchnogion trwyddedig gydymffurfio ag amod uchod y drwydded , mae'r cyngor wedi cael cyflenwad o fracedi i'w defnyddio gyda'r plât newydd.  Gall perchnogion cerbydau brynu braced gan y cyngor am bris gostyngedig o £15.00 (y pris arferol yw £22.00). Mae manylion y bracedi i'w gweld ar yr hysbysfwrdd trwyddedu ym mhrif fynedfa Neuadd y Sir, neu mae modd eu cael yn uniongyrchol gan y gwneuthurwr MOGO (ffenestr newydd).

Cerbydau sydd â seddi i fwy na 4 teithiwr

Dylai pobl sydd am drwyddedu cerbyd â seddau i fwy na 4 ond llai na 9 fel cerbyd hur preifat, gysylltu â'r Cyngor am gyngor ynghylch ei addasrwydd i gael trwydded. Mae'r amod ychwanegol canlynol yn gymwys i gerbydau sydd â thrwydded i gludo mwy na 4 person:-

Mae’n rhaid i bob teithiwr fod â ffordd uniongyrchol o fynd i mewn i’r cerbyd ac allan ohono heb orfod dringo dros seddi eraill neu fagiau. Ni fyddai hyn yn cynnwys pan fo raid plygu sedd i lawr er mwyn caniatáu mynediad neu ffordd allan.  Mae’n rhaid i bob sedd fod yn 400mm yn y man culaf.

Gorsafoedd profi enwebedig (PDF 40KB new window)


Trwydded - gyrwyr cerbydau hur preifat a cherbydau hacnai

Mae hon yn drwydded ddeuol, h.y. mae'n galluogi'r daliwr i yrru cerbydau Hur Preifat a Hacnai sydd wedi'u trwyddedu gan Gyngor Sir y Fflint. Dim ond pan fydd yr Awdurdod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn un holliach a phriodol i ddal trwydded felly, y mae modd ei rhoi.

Rhoddir bathodyn i yrwyr trwyddedig sy'n dangos eu llun, rhif y drwydded a'r dyddiad y daw i ben. Rhaid i yrwyr wisgo'u bathodyn bob amser pan fyddan nhw'n gweithio, a rhaid iddyn nhw weithio drwy weithredydd hur preifat trwyddedig.

Mae angen pasio profion amrywiol i fodloni'r meini prawf hyn, sef:

  • Datgeliad Manwl gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol.
  • Ymholiad Talu Ffi y DVLA, ar drwydded yrru'r ymgeisydd.
  • Archwiliad meddygol, i safon Grwp II, wedi'i gwblhau gan ddoctor yr ymgeisydd.
  • Gwiriadau Canolwyr, rhaid rhoi dau enw i'r Cyngor gysylltu â nhw.

Euogfarnau neu rybuddion

Wrth gyflwyno cais am drwydded i yrru cerbyd hacnai neu gerbyd hur preifat, gofynnir i chi ddatgan unrhyw euogfarnau neu rybuddion sydd gennych.  Mae hyn yn cynnwys rhai 'darfodedig' o dan Ddeddf Adfer Troseddwyr 1974.

Mae'r ddogfen ganlynol yn darparu gwybodaeth bellach:

Trwyddedau cerbydau hur preifat a hacnai - Datganiad yn ymwneud ag euogfarnau (PDF 70KB ffenestr newydd)

Hefyd mae’n rhaid i ni ystyried Safonau Statudol yr Adran Drafnidiaeth wrth wneud penderfyniadau ar drwyddedau. 

Ymgeisio am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a Gwiriadau’r DVLA

Unwaith rydych wedi gwneud eich cais am Drwydded Gyrrwr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni newydd neu am adnewyddu’r drwydded, dilynwch y dolenni isod i wneud cais am eich tystysgrif fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriad y DVLA. Byddwch angen y ddau oni nodwyd yn wahanol. 

Sylwch y byddwch angen eich rhif cais Cyngor Sir y Fflint er mwyn mynd ymlaen â’r cais.


Trwydded - gweithredwyr cerbydau hur preifat

Mae gweithredwyr cerbydau hur preifat yn gyfrifol am gymryd archebion am gerbydau hur preifat ac anfon y cerbyd a'r gyrrwr i gyflawni'r archeb honno.

Mae deddfwriaeth ac amodau'r drwydded yn rhoi dyletswyddau ar weithredwyr cerbydau hur preifat i sicrhau bod gan y cerbydau a'r gyrwyr y maent yn eu gweithredu drwydded briodol.  Rhaid cynnal gwiriadau cyn y gall ymgeiswyr gael trwydded gweithredwr cerbydau hur preifat a rhaid iddynt hefyd gael y caniatâd cynllunio perthnasol ar gyfer yr adeiladau lle bydd archebion yn cael eu cymryd. 

Am ffurflen gais neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Drwyddedu.

Manylion Cerbyd Hur Preifat


Rhestr o weithredwyr trwyddedig yn Sir y Fflint

Er mwyn cynorthwyo'r cyhoedd i wirio p'un a oes gan weithredwr cerbydau hur preifat drwydded gywir, mae gan y Cyngor bellach restr o weithredwyr cerbydau hur preifat. 

Rhestr o Weithredwyr Llogi Preifat Trwyddedig (PDF 40KB ffenestr newydd)


Cerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn

Mae’r Llywodraeth yn awr wedi cychwyn Adrannau 165 a 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Y Ddeddf).  Mae Adran 167 y Ddeddf yn rhoi'r pŵer i Gynghorau lunio rhestrau o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, a ddisgrifir fel 'cerbydau dynodedig'.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi defnyddio’r pŵer hwn i ddarparu rhestr o gerbydau o’r fath.I ddosbarthu cerbyd fel un sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, dylai'r cerbyd hwnnw allu cludo rhai mathau, ond nid o reidrwydd pob math o gadair olwyn â rhywun yn eistedd ynddi. Ni chaiff cerbyd ei gynnwys yn rhestr y Cyngor oni bai y byddai’n bosibl i ddefnyddiwr ‘cadair olwyn gyfeiriol’ fynd i mewn ac allan o’r cerbyd a theithio yn rhan y teithiwr ohono yn ddiogel ac yn rhesymol gyfforddus wrth eistedd yn eu cadair olwyn.

Mae’n rhaid i yrrwr cerbyd dynodedig:

  • Gludo’r teithiwr wrth iddynt eistedd yn eu cadair olwyn
  • Peidio â chodi unrhyw dâl ychwanegol am wneud hynny
  • Cario’r gadair olwyn os bydd y teithiwr yn dewis eistedd yn sedd y teithiwr
  • Cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau fod y teithiwr yn cael ei gludo yn ddiogel ac yn rhesymol gyfforddus
  • Rhoi’r fath gymorth gyda symudedd ag y bydd yn rhesymol angenrheidiol ar y teithiwr.
  • Os bydd gyrrwr yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r uchod wrth yrru cerbyd dynodedig i’w hurio am dâl, byddant yn cyflawni trosedd.

Cerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn - Rhestr

Bydd y rhestr yn cael ei diweddaru bob mis.


Trwyddeu Cerbydau Hacnai - Tabl Prisiau

Hysbysir trwy hyn fod y Cyngor Sir wedi cynhyrchu’r tabl prisiau canlynol ar gyfer cerbydau Hacnai, o dan Adran 65 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Trwyddeu Cerbydau Hacnai - Tabl Prisiau
CYFRADD 1Prisiau
Siwrneiau heb fod yn hirach nag 1 filltir £3.60
Siwrneiau sy’n fwy na 1 filltir, am y filltir gyntaf £3.10
Am bob 216 llath ar ôl hynny neu ran o hynny £0.30
AMSER AROSPrisiau
Am 1 awr £0.30
Am 1 awr £18.00
EXTRA CHARGESPrisiau
Bagiau  £0.30
Unrhyw unigolion ychwanegol ar ôl 2 o bobl (ac eithrio plant dan 5 oed) £0.40
Anifeiliaid (ac eithrio cŵn tywys) £1.20
Baeddu’r cerbyd (hyd at) £50.00
CYFRADD 2Prisiau
Siwrneiau rhwng 12:00 canol nos a 6:00am Cyfradd 1 & 10% (=£3.96)
Siwrneiau sy’n gorffen y tu allan i’r fwrdeistref  
Siwrneiau wedi’u harchebu o flaen llaw  
CYFRADD 3Prisiau
Siwrneiau ar unrhyw adeg ar wyliau banc statudol heb gynnwys Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan (gan gynnwys 24 Rhagfyr a 31 Rhagfyr ar unrhyw adeg) Cyfradd 1 & 50% (=£5.40)
CYFRADD 4Prisiau
Siwrneiau ar unrhyw adeg ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan Cyfradd 1 & 100% (=£7.20)

Gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth am drwyddedu cerbydau hur preifat a cherbydau hacni, cysylltwch â’r Is-adran Drwyddedu:

Ffôn: 01352 703030

Ysgrifennwch at: Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF.

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk