Tystysgrif gweithredydd pont bwyso
Crynodeb o’r drwydded
Mae’n ofynnol cael tystysgrif cymhwysedd gan Brif Arolygydd Pwysau a Mesurau eich awdurdod lleol i weithredu pont bwyso gyhoeddus.
Meini prawf cymhwysedd
Mae’n rhaid i chi feddu ar wybodaeth ddigonol i gyflawni eich dyletswyddau yn gywir.
Crynodeb o’r Rheoliadau
Gweld crynodeb o feini prawf cymhwysedd y drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Pwysau a Mesurau 1985) Yn benodol Rhan III 'Pwysau a Mesurau Cyhoeddus'
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Bydd. Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais.
Gwneud cais ar-lein
Cais am dystysgrif gweithredydd pont bwyso gyhoeddus (ffenestr newydd)
Gwneud iawn am gais a fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Gall unrhyw unigolyn y mae’r prif arolygydd yn gwrthod rhoi tystysgrif o’r fath iddo apelio yn erbyn hynny i’r Ysgrifennydd Gwladol, a gall ef gyfarwyddo’r prif arolygydd i roi’r dystysgrif os creda bod hynny’n briodol.
Cysylltwch â ni
Ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: 08454 04 05 06
Ffôn Ymholiadau busnes a materion eraill: 01352 703181
E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk
Ysgrifennu at neu ymweld:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Ty Dewi Sant,
Parc Dewi Sant,
Ewlo,
Sir y Fflint
CH5 3FF
Oriau agor ein swyddfa yw 8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Cymdeithasau / Mudiadau’r Diwydiant
National Measurement Office (NMO) (ffenestr newydd)
Civil Engineering Contractors Association (CECA) (ffenestr newydd)
Mewn partneriaeth â EUGO