Hysbysiad digwyddiad dros dro
Crynodeb o’r drwydded
Os ydych chi’n dymuno cynnal digwyddiad ad hocyng Nghymru mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad digwyddiad dros dro i’ch awdurdod trwyddedu lleol dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os ydy lleoliad y digwyddiad mewn ardal a lywodraethir gan ddau awdurdod lleol neu ragor, rhaid cyflwyno cais i bob awdurdod.
Rhaid i chi hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r heddlu ac Is-adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a chewch gyflwyno uchafswm o bump ohonynt y flwyddyn. Os ydych chi’n ddeilydd trwydded bersonol, cewch gyflwyno uchafswm o 50 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro y flwyddyn.
Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd modd cyflwyno ‘hysbysiad hwyr’. Gellir cyflwyno’r rhain dim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ond dim cynt na 9 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Dylech nodi manylion eich rhesymau eithriadol yn ysgrifenedig i gyd-fynd â’ch hysbysiad.
Ni ddylai’r digwyddiad gynnwys mwy na 499 o bobl ar unrhyw un adeg ac ni ddylai barhau mwy na 168 awr, gydag isafswm o 24 awr rhwng digwyddiadau.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i weithgaredd y gellir ei thrwyddedu gael ei chynnal fel a nodir ym manylion yr hysbysiad y mae’n rhaid ei gyflwyno.
Rhaid i’r hysbysiad fod mewn fformat penodol, a’i gyflwyno gan rhywun dros 18 oed.
Dylai’r hysbysiad gynnwys yr isod:
- Os bwriedir cyflenwi alcohol, datganiad yn cadnarhau mai un o amodau defnyddio’r fangre yw bod y cyflenwi’n cael ei wneud ag awdurdod defnyddiwr y fangre
- Datganiad yn ymwneud â materion penodol
- Unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol
Y materion penodol y cyfeirir atynt uchod ydy:
- Manylion y gweithgareddau trwyddedadwy
- Cyfnod y digwyddiad
- Yr amseroedd y bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw
- Uchafswm nifer y bobl y bwriedir caniatáu iddyn nhw gael mynediad i’r fangre
- Manylion am unrhyw faterion eraill sy’n ofynnol
Crynodeb o’r Rheoliadau
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gweithgareddau dros dro a ganiateir) (Hysbysiadau) 2005)
Proses Gwerthuso Cais
Dau gopi o rhaid cyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, yn ysgrifenedig, i’r awdurdod lleol o leiaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Rhaid talu ffi wrth gyflwyno’r hysbysiad.
Rhaid i ddefnyddiwr yr adeiladau hefyd roi hysbysiad i Heddlu Gogledd Cymru ac Is-adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os cyflwynir cais electronig, bydd y Cyngor yn anfon copïau at yr Heddlu ac Is-adran Iechyd yr Amgylchedd.
Os yw Heddlu Gogledd Cymru neu Is-adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn credu y byddai’r digwyddiad yn tanseilio unrhyw un o’r amcanion trwyddedu, gallant gyflwyno hysbysiad gwrthwynebu cyn pen 3 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr hysbysiad digwyddiad dros dro.
Rhaid i’r awdurdod trwyddedu lleol gynnal gwrandawiad os cyflwynir hysbysiad gwrthwynebu. Gall yr awdurdod gyflwyno gwrth hysbysiad os yw’n credu bod hynny’n angenrheidiol i hyrwyddo’r amcan atal trosedd. Rhaid gwneud penderfyniad o leiaf 24 awr cyn dechrau’r digwyddiad.
Yn achos ‘hysbysiad hwyr’, os derbynnir hysbysiad gwrthwynebu gan Heddlu Gogledd Cymru neu Is-adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, ni chynhelir gwrandawiad ac mae’n bosibl na fydd y digwyddiad yn cael caniatâd i gael ei gynnal.
Yw Heddlu Gogledd Cymru neu Is-adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint addasu’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro â chaniatâd defnyddiwr y fangre. Mewn achos o’r fath tybir bod yr hysbysiad gwrthwynebu wedi’i dynnu yn ôl.
Gall yr awdurdod trwyddedu gyflwyno gwrth hysbysiadau os goresgynnwyd nifer yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a ganiateir.
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Bydd. Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais.
Gwneud cais ar-lein
Cais am Hysbysiad Digwyddiad dros dro (ffenestr newydd)
Gwneud iawn am gais a fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Os cyflwynir gwrth hysbysiad yng nghyswllt hysbysiad gwrthwynebiad gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod. Ni cheir cyflwyno apêl fwy na phum diwrnod gwaith o ddiwrnod y digwyddiad.
Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Cwyn gan ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).
Gwneud iawn mewn achosion eraill
Os ydy’r awdurdod trwyddedu yn penderfynu peidio â chyflwyno gwrth hysbysiad yng nghyswllt hysbysiad gwrthwynebiad gall y prif swyddog heddlu apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod. Ni cheir cyflwyno apêl fwy na phum diwrnod gwaith o ddiwrnod y digwyddiad.
Manylion cyswllt
Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF
Rhif ffôn: 01352 703030
E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk
Cymdeithasau/Mudiadau’r Diwydiant
National Outdoor Events Association (NDEA) (ffenestr newydd)
Society of Event Organisers (SEO) (ffenestr newydd)
Event Supplier and Services Association (ESSA) (ffenestr newydd)
TSNN Online Directory (ffenestr newydd)
Mewn partneriaeth â EUGO