Alert Section

Tystysgrif diogelwch stand chwaraeon


Crynodeb o’r drwydded 

Os ydych chi’n gweithredu maes chwaraeon yng Nghymru lle nad yw’n ofynnol cael tystysgrif diogelwch, efallai y bydd angen tystysgrif diogelwch ar gyfer unrhyw stand wedi’i orchuddio sy’n dal mwy na 500 o wylwyr/cefnogwyr. 

Gall tystysgrif diogelwch fod yn un ai:

  • Tystysgrif diogelwch cyffredinol sy’n cwmpasu defnyddio’r staff ar gyfer gwylio gweithgaredd, neu nifer o weithgareddau, a nodir ar y dystysgrif am gyfnod amhenodol sy’n dechrau ar ddyddiad penodol  
  • Tystysgrif diogelwch arbennig sy’n cwmpasu defnyddio’r stand ar gyfer gwylio gweithgaredd neu weithgareddau penodol ar achlysur neu achlysuron penodol 

Gall un dystysgrif fod yn berthnasol i fwy nag un stand. 

Cewch dystysgrif gan eich awdurdod lleol. 

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau ynghlwm â’r dystysgrif. 

Meini prawf cymhwysedd 

Rhaid i chi fod yr unigolyn sy’n gyfrifol am reoli’r maes chwaraeon i fod yn gymwys i gael tystysgrif diogelwch cyffredinol. 

Rhaid i chi fod yr unigolyn sy’n gyfrifol am y gweithgaredd i’w wylio o’r stand ar yr achlysur hwnnw i fod yn gymwys i gael tystysgrif diogelwch arbennig. 

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987) 

Proses gwerthuso cais 

Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani a’r cynlluniau i’r awdurdod lleol yn yr amser a nodwyd.  Os yw’r ymgeisydd yn methu â darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y cyfnod a nodwyd yna tybir bod y cais wedi’i dynnu yn ôl. 

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynwyd a yw unrhyw stand yn yr ardal yn stand i’w rheoleiddio.  Os penderfynir felly, cyflwynir hysbysiad i’r unigolyn yr ymddengys y byddai’n gymwys i gyflwyno tystysgrif diogelwch cyffredinol iddo.  Bydd yr hysbysiad hwn yn rhoi manylion am eu penderfyniad ac effeithiau’r penderfyniad.     

Pan fo awdurdod lleol yn derbyn cais am dystysgrif diogelwch cyffredinol ar gyfer stand rheoledig mewn maes chwaraeon byddai’n rhaid penderfynu a yw’r stand yn stand rheoledig ac ai’r ymgeisydd yw’r person cymwys ar gyfer cyflwyno’r dystysgrif iddo.  Os penderfynwyd eisoes bod y stand yn stand reoledig, ac nad yw’r penderfyniad hwn wedi’i ddiddymu, rhaid penderfynu ai’r ymgeisydd yw’r unigolyn sy’n gymwys i gyflwyno’r dystysgrif diogelwch cyffredinol iddo.  

Os ydy’r awdurdod lleol yn derbyn cais am dystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer stand rheoledig mae’n rhaid penderfynu a yw’r ymgeisydd yn gymwys i gyflwyno’r dystysgrif iddo. 

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o gais am drwydded diogelwch i brif swyddog heddlu yr ardal, yr awdurdod tân ac achub a’r awdurdod adeiladu yng Nghymru.  Rhaid ymgynghori â phob un o’r cyrff hyn ynghylch yr amodau a’r telerau i’w cynnwys mewn tystysgrif. 

Os gwneir cais i drosglwyddo tystysgrif mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a fyddai’r unigolyn y gofynnir am drosglwyddo’r dystysgrif iddo yn gymwys i dderbyn tystysgrif petai wedi gwneud cais.  Gall yr ymgeisydd fod yn ddeilydd cyfredol y dystysgrif neu’r unigolyn y bwriedir trosglwyddo’r dystysgrif iddo. 

Bydd yr awdurdod lleol yn anfon copi o’r cais i brif swyddog heddlu yr ardal, yr awdurdod tân ac achub a’r awdurdod adeiladu yng Nghymru.  Bydd yn ymgynghori â nhw ynghylch unrhyw newid, adnewyddu neu drosglwyddo arfaethedig.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Gwneud cais ar-lein

Cais am dystysgrif stand rheoledig mewn maes chwaraeon (ffenestr newydd)

Cais i newid tystysgrif diogelwch stand rheoledig mewn maes chwaraeon (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi tystysgrif diogelwch cyffredinol iddo oherwydd nad yw’n cael ei ystyried yn unigolyn cymwys gyflwyno apêl i’r llys ynadon. 

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi tystysgrif diogelwch arbennig iddo gyflwyno apêl i’r llys ynadon yn erbyn gwrthod ei gais ar unrhyw sail ac eithrio penderfyniad nad yw’n unigolyn cymwys. 

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol fel man cychwyn. 

Rhaid i unrhyw ddeilydd tystysgrif sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm â, neu unrhyw beth wedi’i hepgor, o’u tystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch gyflwyno apêl i’r llys ynadon.  

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall unrhyw unigolyn y cyflwynir hysbysiad iddo yn nodi bod stand chwaraeon yn stand rheoledig gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. 

Gall unrhyw un sy’n gysylltiedig â sicrhau cydymffurfio ag amodau a thelerau’r dystysgrif diogelwch gyflwyno apêl i’r llys ynadon, yn erbyn unrhyw amod ynghlwm â, neu unrhyw beth wedi’i hepgor o dystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch. 

Manylion cyswllt

Rheoli Adeiladu, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703647

E-bost: gweinyddurha@siryfflint.gov.uk 

Cymdeithasau / mudiadau’r diwydiant

Federation of Sports and Play Associations (FSPA) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO