Caniatâd i gasglu arian ar y stryd
Crynodeb o’r drwydded
Mae’n ofynnol i chi gael trwydded casglu arian ar y stryd gan eich cyngor lleol er mwyn casglu arian neu werthu nwyddau er budd elusen neu ddibenion eraill yng Nghymru.
Meini prawf cymhwysedd
Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
Crynodeb o’r rheoliadau
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Elusennau 1992)
Proses gwerthuso cais
Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Bydd. Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais.
Ffioedd
Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.
Gwneud cais ar-lein
Cais am drwydded casglu arian ar y stryd (ffenestr newydd)
Ffurflen manylion yn dilyn casglu arian ar y stryd (ffenestr newydd)
Gwneud iawn am gais a fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Gwneud iawn i’r deilydd trwydded
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Cwyn gan ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).
Gwneud iawn mewn achosion eraill
E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd petai un deilydd trwydded yn cwyno am ddeilydd trwydded arall.
Manylion cyswllt
Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF
Rhif ffôn: 01352 703030
E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk
Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant
Dim
Mewn partneriaeth â EUGO