Alert Section

Gweithredydd sgipiau trwydded


Crynodeb o’r drwydded

Os ydych chi’n dymuno gosod sgip ar briffordd wedi’i mabwysiadu (y ffordd ynghyd ag unrhyw ardal glaswellt neu balmant) mae’n ofynnol cael trwydded gan yr awdurdod lleol.   

Cyn ymgeisio am drwydded yn gyntaf mae’n rhaid i chi gofrestru eich bwriad â ni (cofrestru gweithredyddion sgipiau) a chyflwyno tystiolaeth bod gan eich cwmni chi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyfredol gwerth £5 miliwn. 

Meini prawf cymhwysedd

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

Mae’n rhaid i’r gweithredydd feddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5 miliwn a bod yn gludwr gwastraff cofrestredig.  Dim ond pan rydych chi’n weithredydd sgipiau trwyddedig y cewch chi wneud cais am hawlenni sgip.  Ar ôl eich trwyddedu mae’n rhaid i’r cwmni wneud cais am hawlen ar wahân ar gyfer pob lleoliad. 

Crynodeb o’r rheoliadau

Gweld crynodeb o’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Priffyrdd 1980)

Proses gwerthuso cais

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

Unwaith y rhoir trwydded gall eich cwmni chi wneud cais am hawlenni sgip unigol fel bo angen (cyn belled ag y bo’r yswiriant yn parhau’n gyfredol).   

Ffioedd

Dim. Rydych chi’n cofrestru am ddim.   

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd.  Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded.  Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol.  Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes (ffenestr newydd) neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod. 

Gwneud cais ar-lein

Cais am drwydded gweithredydd sgipiau (ffenestr newydd)

Cais i newid trwydded gweithredydd sgipiau (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Gwneud iawn mewn achosion eraill 

Beth os ydy sgip wedi’i leoli fel ei fod yn achosi rhwystr, heb hawlen? 

Gall unrhyw un sy’n gweithredu heb hawlen, neu’n groes i amodau’r hawlen, wynebu camau gweithredu gorfodaeth dan Ddeddf Priffyrdd 1980.  Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr awdurdod i gael gwared o unrhyw rwystr a osodwyd ar y briffordd heb hawlen ac adfer y costau ynghlwm â hynny.   

Os ydych chi’n credu bod rhywun yn gweithredu heb hawlen, neu’n torri amodau’r hawlen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. 

Manylion cyswllt

Gwasanaethau Stryd, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6LG

Rhif ffôn: 01352 701234

E-bost: gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau/mudiadau llafur

Builders Merchants Federation (BMF) (ffenestr newydd)

Construction Equipment Association (CEA) (ffenestr newydd)

Construction Plant-hire Association (CPA) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO