Trwydded sefydliad marchogaeth
Crynodeb o’r drwydded
Mae angen trwydd gan yr awdurdod lleol arnoch chi i gynnal sefydliad marchogaeth (lle mae ceffylau neu ferlod yn cael eu llogi i’w marchogaeth neu eu defnyddio ar gyfer gwersi marchogaeth) yng Lloegr.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i’r ymgeisydd fod dros 18 oed. Yng Lloegr ni chânt fod wedi eu gwahardd o’r isod:
- Cadw sefydliad marchogaeth
- Cadw siop anifeiliaid anwes dan y Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
- Gwarchod anifeiliaid dan y Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954
- Cadw llety i anifeiliaid dan y Ddeddf Sefydliadau Llety i Anifeiliaid 1963
- Cadw neu berchen ar anifeiliaid dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, neu fedru dylanwadu ar sut y cedwir anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid neu eu cludiant neu ymwneud â chludo anifeiliaid
Rhaid i’r ymgeisydd dalu’r ffi sy’n ofynnol a chydymffurfio ag unrhyw amodau ar y drwydded.
Crynodeb o’r rheoliadau
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964)
Proses gwerthuso cais
Cyn penderfynu ar gais rhaid i’r awdurdod lleol ystyried adroddiad gan filfeddyg yn nodi a ydy’r safle a’r adeiladau yn addas ar gyfer sefydliad marchogaeth ac yn nodi cyflwr y safle ac unrhyw geffylau.
Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried p’un ai yw’r ymgeisydd yn addas a chymwys i gael trwydded. Rhaid bod yn fodlon ynghylch yr isod hefyd:
- Y bydd cyflwr y ceffylau’n cael ei ystyried ac y byddant yn cael eu cadw mewn iechyd da, yn heini yn gorfforol a lle bo’r ceffyl i’w farchogaeth neu i’w ddefnyddio mewn gwersi marchogaeth ei fod yn addas at y diben hwnnw
- Y bydd carnau’r anifeiliaid yn cael eu trin yn gywir a bod pedolau wedi eu gosod yn gywir ac mewn cyflwr da
- Y bydd llety addas i’r ceffylau
- Lle bo ceffylau’n cael eu cadw ar laswellt bod porfa addas, cysgod a dŵr ar gael ac y bydd porthiant ategol yn cael ei roi fel a phan fo angen
- Y bydd y ceffylau’n cael bwyd, diod a deunydd gwely addas ac yn cael ymarfer corfforol, eu brwsio, eu gorffwyso ac y bydd rhywun yn cadw llygad arnyn nhw yn rheolaidd
- Bod rhagofalon yn bodoli i leihau lledaeniad clefydau cyffwrdd-ymledol neu heintus ac y bydd offer cymorth cyntaf a meddyginiaethau milfeddygol yn cael eu darparu a’u cynnal a’u cadw’n gywir
- Bod gweithdrefnau priodol yn bodoli i amddiffyn a symud y ceffylau mewn achos tân a bod enw, cyfeiriad a rhif ffôn deilydd y drwydded wedi’i arddangos y tu allan i’r safle a bod y cyfarwyddiadau mewn achos tân i’w gweld, fel rhan o’r gweithdrefnau hyn
- Bod cyfleusterau storio porthiant, deunydd gwely, offer stablau a chyfrwyon ar gael
Mae’n rhaid i drwydded sefydliad marchogaeth fod yn ddarostyngedig i’r amodau isod, yn ychwanegol at unrhyw amodau eraill:
- Y bydd unrhyw geffyl sy’n cael ei archwilio gan swyddog awdurdodedig ac y canfyddir bod arno angen sylw milfeddygol yn cael ei gadw o’i waith arferol nes bo deilydd y drwydded wedi cael tystysgrif gan filfeddyg yn cadarnhau bod y ceffyl yn ffit i weithio
- Ni fydd ceffyl yn cael ei logi neu ei ddefnyddio mewn gwersi heb oruchwyliaeth person cyfrifol 16 oed neu’n hŷn, onibai bod deilydd y drwydded yn fodlon nad oes angen goruchwyliaeth ar y marchogwr
- Na fydd y busnes yn cael ei adael yng ngofal rhywun dan 16 oed
- Bod gan deilydd y drwydded yswiriant indemniad
- Bod deilydd y drwydded yn cadw cofrestr o’r holl geffylau yn ei feddiant sy’n dair oed neu’n iau, a
- Bod y gofrestr ar gael i edrych arni ar unrhyw adeg rhesymol
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded. Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol. Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes (ffenestr newydd) neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Ffioedd a thalu
Mae’r ffi(oedd) ar gyfer y cais hwn fel a ganlyn: £205.56*
* a ffioedd milfeddyg – gwaith paratoadol, archwilio, teithio a pharatoi adroddiad bob awr.
Yn ogystal â’r ffi i’r Awdurdod Trwyddedu (£65), byddwch hefyd yn gorfod talu ffi i’r milfeddyg a benodir gan yr Awdurdod Trwyddedu i archwilio’ch eiddo. Ni fydd ffi’r milfeddyg yn cael ei bennu tan ar ôl yr archwiliad fel arfer. A fyddech cystal ag anfon eich ffi’r Awdurdod Trwyddedu gyda’ch cais. Byddwn yn anfon anfoneb atoch ar gyfer ffi’r milfeddyg yn ddiweddarach.
Gwneud cais ar-lein
Cais am drwydded i weithredu sefydliad marchogaeth (ffenestr newydd)
Cais i newid trwydded sefydliad marchogaeth (ffenestr newydd)
Gwneud iawn am gais a fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Caiff ymgeisydd y gwrthodwyd ei gais gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.
Gwneud iawn i’r deilydd trwydded
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Caiff ymgeisydd sy’n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.
Cwyn gan ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).
Manylion cyswllt
Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF
Rhif ffôn: 01352 703030
Cymdeithasau / mudiadau’r diwydiant
Association of British Riding Schools (ABRS) (ffenestr newydd)
British Dressage (ffenestr newydd)
British Equestrian Federation (BEF) (ffenestr newydd)
British Equestrian Trade Association (BETA) (ffenestr newydd)
Mewn partneriaeth â EUGO