Alert Section

Tyllu'r croen


Bydd is-ddeddfau yn ymwneud ag aciwbigo, tatŵio, lliwio croen yn lled-barhaol ac electrolysis mewn grym o 1 Awst 2023. Mae ystod o bwerau gorfodi ar gael i’r Cyngor, gan gynnwys gorfodi dirwyon drwy’r Llysoedd Ynadon a rhoi Rhybuddion Cosb Benodedig. Mae copi o’r is-ddeddfau yma.

Is-ddeddfau perthnasol i aciwbigo, tatŵio, lliwio croen yn lled-barhaol, tyllu cosmetig ac electrolysis

Mae’r wybodaeth safonol ar wneud cais i gofrestru ar gyfer Busnesau Aciwbigo, Tatŵio, Lliwio Croen Lled-barhaol / (Micro-lafnu), tyllu cosmetig, ac electrolysis fel a ganlyn; 

Sylwch fod y ddeddfwriaeth yn cael ei hadolygu yng Nghymru ar hyn o bryd a gallai safonau newid.
Defnyddiwch y ffurflen gais ar-lein pan fyddwch chi'n barod am archwiliad a'i hanfon trwy e-bost at health.safety@flintshire.gov.uk

 Mae gwybodaeth am y safonau gofynnol fel y nodir isod;

  1. Rhaid i'r person sy'n cyflawni'r driniaeth fod wedi derbyn hyfforddiant rheoli heintiau i safon gydnabyddedig.
  2. Rhaid i'r person sy'n cyflawni'r driniaeth fod wedi mynychu Cwrs Cymorth Cyntaf Brys Cymeradwy diweddar neu fod â hyfforddiant a chymhwysedd gwybodaeth cymorth cyntaf cyfatebol neu well.
  3. Rhaid i'r man triniaeth gynnwys basn golchi dwylo at ddefnydd yr ymarferydd yn unig. Rhaid bod hwn wedi’i blymio i gyflenwad parhaus o ddŵr poeth ac oer, ni dderbynnir unedau symudol. Mae'n ofynnol bod gan y basn golchi dwylo yn yr ystafell driniaeth dapiau nad ydynt yn cael eu gweithredu â llaw. Os ydych yn dewis defnyddio tapiau â thopiau math lifer mae'n rhaid iddyn nhw fod y math â liferi hir a bod y rhai na weithredu â llaw (Nid y tapiau lifer byr). Mae tapiau synhwyrydd a thapiau a weithredir gan y pen-glin hefyd heb yn rhai na weithredir â llaw.
  4. Rhaid cael sinc golchi offer dynodedig gyda dŵr poeth ac oer sydd ar wahân i'r basn golchi dwylo. (Mewn adeilad busnes, yn ddelfrydol dylai'r sinc hwn fod ar wahân i'r sinc staff cyffredinol sy'n cael ei ddefnyddio).
  5. Os ydych yn defnyddio beiro farcio ar gyfer y croen rhaid iddynt fod yn rhai defnydd untro y ceir gwared arnynt rhwng pob cwsmer.
  6. Wrth ymyl y basn golchi dwylo, dylid cael peiriannau tyweli llaw tafladwy a sebon. Ni ddylai'r peiriant sebon fod y math y gellir ei ail-lenwi (h.y. rhaid cael y math â chetris ail-lenwi neu ailosod y cynhwysydd sebon o fewn y peiriant yn hytrach na’i dopio i fyny).
  7. Dylai fod arwydd cyfarwyddiadau golchi dwylo ger y basn.
  8. Dim ond ar gyfer gweithgareddau tyllu croen y dylid defnyddio'r ardal driniaeth.
  9. Mae angen contract gwastraff peryglus, bin a weithredir â thraed a blwch eitemau miniog.
  10. Cynghorir Tyllwyr Croen i gael imiwneiddiad yn erbyn Hepatitis B a dylech gysylltu â'ch meddyg teulu i gael arweiniad pellach ar hyn. 
  11. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac mae'n grynodeb. Nid yw'n rhestru pob rheolaeth hylendid unigol sydd wedi'i chynnwys yn yr Is-ddeddfau (y safonau i sicrhau cydymffurfiaeth). Efallai y bydd rhai newidiadau pan gyhoeddir deddfwriaeth newydd).
  12. Dylech sicrhau bod gwiriadau wedi'u gwneud a bod gennych ganiatâd cynllunio cyn cofrestru busnes newydd.
  13. Dim ond pan fydd yr holl waith wedi'i gwblhau ar ôl yr arolygiad y gellir talu am gofrestru, gellir gwneud hyn trwy ffonio a dyfynnu cyfeirnod PBH 117 9653 (rhowch eich enw a'ch cyfeiriad / e-bost a chyfeiriad adeilad) Ffôn: 01352 703440

Y taliadau ar gyfer 2022/2023 yw £71.35 i gofrestru pob gweithredwr yn y busnes a £142.70 i gofrestru'r adeilad busnes.

Cwestiynau Cyffredin

1. Rwy'n aros am fy hyfforddiant cymorth cyntaf brys neu hyfforddiant rheoli heintiau, a allaf barhau i wneud cais am gofrestriad?

Gallwch wneud cais i gofrestru os yw'r cyrsiau ar fin digwydd, fel arall bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir yn cael eu gohirio nes y ceir y tystysgrifau angenrheidiol.

3. Pa mor hir mae'r tystysgrifau cofrestru'n para?

Maent yn para am ddwy flynedd i'r gweithredwr ac i'r adeilad. Ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd angen eu hadnewyddu ond ni chodir tâl ar y cam hwnnw.

4. Rwyf wedi cofrestru y tu allan i Sir y Fflint a oes rhaid i mi ailymgeisio os symudaf fy musnes i Sir y Fflint?

Oes, ar hyn o bryd bydd yn rhaid i chi wneud cais i'r awdurdod newydd y byddwch chi'n gweithio ynddo.

5. Hoffwn redeg fy musnes o fy nghartref / garej / ystafell ardd, a yw hynny'n bosibl?

Bydd yr awdurdod yn caniatáu gweithio o gartref o adeilad ar wahân h.y. garej/ ystafell ardd gyda'i fynedfa ei hun yn unig. Rhaid i'r adeilad fodloni'r un safonau uchel a amlinellir yn yr is-ddeddfau yn ogystal â chwrdd ag unrhyw ofynion caniatâd cynllunio.

6. A allaf weithredu fy musnes a bod yn symudol?

Oherwydd y risgiau rheoli haint, nid yw'r awdurdod yn caniatáu gweithio symudol oni bai bod yr eiddo symudol yn cwrdd â'r un safonau â'r hyn a amlinellir yn yr is-ddeddfau.

Estheteg (triniaethau cosmetig an-lawfeddygol)

Ar hyn o bryd nid yw'r awdurdod yn gofyn am gofrestriadau ar gyfer gweithredwyr. Rhaid i bob gweithredwr sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a rheoliadau COSHH â safonau uchel o arferion rheoli heintiau. Gellir cael cyngor pellach ar wefan HSE. https://www.hse.gov.uk/coshh/

Laserau

Mae angen cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) os ydych chi'n darparu triniaethau yng Nghymru gan ddefnyddio triniaeth golau â phwls dwys neu laser dosbarth 3B neu 4: Gallwch wneud cais ar-lein yma. https://www.gov.uk/laser-intense-pulsed-light-treatment-registration-wales